Anifail mytholegol a bortreadir gan amlaf fel ceffyl gwyn ac iddo gorn hir sy'n tyfu o'i dalcen yw'r uncorn (hefyd ungorn ac unicorn, o'r gair Ffrangeg unicorne, o'r geiriau Lladin unus "un" + cornus "corn"). Mae'n symbol o ffrwythlonedd wrywaidd, fel y mae ei gorn hir yn awgrymu.

Yr Uncorn a'r forwyn ; darlun mewn llawysgrif o ddechrau'r 16eg ganrif, yn yr Historisches Museum, Basel

Ceir sawl cyfeiriad at y creadur yn llenyddiaeth yr Oesoedd Canol. Mae'n un o greaduriad amlycaf y bwystorïau canoloesol. Deillia'r cyfeiriadau ato yn y Gymraeg o gyfieithiadau o lyfr y Ffrancwr Richart de Fornival (1201 - c.1260), sef y Bestiaire d'Amour ("Bwystori Serch"). Dyma'r disgrifiad o'r uncorn a geir yng nghyfieithiad Llywelyn Siôn o waith Fornival:

Ac am hynny y delaist di fi drwy aroglau, megis y delir yr uncorn drwy aroglau morwyn ieuanc, am nad oes yn y byd un anifail mor anodd i ddala ag ef, ac un corn sydd iddo ynghanol ei dalcen, ac nid oes na dyn nac anifail a feiddo ei aros ond morwyn ieuanc lân wyry. Cans pan glywo ef aroglau y forwyn a'u mwyn serchogrwydd, ef a ddaw ati, ac ef a ry[dd] ei ben yn ei harffed hi, ac yna y cwsg ef, a'r helwr call a edwyn hynny, a phan êl ef i hela y gosod ef forwyn ar ei ffordd ef.[1]

Mae rhai haneswyr yn meddwl bod chwedl yr uncorn yn deillio o ddisgrifiadau teithwyr cynnar o'r rhinoseros. Yn y bwystorïau fe'i darlunir fel gelyn yr eliffant, sy'n ofni ei gorn hir. Fel yr adroddir uchod, gall helwyr ei ddal drwy dwyll, gan ddefnyddio morwyn i'w ddal.

Symbolaeth Gristnogol golygu

Ymgorfforwyd yr uncorn yn chwedloniaeth yr Eglwys Gristnogol yn symbol alegorïaidd o Grist gan fod yr apostol Luc yn sôn am Grist fel "corn iachawdwriaeth" (Luc 1:69). Mae'r forwyn yn cael ei huniaethu â Mair Forwyn, sydd hefyd yn symbol o'r Eglwys ei hun. Aeth rhai diwinyddion i uniaethu corn yr uncorn â'r Groes ei hun. Roedd powdr o ddarnau tybiedig o'r gorn yn gwrthweithio gwenwyn. Yn groes i'w darddiad paganaidd, daeth yr uncorn yn symbol o ddiweirdeb hefyd ac mae'n cael ei gysylltu â ddwy santes cynnar o'r enw Justina.[2]

Cyfeiriadau golygu

  1. Graham C. G. Thomas (gol.), A Welsh Bestiary of Love (Dulyn, 1988), tud. 21.
  2. J. C. J. Metford, Dictionary of Christian lore and legend (Thames & Hudson, 1983).

Darllen pellach golygu

  • Chris Lavers. The Natural History of Unicorns (Granta, 2010).