Vera Lynn

actores

Cantores ac actores Seisnig a oedd yn hynod boblogaidd yn ystod yr Ail Ryfel Byd oedd y Fonesig Vera Lynn, DBE (ganed Vera Margaret Welch; 20 Mawrth 191718 Mehefin 2020)[1][2]. Yn ystod y rhyfel, teithiodd o amgylch yr Aifft, yr India a Bwrma, gan ddarparu cyngherddau awyr agored ar gyfer y lluoedd arfog. Cawsai ei galw'n "The Forces' Sweetheart"; ei chaneuon mwyaf adnabyddus yw "We'll Meet Again" a "The White Cliffs of Dover".

Vera Lynn
GanwydVera Margaret Welch Edit this on Wikidata
20 Mawrth 1917 Edit this on Wikidata
East Ham Edit this on Wikidata
Bu farw18 Mehefin 2020 Edit this on Wikidata
Ditchling Edit this on Wikidata
Label recordioEMI, His Master's Voice, Decca Records, London Records Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Brampton Primary School Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor ffilm, canwr, canwr-gyfansoddwr, hunangofiannydd, artist recordio, actor, awdur geiriau Edit this on Wikidata
Arddullcerddoriaeth boblogaidd Edit this on Wikidata
Gwobr/auBonesig Cadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig, War Medal 1939–1945, Burma Star, Swyddog Urdd Sant Ioan, Cydymaith Anrhydeddus, Commander of the Order of Orange-Nassau Edit this on Wikidata

Parhaodd i fod yn boblogaidd ar ôl y rhyfel, gan ymddangos ar raglenni teledu a radio yn y Deyrnas Unedig a'r UDA. Recordiodd mwy o ganeuon megis "Auf Wiederseh'n Sweetheart" a "My Son, My Son". Yn 2009 hi oedd yr artist byw hynaf erioed i gyrraedd rhif 1 siart albymau'r Deyrnas Unedig, pan oedd yn 92 mlwydd oed.[3] Treuliodd llawer o'i hamser a'i hegni yn gweithio gydag elusennau sy'n ymwneud â chyn-aelodau'r lluoedd arfog, plant anabl a chancr y fron. Roedd yn parhau i gael ei pharchu'n fawr gan y rheiny a frwydrodd yn yr Ail Ryfel Byd ac yn 2000 cafodd ei henwi fel y Brydeinwraig a gynrychiolai orau ysbryd yr 20g.[4]

Ei bywyd personol golygu

 
Lynn yn 2009

Ym 1941 priododd Lynn Harry Lewis, chwaraewr clarinét a sacsoffon a gyfarfyddodd dwy flynedd ynghynt[5]. Cawsant un plentyn, Virginia Penelope Anne Lewis. Bu farw Harry Lewis yn 1998.[6]

Aeth Lynn i fyw yn Ditchling yn Sussex ar ddechrau'r 1960au. Roedd yn byw drws nesaf i'w merch.[7]

Bu farw yn 103 oed yn ei chartref ar 18 Mehefin 2020.[8]

Recordiadau gan Vera Lynn golygu

  • 1935
  • 1936
    • "Heart Of Gold" (Rex Records)
    • "A Star Fell Out Of Heaven" (Rex Records)
    • "Crying My Heart Out For You" (Rex Records)
    • "It's Love Again" (Rex Records)
    • "Did Your Mother Come From Ireland?" (Rex Records)
    • "Have You Forgotten So Soon?" (Rex Records)
    • "Everything Is Rhythm" (Rex Records)
  • 1937
    • "So Many Memories"
    • "Roses in December"
    • "When My Dream Boat Comes Home" (Rex Records)
    • "Goodnight, My Love" (Rex Records)
    • "All Alone In Vienna" (Rex Records)
  • 1939
  • 1940
    • "Careless"
    • "Until You Fall in Love"
    • "It's a Lovely Day Tomorrow"
    • "When You Wish upon a Star"
    • "Memories Live Longer Than Dreams"
    • "There'll Come Another Day"
  • 1941
    • "Smilin' Through"
    • "When They Sound the Last All Clear"
    • "Yours"
    • "My Sister and I"
    • "I Don't Want to Set the World on Fire"
  • 1942
  • 1948
  • 1949
  • 1952
  • 1954 ymlaen
  • 1967
    • "It Hurts To Say Goodbye"
  • 1969
  • 1982
  • Albymau a recordiwyd o 1960 ymlaen
    • "Yours" (1961)
    • "As Time Goes By" (1961)
    • "Hits Of The Blitz" (1962)
    • "Among My Souvenirs" (1964)
    • "More Hits Of The Blitz" (1966)
    • "Hits Of The 60's — My Way" (1970)
    • "Favourite Sacred Songs" (1972)
    • "Christmas With Vera Lynn" (1976)
    • "Vera Lynn In Nashville" (1977)
  • Ym mis Mawrth 2007 rhyddhaodd EMI set o 2CD o holl senglau Lynn o'i chytundeb gydag EMI o 1960 tan 1977.

Cyfeiriadau golygu

  1. Dame Vera Lynn dies at age 103 (en) , BBC News, 18 Mehefin 2020.
  2. (1995) You Must Remember This. Deyrnas Unedig: Boxtree Limited. ISBN 0 7522 1065 3
  3.  Bywgraffiad ar gyfer Vera Lynn. IMDb.
  4.  Bywgraffiad Vera Lynn. Index of Musician Biographies.
  5.  Dame Vera Lynn: the original Forces Sweetheart is still in demand. Daily Telegraph.
  6.  Bywgraffiad Vera Lynn. IMDb.
  7.  Birthday chorus for Forces Sweetheart Dame Vera (From The Argus). Theargus.co.uk.
  8. Y Fonesig Vera Lynn wedi marw yn 103 oed , Golwg360, 18 Mehefin 2020.