Unsiambraeth

deddfwriaeth sydd ond yn cynnwys un siambr (senedd) nid dwy neu fwy.

Mae deddfwrfa neu system unsiambraeth yn golygu bod gwladwriaeth yn cynnwys un cynulliad deddfwriaethol yn unig (gelwir yn aml yn "siambr"), nid dwy neu fwy.

     Gwladwriaethau â deddfwrfa deusiambr.     Gwladwriaethau â deddfwrfa unsiambr     Gwladwriaethau â deddfwrfa unsiambr ond corff cynghori hefyd.     Gwladwriaethau heb ddim deddfwrfa.

Mae llawer o wledydd sydd â systemau unsiambr [1] yn wladwriaethau unedol bach, homogenaidd sy'n gweld tŷ uchaf neu siambr arall yn ddiangen. Mewn system dwysiambraeth ceir fel rheol dwy siambr a elwir yn generig, "y siambr isaf" a'r "siambr uchaf", ond ceir amrywiaethau lleol megis y Tŷ'r Cyffredin a Tŷ'r Arglwyddi yn y Deyrnas Unedig.

Dadleuon o blaid Deddfwrfa Unsiambr golygu

 
Tu fewn y Folketing, senedd Denmarc a ddaeth yn ddeddfwrfa unsiambr yn 1953

Un o'r safbwyntiau o blaid seneddau unsiambr yw y byddai siambr uchaf, a etholir gyda'r un gweithdrefnau a swyddogaethau â siambr is, yn ddyblyg ddiwerth. Yn ôl y theori hon, gall pwyllgorau seneddol gyflawni swyddogaeth "myfyrio", a ymddiriedir yn aml i'r ail siambr, tra gellir ymddiried mewn cyfansoddiad ysgrifenedig i ddiogelu'r cyfansoddiad.

Mewn llawer o achosion, mae gwladwriaethau sydd heddiw wedi mabwysiadu gweindyddiaeth unsiambr wedi bod â dau siambr yn y gorffennol. Un rheswm dros newid o'r fath yw gorgyffwrdd y siambr uchaf â'r siambr isaf a'i rhwystr o'r broses ddeddfwriaethol, er enghraifft diddymwyd yr hyn a ddigwyddodd i Landsting, ail siambr Denmarc ym 1953. Efallai mai rheswm arall yw aneffeithiolrwydd siambrau fel teimlwyd yn achos Gyngor Deddfwriaethol Seland Newydd, a ddiddymwyd ym 1951.

Mae cefnogwyr unsiambraeth yn pwysleisio'r angen i reoli gwariant seneddol a dileu'r gwaith diangen a wneir gan y ddwy siambr. Mae beirniaid siambr sengl yn pwysleisio cydbwysedd y pwerau y mae system siambr ddeuol yn eu caniatáu, gan ofyn am fwy o gonsensws ar faterion deddfwriaethol. Un o nodweddion y siambr sengl yw rhoi mwy o ddylanwad i ardaloedd trefol mwy poblog nag i ardaloedd gwledig tenau eu poblogaeth.

Rheswm arall a ddaeth â chefnogaeth y siambr sengl yw y bydd yn hawdd ei ddilyn gan ostyngiad yn nifer y seneddwyr a chydweithredwyr. Mae hyn yn cynnwys rhai ystyriaethau:

  • gostyngiad mewn costau polisi;
  • crynodiad mwy o bwerau;
  • etholaethau mwy, llai seneddol fesul mil o drigolion, ac felly llai o gynrychiolaeth o'r etholwyr a llai o wleidyddiaeth yn y diriogaeth.

Mae llawer o wledydd sydd â systemau un siambr yn wladwriaethau unedol bach, homogenaidd sy'n gweld tŷ uchaf neu siambr arall yn ddiangen.

Gweriniaeth Iwerddon golygu

 
Tŷ Leinster, Dulyn. Pleidleisiodd Iwerddon dros gadw'r Weriniaeth yn ddeddfwrfa deusiambr yn 2013

Cafwyd trafodaeth fywiog [2] yng Ngweriniaeth Iwerddon dros ac yn erbyn symud y Ddeddfwrfa, yr Oireachtas, i system unsiambr gan ddileu Seanad Éireann (yr ail siambr llai) a dim ond cadw'r Dáil Éireann. Arweiniodd hyn at gynnal refferendwm ar y pwnc yn 2013.

Cafwyd dadleuon dros ddiwygio'r Seanad yn hytrach na'i ddileu.[3] Cafwyd refferendwm,a oedd yn ffurfiol ar "Thirty-second Amendment of the Constitution (Abolition of Seanad Éireann) Bill 2013"[4] ei chynnal ar 4 Hydref 2013. Aeth 39% o'r boblogaeth i bleidleio, a hynny yn erbyn dileu'r Seanad. Pleidleisiodd 591,937 yn o blaid dileu y Seanad (48.2%) a 634,437 (51.8%) yn erbyn.[5]

Deddfwrfeydd Unsiambr Gwledydd Annibynnol Ewrop golygu

Unsiambriaeth mewn Tiriogaethau Is-wladwriaeth golygu

 
Senedd Fflandrys, y "Vlaams Parlement", Brwsel

Y norm gyda cenhedloedd neu diriogaethau is-wladwriaeth yw unsiambraeth. Gwelir hyn yn achos Cymru lle ceir ond un siambr, sef Senedd Cymru. Gellid dadlau bod y senedd ganolog wladwriaethol yn gweithredu fel ail siambr answyddogol o ran bod mesurau a deddfau o fewn cwmpawd penodol o hawliau sydd gan deddfwrfa cenedl neu diriogaeth is-wladwriaethol.

Ymysg y deddfwriaethau is-wladwriaeth sydd â system unsiambraeth mae:

Yr Unol Daleithiau golygu

Mae'r Unol Daleithiau yn eithriad lle mae gan y taleithiau draddodiad balch o gynnal deddfwrfeydd dwysiambr yn hytrach nag unsiambriaeth. O fewn i'r UDA, dim ond talaith Nebraska sydd â deddfwrfa unsiambr - newidiwyd i'r system yma wedi pleidlais i neud o'r dwysiambr yn 1937.[7][8] Darganfyddodd astudiaeth yn 2018 bod ymdrechion i symud i unsiambriaeth yn nhaleithiau Ohio a Missouri wedi methu oherwydd gwrthwynebiad gan bobl cefn gwlad[8] lle roedd pryder y byddai cymunedau gwledig yn colli dylanwad mewn system lle ceir ond un siambr.[8]


Gweler hefyd golygu

Dolenni golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. http://termau.cymru/#unicamera
  2. https://www.theguardian.com/commentisfree/2013/oct/03/ireland-seanad-reform-not-abolition
  3. https://assets.gov.ie/8456/d3ad1abe164149669ce5108accb17a51.pdf
  4. "Thirty-second Amendment of the Constitution (Abolition of Seanad Éireann) Bill 2013". Bills 1992–2013. Oireachtas. Cyrchwyd 9 July 2013.
  5. https://www.rte.ie/news/2013/1005/478505-referendum-count/
  6. Hyd at 2009, gellid rhannu Stortio yn ddwy ystafell ar gyfer rhai swyddogaethau. Ers etholiadau 2009 mae wedi dod yn senedd un siambr arferol.
  7. "History of the Nebraska Unicameral". nebraskalegislature.gov. Cyrchwyd 2015-04-17.
  8. 8.0 8.1 8.2 Myers, Adam S. (2018). "The Failed Diffusion of the Unicameral State Legislature, 1934–1944" (yn en). Studies in American Political Development 32 (2): 217–235. doi:10.1017/S0898588X18000135. ISSN 0898-588X.