Santes Frythonig oedd Ursula (Lladin neu Wrswla, sy'n golygu "arthes fechan"). Ei dydd gŵyl yw 21 Hydref.

Santes Ursula: paentiad tempera ar banel gan Carlo Crivelli (tua 1435 – tua 1495) (Duomo Sant'Emidio, Ascoli Piceno, yr Eidal)

Y chwedl yw ei bod yn dywysgoges o deyrnas Dumnonia (Dyfnaint). Ar gais ei thad, hwyliodd am Lydaw at ei darpar-ŵr Cynan Meiriadog, gyda 11,000 o wyryfon fel gweinyddesau. Gyrrodd storm wyrthiol hwy yr holl ffordd i draethau Gâl mewn diwrnod, a phenderfynodd Ursula fynd ar bererindod. Aeth i ddinas Rhufain, ac yna ymlaen i ddinas Cwlen, oedd dan warchae gan yr Hyniaid. Merthyrwyd y gwyryfon i gyd, a saethwyd Wrswla ei hun yn farw gan arweinydd yr Hyniaid. Dywedir i hyn ddigwydd tua 383.

Ym Masilica y Santes Wrswla yng Nghwlen, ceir creiriau y dywedir eu bod yn weddillion Wrswla a'r gwyryfon. Mae eglwys Llangwyryfon yn Sir Ceredigion wedi ei chysegru iddynt, a gall fod y Lleucu sy'n nawddsant Betws Leucu yn yr un sir yr un person a Lucia, un o gymdeithion Ursula.

Buchedd golygu

Ceir buchedd Ladin ganoloesol i'r santes. Cyfieithwyd y fuchedd i'r Gymraeg tua diwedd y 15g gan y bardd Huw Pennant o Sir y Fflint, brawd Thomas Pennant, abad Dinas Basing. Ceir y testun yn llawysgrif Llansteffan 34.