Val Feld

gwleidydd

Gwleidydd Cymreig ac aelod o'r Blaid Lafur oedd Valerie "Val" Feld (ganwyd Valerie Breen Turner (29 Hydref 194717 Gorffennaf 2001). Bu'n aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru o 1999 tan ei marwolaeth yn 2001.

Val Feld
Ganwyd29 Hydref 1947 Edit this on Wikidata
Bangor Edit this on Wikidata
Bu farw17 Gorffennaf 2001 Edit this on Wikidata
o canser Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig, Cymru Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod o'r Cynulliad Cenedlaethol Cymru 1af Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddoly Blaid Lafur Edit this on Wikidata
Val Feld

Cyfnod yn y swydd
6 Mai 1999 – 2001

Geni
Plaid wleidyddol Y Blaid Lafur (DU)
Alma mater Prifysgol Caerdydd

Bywgraffiad golygu

Ganwyd Valerie Breen Turner ym Mangor, ac addysgwyd yn Ysgol yr Abaty yn Malvern. Priododd John Feld ym 1969, a chawsont dau o blant. Gweithiodd fel gohebydd yn Llundain a gweithio'n rhoi cyngor cartrefu yn Swydd Gaerhirfryn. Daeth yn gynghorydd lleol yn cynyrchioli'r Blaid Lafur yn Chorley, Swydd Gaerhirfryn. Gweithiodd hefyd am gyfnod fel gweithiwr cymdeithasol. Ym 1981, yn dilyn ysgariad, dychwelodd i Gymru. Yno sefydlodd a daeth yn gyfarwyddwr cyntaf Shelter Cymru. Yn ei hamser sbâr, astudiodd tuag at radd Meistr y Celfyddydau ym Mhrifysgol Caerdydd, ac ym 1989, apwyntiwyd yn bennaeth y Comisiwn Cyleoedd Cyfartal yng Nghymru. Deliodd y swydd hon am ddeng mlynedd, cyn dod yn drysorydd ymgyrch 'Ie Dros Gymru' a sefyll a chael ei hethol yn Aelod Cynulliad dros Ddwyrain Abertawe.[1]

Feld oedd y gwleidydd cyntaf i farw yn ei swydd yn y Cynulliad, a cynhaliwyd is-etholiad ar 27 Medi 2001.[2] Roedd yn wleidydd a pharchwyd yn fawr, ac yn adnabyddus am ei actifyddiaeth cymdeithasol. Bu'n gadeirydd Pwyllgor Datblygaeth Economaidd y Cynulliad hyd Mai 2001.

Dywedodd y Prif Weinidog Rhodri Morgan, "I believe I speak for the whole of Wales when I say that the death of Val Feld is a grievous blow for us all".

Cyfeiriadau golygu

  1.  UK: Wales: AMs: Val Feld. BBC (1 Medi 1999).
  2.  Assembly Member Val Feld dies. BBC (28 Gorffennaf2001).
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Rhagflaenydd:
sedd newydd
Aelod Cynulliad dros Ddwyrain Abertawe
19992001
Olynydd:
Valerie Lloyd