Ullswater

llyn yn Lloegr

Llyn ail fwyaf yn Ardal y Llynnoedd, Cumbria, Gogledd-orllewin Lloegr, yw Ullswater, a leolir ger pentrefi Glenridding a Pooley Bridge. Mae ganddo hyd o 9 milltir (14.5 km), lled o 0.75 milltir (1,200 m) a dyfnder o tua 60 metr (197 troedfedd) yn ei ran ddyfnaf. Mae'r llyn yn boblogaidd iawn gan dwristiaid a gellir dringo sawl mynydd o Glenridding a Pooley Bridge, ar lan y llyn, yn cynnwys Helvellyn ac Arthur's Pike.

Ullswater
Mathribbon lake Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolCumbria
Daearyddiaeth
Ardal warchodolParc Cenedlaethol Ardal y Llynnoedd Edit this on Wikidata
SirCumbria
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Arwynebedd8.9 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr144 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau54.5719°N 2.9005°W Edit this on Wikidata
Cod OSNY42532043 Edit this on Wikidata
Hyd11.8 cilometr Edit this on Wikidata
Rheolir ganyr Ymddiriedolaeth Genedlaethol Edit this on Wikidata
Cadwyn fynyddArdal y Llynnoedd, Lloegr Edit this on Wikidata
Map
Perchnogaethyr Ymddiriedolaeth Genedlaethol Edit this on Wikidata

Mae'r enw Ullswater o darddiad Norseg ond mae union ystyr Ull yn ansicr.

Ger Pooley Bridge ar lan ddwyreiniol y llyn ceir tŷ Eusemere, a fu'n gartref yr ymgyrchydd yn erbyn caethwasanaeth Thomas Clarkson (1760–1846). Ymwelai'r bardd William Wordsworth a'i chwaer Dorothy â'u cyfaill ar sawl achlysur. Ar ôl ymweliad yn Ebrill 1802, ysbrydolwyd Wordsworth i sgwennu un o'i gerddi mwyaf adnabyddus, "Daffodils", ar ôl gweld cennin pedr gwyllt yn tyfu ar lan Ullswater ar ei ffordd yn ôl i Grasmere.

Eginyn erthygl sydd uchod am Cumbria. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato