Velenje

dinas yn Slofenia

Dinas yn hen dalaith Styria Isaf yn Slofenia yw Velenje (ynganu [ʋɛˈlɛːnjɛ]; Almaeneg: Wöllan). Fe'i sefydlwyd gan y Iarll Carinthia, Von Heunberg, a'i grybwyll am y tro cyntaf ym 1264 fel canolfan farchnad a adeiladwyd o amgylch y castell, diolch i echdynnu lignit, ehangodd y ddinas yn arbennig ar ôl yr Ail Ryfel Byd. Ar ôl marwolaeth yr arlywydd Comiwnyddol Iwgoslafia Tito, ym 1980, cafodd ei ailenwi'n Titovo Velenje, ond dychwelodd i'r hen enw yn 1990 ychydig cyn annibyniaeth Slofenia.

Velenje
Mathdinas, safle treftadaeth ddiwylliannol yn Slofenia Edit this on Wikidata
Poblogaeth25,594 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1889 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+01:00, UTC+2 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Daearyddiaeth
SirBwrdeistref Velenje City Edit this on Wikidata
GwladBaner Slofenia Slofenia
Arwynebedd12.6 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr400 ±1 metr, 391 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau46.37°N 15.12°E Edit this on Wikidata
Cod post3320 Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethregistered immobile cultural heritage of Slovenia Edit this on Wikidata
Manylion

Velenje yw cartref ffatri offer Gorenje, a dyma fan geni Jolanda Čeplak, rhedwr pellter canol Slofenia ac enillydd medal efydd yn y Gemau Olympaidd.

Gwreiddiau'r enw golygu

 
Velenjski grad poleti

Mae'r enw yn deillio o Velen'e selo neu "bentref Velenъ". Theori arall, llai tebygol, yw fod yr enw yn deillio o'r gair Slofeneg velen am "porfa (man pori) ar gyfer gwartheg".[1] Newidiwyd yr enw i Titiovo Velenje yn 1981 yn dilyn marwolaeth arweinydd Comiwnyddol Iwgoslafia. Ond newidiwyd yr enw nôl i Velenje yn 1990, flwyddyn cyn annibyniaeth Slofenia oddi ar Iwgoslafia.[2] Adnabwyd y dref yn y gorffennol wrth yr enw Almaeneg, Wöllan.

Hanes golygu

Gwreiddiau golygu

Mae cofnodion cyntaf y ddinas yn dyddio'n ôl i oddeutu 1264, roedd y ddinas yn cael ei galw'n "Weln" (fel Welan ym 1270, Welen/Belen ym 1296). Adnabwyd y ddyffryn Šaleška dolina fel "Dyffryn y Cestyll" gan fod 20 o gestyll yndddi.[3] Tref farchnad fechan iawn oedd Velenje gyda phobogaeth o dim ond 364 yn 1886. Dechreuwyd i'r boblogaeth dyfu gyda darganfod glo linate yn y dyffryn ond hyd yn oed cyn hwyred ag 1931 roedd hanner y boblogaeth yn y dyffryn yn dal i amaethu. Agworwyd y rheilffordd yn 1891 yn y dyffryn gan gysylltu Velenje gyda thref Celje.

Oes fodern golygu

 
Rhan newydd adeiladu o Velenje yn 1960
 
Cardyn post o Velenje, 1965

Roedd yr hen ran o'r ddinas bresennol yn dref farchnad gyda 364 o drigolion, wedi'i lleoli wrth droed Castell Velenje. Cyfrannodd y diwydiant mwyngloddio coedlo (glo llwyd, lignit) at ehangu'r ddinas cyn yr Ail Ryfel Byd.

Ar ôl y Rhyfel, gan adlewyrchu'r galw cynyddol am lo, daeth yr angen am dref fodern i'r amlw, datblygodd Velenje yn gyflym a daeth yn ddinas fodern. Dyluniwyd ac adeiladwyd y ddinas tua 1950, ar adeg Gweriniaeth Sosialaidd Slofenia, fel prototeip o ddinas sosialaidd fodernaidd yn debyg i Eisenhüttenstadt yn hen Ddwyrain yr Almaen. Hyrwyddir Velenje fel "y ddinas Slofeneg ifancaf"[4]

Roedd y dref newydd hon i fod i gael ei hadeiladu yn lle bythynnod a gynigiwyd i ddechrau ar gyfer nifer o lowyr o'r Iwgoslafia gyfan. O dan arweinyddiaeth "Rudnik Velenje" ar y pryd, dechreuodd Mr Nestl Žgank, a dan arweiniad y pensaer Janez Trenz, ddatblygu cynlluniau ar gyfer tref fodern gyda thua 30,000 o drigolion. Arweiniodd arwyddair Žgank “y dylid llenwi lleoedd preswyl glowyr, sy’n treulio hanner y dydd o dan y ddaear, â golau a heulwen” at dref gyfoes, fodernaidd gyda strwythurau ar ei phen ei hun mewn ardaloedd mawr, gwyrdd. Gwelwyd y dref newydd fel arwyddlun o'r system Gomiwnyddol llwyddiannus Iwgoslafia ac mae'r darlun yno'n fyw o hyd.[5]

Yn anffodus, am nifer o resymau, ni pharhaodd cynllunwyr trefi â'r cysyniad hwn. Serch hynny, fe wnaethant lwyddo i warchod cymeriad modernistaidd hwyr canol y dref, sy'n ei gwneud yn un o ddim ond ychydig yn Ewrop. Roedd ehangu digynsail yr anheddiad gyda mwy nag 20 o adeiladau mawr wedi cael eu codi mewn dwy flynedd yn unig yn niwedd y 1960au yn synnu’r wlad gyfan, a ddyfarnodd hawliau tref Velenje ar 20 Medi 1959, y diwrnod pan fydd "Mestna občina Velenje" bellach yn dathlu ei gwyliau trefol.[3]

Cafodd sgwâr canolog y ddinas ei chysegru i Tito ar 20 Medi 1959. Gallwn ddod o hyd i'r cerflun uchaf o Tito yn y byd (tua 10 metr). Fe'i dyluniwyd gan Antun Augustinčić a Vladimir Herljević.[6] Yn y sgwâr cyfarfu Nikita Khrushchev[7] a Leonid Brezhnev, fel y gwnaeth arweinwyr Comiwnyddol Gwlad Pwyl, Edward Gierek a Rwmania, Nicolae Ceaușescu.

Henebion a lleoedd o ddiddordeb golygu

Timelapse s parkirišča Bazena Velenje.
Amgueddfa Velenje
Amgueddfa Lofaol Slofenia
Llyn Velenje
Castell Velenje

Lleoliad a Demograffi golygu

Mae Velenje wedi ei lleoli yn nyffryn Šaleška dolina, yng ngogledd-ddwyrain Slofenia, tua 85 km o'r brifddinas, Ljubljana. Mae'n chweched ddinas fwyaf y wlad gydag oddeutu 30,000 o drifolion.[8] ac yn ganolog i nifer o'r dinasoedd fwyaf eraill, Maribor a Celje, 75 km a 25 km i ffwrdd. Mae dinas Graz yn Awstria tua 130 km i ffwrdd.

 
Velenje

Rhwng 1999 a 2009, arhosodd poblogaeth bwrdeistref Velenje yn agos at 34,000 o drigolion[9].

Datblygiad Poblogaeth Velenje[9]

1999 2000 2001 2002 2003 2004 2005 2006 2007 2008 2009
34 274 34 142 33 998 33 926 33 828 33 686 33 668 33 857 34 033 33 240 33 309

Economi golygu

Mae Velenje yn un o ganolfannau economaidd pwysicaf Slofenia ac mae ganddi isadeileddau modern. Mae datblygu economaidd yn seiliedig ar ynni ac adeiladu. Mae diogelu'r amgylchedd, y sector crefftau a masnachol wedi creu datblygiad cadarn. Mae gan y ddinas dair canolfan siopa fawr: archfarchnad Mercator, Velenje Velenjka, a Chanolfan Siopa Velenje.

Seilwaith a thrafnidiaeth golygu

Mae tua 15 trên y dydd i Ljubljana a Maribor yn ystod yr wythnos, ac maen nhw'n stopio yn Celje am tua 2 neu 3 awr. Yn lle, dim ond pedwar trên sydd ar ddydd Sadwrn, dim un ar ddydd Sul. Mae gorsaf reilffordd y dref wedi'i lleoli yn ardal y gorllewin.

Gefeillfrefi golygu

Mae Velenje wedi gefeillio gyda phedair tref ar draws Ewrop:

Chwaraeon golygu

Pêl-droed golygu

Yr N.K. Rudar Velenje yw clwb pêl-droed mwyaf y ddinas, sy'n chwarae yn PrvaLiga Slofenia.

Oriel golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Snoj, Marko. 2009. Etimološki slovar slovenskih zemljepisnih imen. Ljubljana: Modrijan and Založba ZRC, pp. 450–451.
  2. Spremembe naselij 1948–95. 1996. Database. Ljubljana: Geografski inštitut ZRC SAZU, DZS.
  3. 3.0 3.1 https://www.velenje.si/en/velenje/history-of-town
  4. https://www.youtube.com/watch?v=RPKcBaVYFOg
  5. https://www.youtube.com/watch?v=ECUH_75HX_Q
  6. "The Monument to Josip Broz Tito in Velenje" (yn Slovenian). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-10-28. Cyrchwyd 2019-10-26.CS1 maint: unrecognized language (link)
  7. https://www.youtube.com/watch?v=22udHONlFPc
  8. https://www.velenje.si/en/
  9. 9.0 9.1 (Saesneg) Nodyn:Lien web
  10. "Neath Port Talbot Twin Towns". Neath Port Talbot County Borough Council. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-08-22.
  11. "Split Twin Towns" (yn Croatian).CS1 maint: unrecognized language (link)

Dolenni allanol golygu