Valentina Bartolomasi

Roedd Valentina Bartolomasi (18891932) yn soprano operatig o'r Eidal.

Valentina Bartolomasi
Ganwyd1889 Edit this on Wikidata
Modena Edit this on Wikidata
Bu farw1932 Edit this on Wikidata
o canser y groth Edit this on Wikidata
Milan Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Yr Eidal Yr Eidal
Galwedigaethcanwr opera Edit this on Wikidata
Math o laissoprano Edit this on Wikidata

Cefndir golygu

Ganwyd Bartolomasi yn Modena yn ferch i Bernardo Bartolomasi, athro llais enwog. Ei thad fu ei athro canu.[1] Priododd Antoniani, Il Conte di Padova. Roedd hi'n fodryb i'r gantores opera Mirella Freni [2]

Gyrfa golygu

Cafodd Bartolomasi yrfa opera nodedig rhwng 1910 a 1927. Yn arbennig o lwyddiannus yn y repertoire soprano dramatig. Hi oedd prif soprano gweithiau Wagner ei dydd yn yr Eidal. Mae hi'n ymddangos ar y recordiadau cyflawn cyntaf a wnaed o Andrea Chénier gan Umberto Giordano (fel Maddalena de Coigny), Tosca Giacomo Puccini (yn y rôl deitl), ac Aida Giuseppe Verdi (yn y rôl deitl).

Fe wnaeth ei ymddangosiad proffesiynol cyntaf ym 1911 yn chware rhan Manon yn opera Verdi Manon Lescaut yn Teatro Verdi, Salerno.[3]

Ymddangosodd yn Teatro Curci, Barletta fel Margherita yn Faust ym 1913, fel Cio-Cio-San yn Madama Butterfly ym 1914. Chwaraeodd Leonora (Forza del Destino) ym 1916 ac eto ym 1918. Chwaraeodd Maddalena (Andrea Chenier) ym 1916 a 1924 ac Amelia (Ballo in Maschera) ym 1920, 1921 a 1922. Bu'n chware rôl Elvira yn opera Verdi Ernani ym 1925 a 1926.[4]

Marwolaeth golygu

Daeth gyrfa Bartolomasi i ben yn gynamserol oherwydd salwch ym 1927. Treuliodd blynyddoedd olaf ei bywyd yn dioddef canser yr endometriwm. Bu farw o'i chlefyd ym Milan yn 43 mlwydd oed.

Cyfeiriadau golygu