Undeb Pêl-droed Denmarc

corff llywodraethol

Y Dansk Boldspil Union (DBU), Undeb Pêl-droed Denmarc, yw corff llywodraethol pêl-droed yn nheyrnas Denmarc. Dyma'r corff sy'n goruchwilio Tîm Pêl-droed Cenedlaethol Denmarc, tîm cenedlaethol merched Denmarc, goruchwilio'r clybau, rhedeg y cynghreiriau. Fe lleolir ei phencadlys yn ninas Brøndby ac mae'n un o aelodau sefydliadol FIFA yn 1904 ac UEFA yn 1954. Y DBU hefyd yw corff llywodraethol futsal Denmarc ers 2008.

Undeb Pêl-droed Denmarc
UEFA
[[File:|150px|Association crest]]
Sefydlwyd18 Mai 1889; 134 o flynyddoedd yn ôl (1889-05-18)
Aelod cywllt o FIFA1904
Aelod cywllt o UEFA1954
LlywyddJesper Møller (2014–)
Gwefanwww.dbu.dk

Un o nodweddion y gymdeithas yw defnydd o ffont Art Nouveau ar ei bathodyn chwaethus.

Maint yr Undeb golygu

Yn 2013, roedd gan yr DBU 341,342 o aelodau (270,791 o ddynion a 70,551 o fenywod) ar gyfer 16,721 clwb.[1].

Sefydlu golygu

 
Carfan Denmarc, Gemau Olympaidd 1912

Sefydlwyd y DBU yn 1889 a hi oedd y Gymdeithas Bêl-droed genedlaethol gyntaf i'w sefydlu y tu allan i wledydd Prydain ac Iwerddon.[2] Serch hynny, ni wnaeth gofrestru gemau'n swyddogol nes Gemau Olympaidd 1908. Golyga hyn nad yw'r gemau a enillwyd yng nghystadleuaeth Intercalated 1906 wedi eu cofnodi'n swyddogol gan y DBU.

Strwythur y Cystadlaethau golygu

Dynion golygu

  • Cynghrair
    • Superliga
    • 1. Division)
    • 2. Division (ceir cynghrair Dwyrain a cynghrair Dwyrain)
    • Danmarksserien (3 grŵp)
  • Cwpan

Merched golygu

  • Cynghrair Elite (Elite Divisionen)
  • 1. Division
  • Danmarksserien (3 grŵp)
  • Landspokalturneringen (Cwpan Merched Denmarc)

Strwythur Rhanbarthol golygu

 
     DBU Jutland (numbers indicate regions)      DBU Funen      DBU Zealand      DBU Lolland-Falster      DBU Copenhagen      DBU Bornholm

Rhennir y DBU i 6 gymdeithas ranbarthol sy'n seiliedig ar gyn siroedd Denmarc:

  • DBU Jutland, which in turn is separated into 4 regions:
    • Rhanbarth 1: Sir Nordjylland
    • Rhanbarth 2: Sir Viborg a Sir Ringkjøbing
    • Rhanbarth 3: Sir Århus a Sir Vejle
    • Rhanbarth 4: Sir Ribe an Sir De Jutland
  • DBU Funen: Sir Funen
  • DBU Zealand: Sir West Zealand, Sir Roskilde, Sir Frederiksborg, Sir Copenhagen a rhan Zealand o Sir Storstrøm
  • DBU København: Frederiksberg a bwrdeisdrefi Copenhagen
  • DBU Lolland-Falster: Rhan tu allan i Zealand o Sir Storstrøm
  • DBU Bornholm: Bwrdeisdref Bornholm

Mae gan Ynysoedd Ffaröe a'r Ynys Las, sy'n wledydd hunanlywodraethol o fewn Teyrnas Denmarc, eu cymdeithasau pêl-droed eu hunain nad sy'n rhan o'r DBU. Yr Ynys Las yw'r unig wlad nad sy'n aelod o FIFA nac unrhyw gorff cyfandirol. Mae Ynysoedd y Ffaroe yn aelodau o FIFA ac UEFA.

Cyfeiriadau golygu

  1. Medlemstal 1910-2013 sur le site officiel de la DBU
  2. uefa.com. "Denmark - Member associations - Inside UEFA – UEFA.com". UEFA.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-06-15. Cyrchwyd 19 March 2018.

Dolenni allanol golygu