Talaith (marz) yn Armenia yw Vayots Dzor (Armeneg: Վայոց Ձոր, hen enw: Daralagez neu Daralagyoz). Fe'i lleolir yn ne-ddwyrain y wlad, gan ffinio ar Aserbaijan i'r dwyrain a'r gorllewin, rhwng talaith Syunik i'r de a thaleithiau Armavir ac Ararat i'r gogledd. Mae ganddi arwynebedd o 2,308 km². Gyda phoglobaeth o ddim ond 53,230 (2002), dyma'r dalaith leiaf o ran poblogaeth yn Armenia. Y brifddinas yw Yeghegnadzor.

Lleoliad Vayots Dzor yn Armenia

Yn yr Oesoedd Canol, roedd Vayots Dzor yn dywysogaeth o fewn Teyrnas Syunik. Ystyr lythrennol yr enw yw "Dyffryn Gwae" am i'r ardal ddioddef yn drwm gan ddaeargrynfeydd mawr sawl gwaith yn ei hanes. Mae'n gyfoethog ei safleoedd hanesyddol sydd o ddiddordeb am eu pensaernïaeth, fel mynachlog Noravank, caer Smbataberd, a mynachlog Tsakhats Kar. Lleolir Jermuk, un o atyniadau twristaidd mwyaf Armenia yng nghyfnod yr Undeb Sofietaidd, yn y dalaith.

Oriel golygu

Taleithiau Armenia  
Aragatsotn | Ararat | Armavir | Gegharkunik | Kotayk | Lori | Shirak | Syunik | Tavush | Vayots Dzor | Yerevan


  Eginyn erthygl sydd uchod am Armenia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.