Uwch Gynghrair yr Alban

prif dran pêl-droed yr Alban

Cynghrair pêl-droed yn yr Alban a'r uchaf o bedwar adran Cynghrair Pêl-droed Proffesiynol yr Alban yw Uwch Gynghrair yr Alban (Saesneg: Scottish Premiership). Fe'i sefydlwyd fel olynydd i Uwch Gynghrair yr Alban ym mis Gorffennaf 2013.[2] Enillwyr gyntaf y oedd Celtic F.C.. Fe'i hystyrir, er yn dechnegol yn strwythur arwahân, yn yr un llinach â'r Premiere League flaenorol a'r 1st Division cyn hynny.

Scottish Premiership
GwladYr Alban
CydffederasiwnUEFA
Sefydlwyd2013; 11 blynedd yn ôl (2013)
Nifer o dimau12
Lefel ar byramid1
Disgyn iScottish Championship
CwpanauCwpan yr Alban
Cwpanau cynghrairScottish League Cup
Cwpanau rhyngwladolCynghrair y Pencampwyr UEFA
Cynghrair Europa UEFA
Pencampwyr PresennolCeltic (7fed teitl)
(2019–20)
Mwyaf o bencampwriaethauCeltic (7 teitl)[1]
Partner teleduSky Sports
BT Sport
BBC Scotland
Gwefanspfl.co.uk
2019–20 Scottish Premiership

Hanes ac esblygiad golygu

Cynhaliwyd tymor cyntaf Cynghrair Pêl-droed yr Alban yn 1890 o dan yr enw Scottish Football League gyda 10 tîm yn cystadlu a diddorol yw nodi y cafwyd 2 bencampwr - Glasgow Rangers a Dumbarton F.C. gan iddynt ennill yr un nifer o bwyntiau ac roedd gêm ailgyfle rhwng y ddau wedi gorffen yn gyfartal. Datblygodd diddordeb yn y gêm ac fe gyflwynwyd Ail Adran gan newid enw'r adran gyntaf i'r Scottish League Division One.

Yn ystod yr 1920au a'r 30au, roedd Division One a Division Two ill dau yn cynnwys 20 tîm (roedd 22 tîm yn Division One ar un adeg), a chrewyd 3ydd adran ar gyfer 1946/47. Gyda hyn newidiwyd enw Division One eto, y tro yma i Scottish League Division A.

Yn 1955, ail-sefydlwyd y system dwy adran a cafwyd Scottish League Division One gydag 18 tîm. Yn 1977 newidiwyd yr enw eto a, y tro yma i'r Scottish League Premier Division a chwtogwyd nifer y timau i 10 neu 12 y tymor.

Ar 8 Medi 1997, penderfynnodd clybiau'r Premier Division dorri'n rhydd o'r Scottish Football League a sefydlu'r Scottish Premier League (SPL), gan ddilyn esiampl clybiau Uwch Gynghrair Lloegr.[3] Daeth y Scottish League Premier Division felly yn Scottish Premier League gan ddod yn annibynnol o Gymdeithas Bêl-droed yr Alban (yr SFA). Parhaodd yr SFA i redeg adrannau'r First Division (ail haen), Second Division (trydydd haen) a'r Third Division (pedwerydd haen). Y rheswm dros yr hollt yma oedd dyhead clybiau'r Premier League am ragor o gyllid a rhagor o reolaeth dros yr adran ond parhaodd y berthynas gyda'r adrannau îs gyda thimau'n esgyn a disgyn adran.

Yn 2010, ar ôl sylweddoli bod bwlch mawr rhwng incwm clybiau'r Alban o'u cymharu â rhai Lloegr, a record symol y tîm cenedlaethol, sefydlwyd tasglu ac adroddiad gan gyn-Brif Weinidog yr Alban, Henry McCleish gan yr SFA a gyhoeddwyd yn Rhagfyr 2010.[4] Argymhellodd McLeish y dylsai fod gan bêl-droed yr Alban un gorff ar gyfer system y gynghrair a dylsid lleihau'r uwch adran i 10 clwb.[5]

Yn 2013, unwyd y Scottish Premier League a'r Scottish Football League i greu y Scottish Professional Football League, a newidiwyd enw'r adran uchaf i'r Scottish Premiership, a'r ail adran yn y reng, yn Scottish Championship.[6][7]

Strwythur golygu

 
Tlws yr SPL, 2008

Mae deuddeg tîm y gynghrair yn chwarae 38 o gemau y tymor: ar ôl 33 diwrnod gêm, pan fydd pob tîm yn cystadlu yn erbyn ei gilydd deirgwaith, rhennir y gynghrair yn ddau grŵp gyda'r chwe thîm gorau a gwaethaf yn y drefn honno. Bydd timau'r grwpiau priodol yn chwarae unwaith yn erbyn ei gilydd naill ai ar gyfer y bencampwriaeth (grŵp o'r chwe thîm gorau) neu rhag disgyn o'r adran (grŵp o'r chwe thîm gwaethaf). Ar ôl y pum diwrnod gêm hyn, mae'r tymor ar ben. Felly, ar ddiwedd y tymor, er enghraifft, gall y tîm yn y seithfed safle fod â mwy o bwyntiau na'r tîm yn y chweched safle.

Y tîm ar frig grŵp y chwe thîm gorau yw pencampwr yr Alban. Mae'r tîm ar waelod grŵp y chwe thîm gwaethaf yn cael ei ddisodli gan bencampwr Pencampwriaeth yr Alban, ar yr amod ei fod yn bodloni meini prawf economaidd penodol (e.e. elw llawn) a'r meini prawf a osodir ar gyfer stadiwm (stadiwm seddi'n unig ac ati). Mae'r tîm sy'n gorffen yn y safle olaf ond un yn chwarae mewn gêm ailgyfle yn erbyn y tîm sy'n fuddugol mewn gemau ailgyfle rhwng y timau a orffenodd yn yr ail, trydydd a phedwerydd safle ym Mhencampwriaeth yr Alban, gyda chyfle i gadw ei le yn yr Uwchgynghrair.

Pencampwyr golygu

Pencwmpwyr prif adran yr Alban yn ei gwahanol ffurfiadau ac enwau (cywir hyd at ddiwedd tymor 2019/2020).

Clwb Lleoliad Ennill Ail Trydydd
Rangers Glasgow 54 32 19
Celtic Glasgow 52 31 17
Aberdeen Aberdeen 4 18 8
Heart of Midlothian Caeredin 4 14 18
Hibernian F.C. Caeredin 4 5 14
Dumbarton F.C. Dumbarton 2
Motherwell F.C Motherwell 1 6 9
Kilmarnock F.C. Kilmarnock 1 4 3
Dundee F.C. Dundee 1 4 1
Dundee United F.C. Dundee 1 8
Third Lanark Glasgow 1 2
Airdrieonians Airdrie 4 1
Falkirk F.C. Falkirk 2 1
Greenock Morton Greenock 1 3
Clyde Glasgow (do 1994.)
Cumbernauld
3
Partick Thistle F.C. Glasgow 3
St. Johnstone F.C. Perth 3
Dunfermline Athletic Dunfermline 2
East Fife Methil 2
St. Mirren F.C. Paisley 2
Inverness Caledonian Thistle F.C. Inverness 1
Livingston F.C. Livingston 1
Raith Rovers F.C. Kirkcaldy 1
St. Bernard's Caeredin 1

Cyfeiriadau golygu

  1. The Scottish Premiership has only existed since 2013. For a complete record of clubs that have won Scottish league championships, see list of Scottish football champions.
  2. "SPFL: New Scottish league brands unveiled". BBC Sport. BBC. 24 July 2013. Cyrchwyd 24 July 2013.
  3. McLaughlin, Chris (14 Ebrill 2013). "Scottish clubs set for vote on league reconstruction proposals". BBC. Cyrchwyd 15 Rhagfyr 2013.
  4. "McLeish Report". scottishfa.co.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 19 Awst 2012. Cyrchwyd 16 Mehefin 2013. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  5. "Henry McLeish review backs SPL plan for 10-team leagues". BBC. 16 Rhagfyr 2010. Cyrchwyd 15 Rhagfyr 2013.
  6. BBC Sport, SFL clubs vote in favour of merger with SPL, canfuwyd 3 Mai 2014.
  7. BBC Sport, The new Scottish Professional Football League survives hitch, canfuwyd 3 Mai 2014.

Dolenni allanol golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am bêl-droed. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.