Universiade

recurring international multi-sport event, organized for university athletes

Cystadleuaeth aml-chwaraeon ryngwladol yw'r Universiade a drefnir gan y Ffederasiwn Chwaraeon Prifysgol Rhyngwladol (FISU) ar gyfer mabolgampwyr sy'n fyfyrwyr prifysgol. Cynhelir gemau'r haf a'r gaeaf pob dwy flynedd, mewn dinasoedd ar wahân. Mae'r Universiade hefyd yn ŵyl ddiwylliannol i geisio dathlu "ysbryd cyfeillgar a sbortsmonaeth".[1]

Universiade
Enghraifft o'r canlynoldigwyddiad rheolaidd ym myd chwaraeon Edit this on Wikidata
Mathdigwyddiad aml-chwaraeon, international competition Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1959 Edit this on Wikidata
Yn cynnwysSummer Universiade, Winter Universiade Edit this on Wikidata
Enw brodorolUniversiade Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.fisu.net/sport-events Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Baner FISU

Cynhaliwyd cystadlaethau rhyngwladol ar gyfer myfyrwyr ers dechrau'r 20g. Erbyn y 1950au roedd Undeb Rhyngwladol y Myfyrwyr (ISU) a FISU yn trefnu pencampwriaethau ar wahân: Gemau Prifysgol y Byd gan ISU, a'r Wythnosau Chwaraeon Prifysgol Rhyngwladol gan FISU. Cytunodd y ddau sefydliad i gefnogi mabolgampau yn Torino, yr Eidal, ym 1959. Rhoddwyd yr enw Universiade ar y gemau hyn, cyfuniad o'r geiriau Eidaleg università ac olimpiade.[2]

Gemau'r Haf golygu

Gemau Universiade yr Haf
 
Gwledydd sydd wedi cynnal y gemau:
     Unwaith      Dwywaith      Tair gwaith      Pedair gwaith
Blwyddyn Rhif Lleoliad
1959 I Torino   Yr Eidal
1961 II Sofia   Bwlgaria
1963 III Porto Alegre   Brasil
1965 IV Bwdapest   Hwngari
1967 V Tokyo   Japan
1970 VI Torino   Yr Eidal
1973 VII Moscfa   Undeb Sofietaidd
1975 VIII Rhufain   Yr Eidal
1977 IX Sofia   Bwlgaria
1979 X Dinas Mecsico   Mecsico
1981 XI Bwcarést   Romania
1983 XII Edmonton   Canada
1985 XIII Kobe   Japan
1987 XIV Zagreb   Iwgoslafia
1989 XV Duisburg   Almaen
1991 XVI Sheffield   Y Deyrnas Unedig
1993 XVII Buffalo   Unol Daleithiau
1995 XVIII Fukuoka   Japan
1997 XIX Sisili   Yr Eidal
1999 XX Palma de Mallorca   Sbaen
2001 XXI Beijing   Gweriniaeth Pobl Tsieina
2003 XXII Taegu   De Corea
2005 XXIII İzmir   Twrci
2007 XXIV Bangkok   Gwlad Tai
2009 XXV Beograd   Serbia
2011 XXVI Shenzhen   Gweriniaeth Pobl Tsieina
2013 XXVII Kazan   Rwsia
2015 XXVIII Gwangju   De Corea
2017 XXIX Taipei   Taipei Tsieineaidd
2019 XXX Napoli   Yr Eidal
2021 XXXI Bwcarést   Romania

Cynhelir gemau Universiade yr haf dros 12 niwrnod. Mae 11 o chwaraeon gorfodol (14 o ddisgyblaethau), a hyd at 3 o chwaraeon a ddewisir gan y wlad sy'n cynnal y gemau. Y 14 mabolgamp orfodol yw athletau, cleddyfa, gymnasteg gelfydd, gymnasteg rythmig, jiwdo, nofio, pêl-droed, pêl-fasged, pêl-foli, plymio, polo dŵr, taekwondo, tenis, a thenis bwrdd. Mae disgwyl ychwanegu saethyddiaeth at restr y chwaraeon gorfodol yn 2019, a badminton yn 2021.[1]

Gemau'r Gaeaf golygu

Gemau Universiade y Gaeaf
 
Gwledydd sydd wedi cynnal y gemau:
     Unwaith      Dwywaith      Tair gwaith      Pedair gwaith      Pum gwaith      Chwe gwaith
Blwyddyn Rhif Lleoliad
1960 I Chamonix   Ffrainc
1962 II Villars-sur-Ollon   Y Swistir
1964 III Špindlerův Mlýn   Tsiecoslofacia
1966 IV Sestriere   Yr Eidal
1968 V Innsbruck   Awstria
1970 VI Rovaniemi   Ffindir
1972 VII Lake Placid   Unol Daleithiau
1975 VIII Livigno   Yr Eidal
1978 IX Špindlerův Mlýn   Tsiecoslofacia
1981 X Jaca   Sbaen
1983 XI Sofia   Bwlgaria
1985 XII Belluno   Yr Eidal
1987 XIII Štrbské Pleso   Tsiecoslofacia
1989 XIV Sofia   Bwlgaria
1991 XV Sapporo   Japan
1993 XVI Zakopane   Gwlad Pwyl
1995 XVII Jaca   Sbaen
1997 XVIII Muju   De Corea
1999 XIX Poprad-Tatry   Slofacia
2001 XX Zakopane   Gwlad Pwyl
2003 XXI Tarvisio   Yr Eidal
2005 XXII Innsbruck   Awstria
2007 XXIII Torino   Yr Eidal
2009 XXIV Harbin   Gweriniaeth Pobl Tsieina
2011 XXV Erzurum   Twrci
2013 XXVI Trentino   Yr Eidal
2015 XXVII Granada   Sbaen
Štrbské Pleso/Osrblie   Slofacia
2017 XXVIII Almaty   Casachstan
2019 XXIX Krasnoyarsk   Rwsia
2021 XXX Lucerne   Y Swistir

Para gemau Universiade y gaeaf am 11 niwrnod. Mae 6 o chwaraeon gorfodol (8 o ddisgyblaethau) gan raglen gemau'r gaeaf, a hyd at 3 o chwaraeon dewisiol. Yr 8 mabolgamp orfodol yw'r biathlon, cwrlo, eirafyrddio, hoci iâ, sgio Alpinaidd, sgio traws gwlad, sglefrio ffigyrau a sglefrio ar y cyd, a sglefrio cyflym trac byr.[3]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Summer Universiade Archifwyd 2017-01-19 yn y Peiriant Wayback., FISU. Adalwyd ar 9 Rhagfyr 2016.
  2. (Saesneg) FISU History Archifwyd 2017-01-19 yn y Peiriant Wayback., FISU. Adalwyd ar 9 Rhagfyr 2016.
  3. (Saesneg) Winter Universiade Archifwyd 2015-02-04 yn y Peiriant Wayback., FISU. Adalwyd ar 9 Rhagfyr 2016.

Dolenni allanol golygu

 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: