Uwch Gynghrair Gwlad Iorddonen

cynghrair pêl-droed Iorddonen

Cynghrair Proffesiynnol Al-Manaseer yr Iorddonen (Saesneg: AL-Manaseer Jordanian Pro League; (Arabeg: دوري المناصير الأردني للمحترفين) yw Uwch Gynghrair Pêl-droed Gwlad Iorddonen. Dyma'r gynghrair bêl-droed genedlaethol clybiau broffesiynol Gwlad Iorddonen. Mae'r bencampwriaeth yn cynnwys deuddeg tîm sy'n cystadlu mewn system gynghrair, gan chwarae gemau cartref ac oddi cartref. Fe'i gelwir ar hyn o bryd yn yr AL-Manaseer Jordanian Pro League, ar ôl i'r FA lofnodi cytundeb nawdd gyda Grŵp Cwmnïau Ziyad AL-Manaseer.[1].

Uwch Gynghrair Gwlad Iorddonen

Hanes a Fformat y gystadleuaeth golygu

 
Al-Faisaly SC, tîm mwyaf llwyddiannus y Gynghrair, ffoto o'r 1930au

Cynhaliwyd y cystadleueth Gynghrair gyntaf a'i ennill yn 1944 gan Al-Faisaly, tîm o'r brifddinas, Amman. Yn draddodiadol, mae'r brifddinas wedi eu gor-gynrychioli yn y Gynghrair gan fod hyd at 6 neu 7 tîm proffeisynnol yn y ddinas.

Mae fformat y gystadleuaeth yn dilyn y fformat "rownd-robin" dwbl arferol. Yn ystod tymor, sy'n para o fis Medi i fis Mai, mae pob clwb yn chwarae pob clwb arall ddwywaith - unwaith mewn gêm cartref ac unwaith eto oddi cartref, mewn gyfanswm o 22 o gemau. Mae timau'n derbyn tri phwynt am ennill, un pwynt am gêm gyfartal, a dim pwyntiau am golli.

Mae system o hyrwyddo a disodli yn bodoli rhwng Uwch Gynghrair yr Iorddonen ac Is-adran Cynghrair Iorddonen 1. Mae'r ddau dîm isaf yn yr Uwch Gynghrair yn cael eu disodli i Adran 1 y Gynghrair, a'r ddau dîm gorau o Uwch Gynghrair 1 yn cael eu dyrchafu'n Uwch Gynghrair.

Cymhwyster ar gyfer cystadlaethau Asiaidd golygu

 
Daniel Odafin yn cael ei daclo gan chwaraewr Al-Wehdat (yn y gwyrdd)

Y tîm cyntaf yn Uwch Gynghrair yr Iorddonen yn cystadlu yn y gemau ail gyfle ar gyfer cam grŵp Cynghrair Pencampwyr Asia AFC,[2] a'r tîm ail safle ac enillydd Cwpan CBD Gwlad Iorddonen yn cystadlu yng Nghwpan AFC. Os bydd y tîm cyntaf yn colli tîm yn y gemau ail gyfle yng Nghynghrair y Pencampwyr AFC, bydd y chwaraewyr yn chwarae yng Nghwpan AFC yn lle tîm yr ail safle.

Cwpan AFC Asia golygu

Mae'r Iorddonen yn un o wledydd mwyaf llwyddiannus Cwpan AFC gan ennill thri theitl (sef, yr ail wlad mwyaf llwyddiannus ar ôl Kuwait). Tîm clwb Al-Faisaly enillodd dau o'r teitlau yma (2005 a 2006) ac Shabab Al-Ordon enillodd y llall (2007).[3]

Perfformiad fesul Clwb golygu

Ffynhonnell:[4]

Tîm Ennill
Al-Faisaly 34
Al-Wehdat 16
Al-Ahli 8
Al-Jazeera 3
Shabab Al-Ordon 2
Al-Ramtha 2
Jordan 1
Amman 1

Timau Clybiau Treflannau Ffoaduriaid Palesteinaidd golygu

Ceir timau sydd wedi eu sefydlu yn y treflannau Palesteinaidd sydd yn nheyrnas Gwlad Iorddonen. Er nad yw'r rhain i gyd yn chwarae yn yr Uwch Gynghrair, maent yn dimau o sylwedd, gydag Al-Wahdat wedi ennill yr Uwch Gynghrair dros 15 o weithiau:

Al-Wahdat SC
Al-Baqa'a SC
Shabab Al-Hussein
Al-Jalil (Irbid)

Dolenni golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "the FA signed a sponsorship deal with Ziyad AL-Manaseer Companies Group for 1.500.000 JD".
  2. "AFC ExCo okays ACL slots, format". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-12-03. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  3. "AFC Cup Winners".
  4. "Jordan - Number of Wins". RSSSF. Cyrchwyd 2 March 2012.
  Eginyn erthygl sydd uchod am bêl-droed. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.

Nodyn:Cynghrair AFC