Dinas a chymuned (comune) yn nwyrain yr Eidal yw Urbino. Mae'n un o ddwy brifddinas talaith Pesaro-Urbino yn rhanbarth Marche. Roedd y boblogaeth yn 2011 yn 15,501.[1]

Urbino
Mathcymuned, dinas, cyrchfan i dwristiaid Edit this on Wikidata
Poblogaeth13,734 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+01:00, CET, UTC+2 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iKazan’, Blois, Gwengamp Edit this on Wikidata
NawddsantCrescentinus Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirTalaith Pesaro ac Urbino Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Eidal Yr Eidal
Arwynebedd226.5 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr485 metr Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaAcqualagna, Vallefoglia, Fermignano, Isola del Piano, Lunano, Montecalvo in Foglia, Monteciccardo, Montelabbate, Peglio, Petriano, Piandimeleto, Piobbico, Sant'Angelo in Vado, Sassocorvaro Auditore, Tavoleto, Urbania, Fossombrone, Montefelcino, Mondaino Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau43.725239°N 12.6372°E Edit this on Wikidata
Cod post61029 Edit this on Wikidata
Map

Saif y ddinas 485 medr uwch lefel y môr, gyda muriau o'i hamgylch. Yr adeilad pwysicaf yw'r Palazzo Ducale, sy'n dyddio o'r 15g. Yn yr adeilad yma, ceir yr amgueddfa Galleria Nazionale delle Marche, lle ceir gweithiau megis 'La Muta' (Raffael), 'Veduta della Città Ideale' (Piero della Francesca) a'r 'Swper Olaf' (Titian). Sefydlwyd y brifysgol yn 1506. Dynodwyd canol hanesyddol Urbino yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO yn 1998.

Hanes golygu

Dinas Rhufeinig oedd Urbino. "Urbinum Mataurense" (dinas fach ar afon Mataurus) oedd ei henw.

Adeiladau a chofadeiladau golygu

  • Dinas yr Albornoz, neu "La Fortezza"
  • Duomo di Urbino (eglwys gadeiriol)
  • Eglwys San Giovanni Battista
  • Eglwys Sant'Agostino
  • Palas y Dug

Pobl enwog o Urbino golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. City Population; adalwyd 8 Mai 2018

Dolen allanol golygu