Mae Valkyrie (2008) yn ffilm gyffro hanesyddol sydd wedi'i lleoli yn yr Almaen yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Mae'r ffilm yn cylchdroi o amgylch cynllwyn gan swyddogion y fyddin Almaenig i ddienyddio Adolf Hitler ar yr 20fed o Orffennadf, 1944. Cyfarwyddwyd y ffilm gan United Artists gan Bryan Singer ac ysgrifennwyd y ffilm gan Christopher McQuarrie. Ar ôl i Singer orffen Superman Returns yn 2006, roedd yn awyddus i weithio ar brosiect llai, pan glywodd am sgript McQuarrie, a ddechreuodd ei hysgrifennu wedi iddo ymweld a Berlin yn 2002.

Valkyrie

Poster y Ffilm
Cyfarwyddwr Bryan Singer
Cynhyrchydd Christopher McQuarrie
Bryan Singer
Gilbert Adler
Chris Lee
Ysgrifennwr Christopher McQuarrie
Nathan Alexander
Serennu Tom Cruise
Bill Nighy
Eddie Izzard
Terence Stamp
Tom Wilkinson
Carice van Houten
Kenneth Branagh
Cerddoriaeth John Ottman
Sinematograffeg Newton Thomas Sigel
Golygydd John Ottman
Dylunio
Cwmni cynhyrchu Metro-Goldwyn-Mayer
United Artists
Dyddiad rhyddhau 25 Rhagfyr 2008 (UDA)
22 Ionawr, 2009 (Almaen)
23 Ionawr, 2009 (DU)[1]
Amser rhedeg 120 munud
Gwlad Yr Unol Daleithiau
Iaith Saesneg

Mae Tom Cruise yn serennu fel Cyrnol Claus von Stauffenberg, un o'r prif gynllwynwyr. Mae Bill Nighy, Eddie Izzard, Terence Stamp a Tom Wilkinson hefyd yn actio'n y ffilm. Achosodd y castio cryn dipyn o drafodaeth ymysg gwleidyddion Almaenig ac ymhlith aelodau o deulu von Stauffenberg am fod yr actor yn Scientolegwr, a ystyrir yn gwlt yn yr Almaen. Cafodd y ffilm gefnogodd y papurau newydd a gwneuthurwyr ffilm am ei fod yn hybu ymwybyddiaeth pobl o'r cynllwyn. Yn wreiddiol, cafodd gwneuthurwyr y ffilm drafferth yn dod o hyn i leoliadau Almaenig lle gallent ffilmio oherwydd y gwrthdaro a'r trafodaethau, ond yn ddiweddarach cawsant ganiatad i ffilmio mewn lleoliadau a oedd yn ymwneud â'r stori, fel Benderblock hanesyddol Berlin.

Cyfeiriadau golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am ffilm ryfel. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.