Uchel Frenin Iwerddon

Roedd Uchel Frenin Iwerddon (Gwyddeleg: Ard Rí na hÉireann) yn frenin oedd yn hawlio sofraniaeth dros holl ynys Iwerddon.

Coronid Uchel Frenin Iwerddon ar Fryn Tara. Dywedid fod y Lia Fáil yn y llun yn gweiddi enw'r gwir frenin pan roi ei droed arni.

Ceir rhestri o Uchel Frenhinoedd Iwerddon sy'n mynd yn ôl filoedd o flynyddoedd, ond credir mai cymeriadau mytholegol yw'r rhai cynnar. Cred llawer o ysgolheigion mai yn yr 8g y crewyd y syniad. Yn y cyfnod cynnar roedd y swydd yn un grefyddol yn bennaf; yn llenyddiaeth gynnar Iwerddon mae'r brenin yn frenin am ei fod wedi priodi sofraniaeth yr ynys yn ffurf y dduwies Medb.

Roedd Iwerddon wedi ei rhannu yn llawer o deyrnasoedd. Swyddogaeth seremonïol oedd i'r Uchel; Frenin yn bennaf, a dim ond yn ei deyrnas ei hun yr oedd yn rheoli mewn gwirionedd. Erbyn yr 11g roedd arwyddion fod y swydd yn dod yn un a mwy o rym iddi. Yr enwocaf o'r Uchel Frenhinoedd oedd Brian Boru, a laddwyd ym Mrwydr Clontarf yn 1014.