Undeb y Maghreb Arabaidd

Sefydlwyd Undeb y Maghreb Arabaidd (Arabeg: اتحاد المغرب العربي‎ Ittihad al-Maghrib al-Araby, Ffrangeg: Union du Maghreb arabe) yn 1989 fel cytundeb masnach pan-Arabaidd gyda'r nod o hyrwyddo undeb economaidd a gwleidyddol yn y Maghreb Mawr yng ngogledd-orllewin Affrica. Cyfeirir at yr undeb fel UMA fel rheol.

Undeb y Maghreb Arabaidd
Enghraifft o'r canlynolsefydliad rhynglywodraethol Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1989 Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://maghrebarabe.org/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Emblem yr Undeb

Ceir pum aelod-wladwriaeth, sef Algeria, Libia, Mauritania, Moroco, a Tiwnisia. Lleolir y pencadlys yn Rabat, prifddinas Moroco.

Y problemau gwleidyddol rhanbarthol mwyaf sy'n wynebu'r Undeb yw'r sefyllfa yn nhiriogaeth dadleuol Gorllewin Sahara, a reolir gan Moroco ond a hawlir gan fudiadau dros annibyniaeth, a'r tensiynau rhwng Moroco ac Algeria sydd wedi arwain at gau'r ffin rhwng y ddwy wlad a llesteirio datblygiad cysylltiadau cludiant rhanbarthol trwy Algeria.

Yn 2023, mae'r prosiect arian sengl yn yr ardal yn parhau i fod yn dechnegol ymarferol ond yn wleidyddol anfeidrol.[1].

Aelodau golygu

 
Aelodau'r Undeb

Yn 16fed sesiwn gweinidogion tramor UMA, a gynhaliwyd ar 12 Tachwedd 1994 yn Algiers, gwnaeth yr Aifft gais ffurfiol i ddod yn aelod.

Gweler hefyd golygu

Dolenni allanol golygu