Valerie Davies

nofiwr o Gymru

Roedd Elizabeth Valerie Davies (29 Mehefin 1912 – Awst 2001), a adwaenwyd yn ddiweddarach gan ei enw priod, Valerie Latham, yn nofwraig cystadleuol o Gymru a gynrychiolodd Prydain Fawr yng Ngemau Olympaidd Haf 1932.

Valerie Davies
Gwybodaeth bersonol
Ganwyd(1912-06-29)29 Mehefin 1912
Caerdydd, Cymru
Bu farw2 Awst 2001(2001-08-02) (89 oed)[1]
Casnewydd, Cymru
Camp
GwladCymru
ChwaraeonNofio
CampDull Cefn, Dull Rhydd
ClwbParc y Rhath
Diweddarwyd 20 Ebrill 2018.

Fe'i ganed yng Nghaerdydd a bu farw yng Nghasnewydd.

Yng Ngemau Olympaidd 1932, enillodd fedalau efydd yn y gystadleuaeth 100m dull cefn ras gyfnewid 4x100m dull rhydd ac roedd yn drydydd yn y rownd gyntaf o'r nofio dull rhydd 100m ond nid aeth ymhellach.

Bu hefyd yn cystadlu dros Gymru yng Ngemau Ymerodraeth Brydeinig 1930 gan ennill tair medal. Dyfarnwyd dwy fedal arian iddi yn y gystadleuaeth nofio 100 llath ar y cefn a'r 400 llath rhydd a medal efydd yn y  ras 100 llath rhydd.

Pedair blynedd yn ddiweddarach enillodd y fedal efydd yn y gystadleuaeth nofio 100 llath ar y cefn.

Dolenni allanol golygu

  1. "Valerie Davies". Olympedia.org.