Ymbelydredd electromagnetig ydyw golau uwchfioled (neu UV, sef 'ultraviolet') gyda thonfeydd byrrach na golau gweledol, ond hirach na phelydr-x. Tarddai ei enw o'r ffaith fod ei donfedd electromagnetig o amlder uwch na'r rhai hynny y gall y llygad dynol ei weld fel 'fioled'.

Uwchfioled
Mathymbelydredd electromagnetig Edit this on Wikidata
Rhan osbectrwm electromagnetig Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd ganPelydr-X Edit this on Wikidata
Olynwyd gansbectrwm gweladwy Edit this on Wikidata
Yn cynnwysUwchfioled A, uwchfioled B, uwchfioled C, uwchfioled eithafol Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Daw llawer o'r belydrau uwchfioled o'r haul, fel y dengys y ddelwedd uchod. Effaith gormod ohono, wrth gwrs, ydy lliw haul a llosg haul. Ond mae iddo effaith da hefyd ar iechyd dyn ac anifail, gan ei fod yn creu fitamin D yn y croen - sy'n hanfodol i'r corff. Mae 98.7% o'r tonnau uwchfioled yn cael eu blocio gan yr atmosffêr.

Darganfod golygu

Darganfyddwyd yr ymbelydredd hwn pan sylweddolodd y ffisegwr Almaenaidd Johann Wilhelm Ritter yn 1801 fod halenau arian yn tywyllu o'u gosod yn yr haul, ac mai'r rhan uchaf y spectrwm golau oedd yn gyfrifol am y tywyllu hwn. Fe'u galwodd yn donnau 'di-ocsigeneiddio'. Ychydig wedyn, bathwyd y term 'tonnau cemegol'. Yr ochr arall i'r spectrwm y mae tonnau is-goch a galwodd y rhain yn 'donau gwres'.

Chwiliwch am Uwchfioled
yn Wiciadur.