Uwch Gynghrair Montenegro

prif gynghrair pêl-droed Montenegro

Y Prva crnogorska fudbalska liga (Yr wyddor Gyrilig: Прва лига Црне Горе; ynganiad: pr̂ːvaː t͡srnǒɡorskaː fûdbaːlskaː lǐːɡa) talfryrir fel Prva CFL neu 1. CFLneu, ar lafar, Prva Liga yw Uwch Gynghrair Montenegro, ei gyfieithiad llythrennol yw "Cynghrair Gyntaf Montenegro". Fe'i sefydlwyd yn 2006 gan Gymdeithas Bêl-droed Montenegro. Mae 10 tîm yn cymryd rhan yn y gynghrair hon. Mae enillydd Cynghrair Gyntaf Montenegro yn cychwyn y cymwysterau ar gyfer Cynghrair y Pencampwyr UEFA o'r ail rownd. Mae'r tîm ail a thrydydd safle ac enillydd Cwpan Montenegro yn chwarae yn rowndiau rhagbrofol Cynghrair Europa UEFA. Mae'r tîm sydd wedi'i osod ddiwethaf yn cael ei israddio yn uniongyrchol i Ail Gynghrair Montenegro, ac mae'r ddau arall yn chwarae yn gemau chwarae Cynghrair Gyntaf Montenegro.

Uwch Gynghrair Montenegro
Logo swyddogol 2007-2018
GwladMontenegro
CydffederasiwnUEFA
Sefydlwyd2006–07
Nifer o dimau10
Lefel ar byramid1
Disgyn iAil Adran Montenegro
CwpanauCwpan Montenegro
Cwpanau rhyngwladolCynghrair y Pencampwyr UEFA
Cynghrair Europa UEFA
Pencampwyr PresennolFK Sutjeska Nikšić
(2018–19)
Mwyaf o bencampwriaethauFK Sutjeska Nikšić (4 teitl)
Prif sgoriwrAdmir Adrović (93 gôl)
Partner teleduRTCG, Arena Sport
Gwefanfscg.me
2019–20

Mae Montenegro yn arddel y arfer Iwgoslafaidd o enw ei phrif adran yn "Prva" fel a geir yn Slofenia, Croatia a Macedonia.

Hanes golygu

Ffurfiwyd Cynghrair Prva Crnogorska yn 2006 o dimau Montenegro yr hen gynghrair ar y cyd â Serbia ac o glybiau cyn gynghrair genedlaethol Montenegro. Cynhaliwyd gêm gyntaf y gynghrair newydd ar 11 Awst 2006 rhwng FK Rudar Pljevlja a FK Budućnost Podgorica a daeth i ben gyda buddugoliaeth 2-0 i FK Budućnost Podgorica, tîm o'r brifddinas. Tîm FK Budućnost Podgorica oedd Herbstmeister, a oedd dri phwynt ar y blaen i'r archifdy FK Zeta Golubovci, ond a orchfygodd ac a enillodd y bencampwriaeth gyntaf iddynt eu hunain yn y pen draw.

Cyn annibyniaeth golygu

 
Arwyddlun FK Sutjeska Niksic, clwb mwyaf llwyddiannus y Prva Liga

Sefydlwyd gwladwriaeth newydd Teyrnas Iwgoslafia wedi'r Rhyfel Byd Cyntaf ac er i Montenegro fod yn wlad annibynnol cyn y Rhyfel fe ymunwyd â'r wladwriaeth newydd gan golli ei theulu brenhinol er iddi gadw, i ddechrau, ei peth o'i hunaniaeth.[1]

Chwaraeodd clybiau Montenegro ym Mhencampwriaeth Bêl-droed Montenegro a ffurfiwyd ym 1922.[2][3][4] Er gwaethaf presenoldeb Pencampwriaeth Bêl-droed Iwgoslafia ledled y wlad, ni chymerodd timau Montenegrin ran ynddo. Cynhaliwyd Pencampwriaeth Bêl-droed Montenegro tan ddechrau'r Ail Ryfel Byd.

Ymhlith y timau mwyaf llwyddiannus yn y cyfnod hwnnw roedd SK Crnogorac Cetinje (10 teitl), GSK Balšić Podgorica (7), FK Lovćen Cetinje (5), FK Budućnost Podgorica (4) ac FK Arsenal Tivat (1). Tra roedd SK Crnogorac a GSK Balšić yn chwarae’r holl dymhorau, gwaharddwyd gwaith FK Buducnost a FK Lovćen ym 1935, gan eu bod yn cael eu cydnabod fel clybiau gweithwyr gan lywodraeth Teyrnas Iwgoslafia a ddaeth yn fwy fwy asgell dde yn ystod yr 1930au.

Ar ôl yr Ail Ryfel Byd a ffurfio Gweriniaeth Ffederal Sosialaidd Iwgoslafia dan arweiniad Tito, daeth y gynghrair uchaf yn Gynghrair Gyntaf Iwgoslafia. Caniatawyd i dimau Montenegro gymryd rhan yn strwythur y gynghrair genedlaethol, gyda Chynghrair Gweriniaeth Montenegro yn gweithredu fel adran haen is gyda dyrchafiad a disgyniad rhwng system gynghrair Iwgoslafia. Y clybiau amlycaf o Montenegro yn y cyfnod hwn oedd FK Buducnost a FK Sutjeska.

Roedd FK Budućnost ymhlith sylfaenwyr Cynghrair Gyntaf Iwgoslafia ac yn aelod o'i dymor agoriadol. Yn ystod y rhan fwyaf o oes SFRY, chwaraeodd FK Buducnost yn Prva Lifa, tra mai'r tîm arall o Montenegro yn yr haen uchaf oedd FK Sutjeska. Chwaraeodd timau eraill yn Ail Gynghrair Iwgoslafia neu rengoedd is. FK Lovćen, a chwaraeodd ddwywaith yng ngemau rhagbrofol y Gynghrair Gyntaf, ond heb lwyddiant ar ddiwedd ymgyrchoedd.

Ffurfiwyd Gweriniaeth Ffederal Iwgoslafia Iwgoslafia ym 1992 yn dilyn ymadawiad Croatia a Slofenia o'r weriniaeth. Chwaraeodd timau Serbia a Montenegro yn y gynghrair hon, er iddi gael ei henwi'n Gynghrair Gyntaf Iwgoslafia. Yn 2003 newidiwyd enw Gweriniaeth Ffederal Iwgoslafia i Gydfferedarliaeth "Serbia a Montenegro" a dilynodd y gynghrair bêl-droed yr un drefn. Chwaraeodd clybiau Montenegro yn y Gynghrair Gyntaf gyda chlybiau Serbia rhwng 1992 a 2006. Roedd FK Buducnost, FK Sutjeska, FK Rudar, FK Mogren, FK Zeta, FK Kom a FK Buducnost gyntaf yng Nghynghrair Gyntaf Iwgoslafia/Serbia a Montenegro.

Ar ôl annibyniaeth golygu

 
Arwyddlun FK Budućnost, un o glybiau mwyaf llwyddiannus y Prva Liga

Yn 2006, ar ôl refferendwm Annibyniaeth, ymranodd Montenegro oddi ar Serbia. Yn dilyn hynny, sefydlwyd Prva Liga - Cynghrair Gyntaf Montenegro, sef yr Uwch Gynghrair. Ar y tymor agoriadol, cynhwyswyd 3 tîm oedd wedi chwarae yn Prva Liga Cynghrair Serbia a Montenegro, saith o'r Ail Gynghrair Serbia a Montenegro, a dau o Gynghrair Gweriniaeth Montenegro.

Yn nhymor 2006-2017, roedd y gynghrair yn cynnwys 12 clwb, a chwaraeodd 33 gêm yn ystod y tymor. O dymor 2017-18 gostyngwyd nifer y clybiau yn y Gynghrair i 10, gyda chystadleuaeth 36 wythnos o hyd.

Erbyn hyn, cymerodd 19 o wahanol glybiau ran yng Nghynghrair Gyntaf Montenegrin. Y rhai mwyaf llwyddiannus oedd FK Sutjeska gyda phedwar teitl a FK Buducnost tri theitl cenedlaethol. Enillodd dau deitl FK Rudar a FK Mogren. Enillwyr eraill oedd FK Zeta ac OFK Titograd gydag un teitl.

Pencampwyr Prva Liga Montenegro golygu

Clwb Tref Pencampwyr Ail Blwyddyn
FK Sutjeska Nikšić
4
1
2012–13, 2013–14, 2017–18, 2018–19
FK Budućnost Podgorica
3
8
2007–08, 2011–12, 2016–17
FK Rudar Pljevlja Pljevlja
2
1
2009–10, 2014–15
FK Mogren Budva
2
-
2008–09, 2010–11
FK Zeta Golubovci
1
2
2006–07
OFK Titograd Podgorica
1
-
2015–16
FK Lovćen Cetinje
-
1

Gemau Darbi golygu

Mae'r brif gystadleuaeth yng Nghynghrair Gyntaf Montenegrin rhwng Buducnost a Sutjeska, a elwir yn aml yn Darbi Montenegro. Chwaraewyd gêm cyntaf o'r darbi mewn cystadlaethau swyddogol ym 1932,[5] a hyd heddiw chwaraeodd dau glwb yng nghystadlaethau haen uchaf SFR Iwgoslafia, FR Iwgoslafia ac, yn yr oes newydd, yng Nghynghrair Gyntaf Montenegro.

Cystadleuaeth draddodiadol arall rhwng FK Buducnost a FK Lovćen Cetinje, oherwydd bod dau glwb yn chwarae gemau pwysig ers y 1920au. Ychwanegir at yr awch gan fod Buducnost yn dod o'r brifddinas, Podgorica, tra mai Lovćen yw'r prif glwb o'r hen brifddinas frenhinol, Cetinje.

Dolenni golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. https://encyclopedia.1914-1918-online.net/article/montenegro
  2. "Traume odrastanja crnogorskog fudbala". Vijesti.me. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-11. Cyrchwyd 17 September 2017.
  3. "FUDBAL U CRNOJ GORI DO DRUGOG SVJETSKOG RATA (I): Lovćen – prvi fudbalski klub". Monitor.co.me. 2012-06-15. Cyrchwyd 2017-01-19.
  4. "BARinfo - Naši klubovi drugačijeg imena". Barinfo.me. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-02-06. Cyrchwyd 2017-01-19.
  5. "1932-1933". Exyufudbal.in.rs. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-11-05. Cyrchwyd 17 September 2017.
  Eginyn erthygl sydd uchod am bêl-droed. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.