Uwch Gynghrair Slofacia

uwch gynghrair pêl-droed Slofacia

Gelwir Uwch Gynghrair Slofacia yn Super Liga. Gan mai prif noddwr cyfredol y Gynghrair yw Fortuna, gelwir yn swyddogol yn Fortuna Liga.[1] Sefydlwyd y Gynhrair yn 1993 yn dilyn rhannu hen wladwriaeth Tsiecoslofacia ar 1 Ionawr 1993. Y clwb sydd wedi ennill y mwyaf o bencampwriaethau yw ŠK Slovan Bratislava.

Fortuna liga
GwladSlovacia
CydffederasiwnUEFA
Sefydlwyd1993
Nifer o dimau12
Lefel ar byramid1
Disgyn i2. liga
CwpanauSlovnaft Cup
Cwpanau rhyngwladolChampions League
Europa League
Pencampwyr PresennolŠK Slovan Bratislava
(2018–19)
Mwyaf o bencampwriaethauŠK Slovan Bratislava (9 teitl)
Partner teleduSlovenská televízia, RTVS
OrangeTV
Gwefanhttp://www.fortunaliga.sk/
2019–20 Fortuna liga

Hanes golygu

 
Slovan Bratislava 1964, tîm mwyaf llwyddiannus Slofacia ers canrif

Cyn 1918 roedd Slofacia yn rhan o ran Hwngari o Ymerodraeth Awstria-Hwngari. Sefydlwyd rhai o glybiau'r wlad yn ystod y cyfnod hwnnw.

Wedi i Awstria-Hwngari (a'r Almaen) golli'r Rhyfel Mawr sefydlwyd gwladwriaeth newydd Tsiecoslofacia yn 1918. Cynhaliwyd pencampwrieth Slofacaidd gyntaf, y Zväzové Majstrovstvá Slovenska rhwng timay o Slofacia rhwng 1925-1933. Hyd nes 1935-36 doedd dim un tîm o Slofacia wedi chwarae yng Nghynhrair Gynraf Tsiecoslofacia, cynghrair broffesiynnol y wladwrieth. Yr unig dîm o Slofacia yn yr uwch gynghrair yma oedd ŠK Slovan Bratislava. Yn 1938 meddiannwyd Tsiecoslofacia gan y Natsiaid ac yna rhannwyd y wladwrieth, gyda Slofacia yn ennill annibyniaeth (er, gwelai nifer o bobl hyn fel gwlad byped i'r Natsiaid).[2] Bu'n rhaid i Slovan Bratislava adael cynghrair Tsiecoslofacia ac ymuno â chynghrair newydd y Slovenská liga (1939–1945) yng ngwladwriaeth newydd 'annibynnol', Slofacia.

Wedi i'r Natsiaid golli'r Ail Ryfel Byd yn 1945 ail-unwyd Slofacia gyda'r tiroedd Tsiec i ail-sefydlu Tsiecoslofacia (ond heb Ruthenia yn y dwyrain eithaf a 'wobrwyyd' i Iwcrain) gan Stalin.

Bu timau Slofacia yn chwarae yng nghyngrair Tsiecoslofacia hyd nes i'r wladwriaeth hwnnw ddod i ben ar ddiwrnod olaf 1992, ac ar 1 Ionawr 1993 crewyd dwy wlawriaeth newydd, Slofacia a'r Gweriniaeth Tsiec.

Enillwyr:[3]

Noddwyr golygu

 

cyfnod Noddwr Enw
1993–1997 Dim prif noddwr Superliga
1997–2002 Reemtsma Mars superliga
2002–2003 Dim prif noddwr Superliga
2003–2014 Heineken Corgoň liga[4]
2014–2023 Fortuna Fortuna liga[5]

Timau Cyfredol (2018–2019) golygu

Tîm Stadiwm Capasiti neu seddi
FC DAC 1904 Dunajská Streda MOL Aréna 10,352
FC Spartak Trnava Štadión Antona Malatinského 19,200
FC ViOn Zlaté Moravce Štadión FC ViOn 4,000
AS Trenčín Štadión na Sihoti 3,500
FK Senica OMS ARENA Senica 5,070
MFK Ružomberok Štadión pod Čebraťom 4,817
ŠKF Sereď Štadión pod Zoborom 7,480
MFK Zemplín Michalovce Mestský futbalový štadión 4,440
MŠK Žilina Štadión pod Dubňom 11,313
ŠK Slovan Bratislava Štadión Pasienky 11,591
FK Železiarne Podbrezová ZELPO Aréna 4,061
FC Nitra Štadión pod Zoborom 7,480

Source for teams:[6]

Pencampwyr yn ôl Dinas golygu

Dinas Teitl Clybiau Buddugol
  Bratislava
12
Slovan Bratislava (8), Inter Bratislava (2), Artmedia Petržalka (2)
  Žilina
7
MŠK Žilina (7)
  Košice
2
VSS Košice (2)
  Trenčín
2
AS Trenčín (2)
  Ružomberok
1
MFK Ružomberok (1)
  Trnava
1
FC Spartak Trnava (1)

Bold indicates clubs currently playing in the top division.

Seren Aur golygu

Yn seiliedig ar syniad Umberto Agnelli, rhoddir yr anrhydeddd o wisgo Seren Aur i dîm sydd wedi ennill sawl pencampwriaeth ar eu crysau.

Dim ond dau dîm yn Super Liga sy'n cael gwisgo'r anrhydedd yma sef:

Dolenni golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Fortuna Liga: Standings". Slovakia: National League. FIFA. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 21 January 2012. Cyrchwyd 23 February 2012. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  2. "Where's My Country? Czech clubs in the German football structure 1938–1944". Rsssf.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 March 2016. Cyrchwyd 27 January 2016. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  3. "Slovakia - List of Champions". www.rsssf.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 6 September 2015. Cyrchwyd 1 May 2018. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  4. a.s., Petit Press. "Dnes prvýkrát na futbalovú Corgoň ligu". sme.sk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 8 July 2017. Cyrchwyd 1 May 2018. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  5. Teraz.sk. "Najvyššia futbalová súťaž mení názov, novým partnerom bude Fortuna". teraz.sk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 30 June 2017. Cyrchwyd 1 May 2018. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  6. "Tímy". Fortuna liga. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 5 October 2017. Cyrchwyd 1 May 2018. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  Eginyn erthygl sydd uchod am bêl-droed. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.