Utica, Efrog Newydd

Dinas yn nhalaith Efrog Newydd, Unol Daleithiau America, sy'n ddinas sirol Oneida County, yw Utica. Gorwedd dinas Utica yn yr ardal a adnabyddir fel Dyffryn Mohawk (Mohawk Valley) a Rhanbarth Leatherstocking yng nghanolbarth Talaith Efrog Newydd. Mae gan y ddinas nifer o barciau cyhoeddus a lleoedd ar gyfer chwaraeon haf a gaeaf. Utica a dinas gyfagos Rome yw prif ganolfannau Ardal Ystadegol Utica–Rome, sy'n cynnwys swyddi Oneida a Herkimer. Ei llysenw yw "Sin City". Poblogaeth: 60,651 (2000).

Utica, Efrog Newydd
Mathdinas o fewn talaith Efrog Newydd, tref ddinesig Edit this on Wikidata
Poblogaeth65,283 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 2 Ionawr 1734 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserCylchfa Amser y Dwyrain Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirOneida County Edit this on Wikidata
GwladBaner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America
Arwynebedd44.066706 km², 44.067213 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr139 ±1 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau43.1008°N 75.2325°W Edit this on Wikidata
Cod post13500–13599 Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Mayor of Utica, New York Edit this on Wikidata
Map
Erthygl am y ddinas yn Efrog Newydd yw hon. Gweler hefyd Utica (gwahaniaethu).
Golygfa ar ganol Utica

Cysylltiadau Cymreig golygu

Datblygodd un o gymunedau mwyaf yr Americanwyr Cymreig, ac yn sicr un o'r rhai mwyaf dylanwadol, yn Utica. Sefydlodd rhai Cymry yn yr ardal mor gynnar â diwedd y 18g. Ar ôl dioddef cynaeafau gwael yn 1789 a 1802 ac yn y gobaith ennill rhagor o dir, daeth mewnfudwyr Cymreig eraill i ychwanegu at y pum teulu gwreiddiol gan ymgartrefu yn nhreflannau Stueben, Utica a Remsen. Y Cymry oedd y cyntaf i gyflwyno'r diwydiant llaeth i'r ardal, gan dynnu ar eu profiad yn y famwlad, a daeth menyn Cymreig yn nwydd gwerthfawr ym marchnadau Efrog Newydd. Sefydlwyd argraffweisg yn Utica ac roedd wedi'i sefydlu fel prif ganolfan diwylliannol y Cymry yn America erbyn 1830. Roedd yna 19 o gyhoeddwyr gwahanol a argraffodd tua 240 o lyfrau Cymraeg, 4 cylchgrawn Ymneilltuol a'r papur newydd dylanwadol Y Drych.

Yma y cyhoeddai Robert Everett (1791 - 1875), sawl papur a chylchgrawn, gan ymgyrchu yn erbyn caethwasanaeth pobl dduon, gan gynnwys Y Cenhadwr Americanaidd a'r Dyngarwr. Cyfrifid ef yr Americanwr mwyaf poblogaeidd gan lawer. Cyhoeddai'r papurau o'i gartref yn Stueben, cymuned fechan y tu allan i Utica, lle bu'n weinidog ar ddau gapel: 'Capel Uchaf' a chapel 'Penymynydd'.

Mae'r Cymry a gysylltir ag Utica yn cynnwys:

Dolenni allanol golygu