Vicente López y Planes

awdur a gwleidydd o Argentina

Bardd Sbaeneg a gwleidydd Archentaidd oedd Vicente López y Planes (3 Mai 178510 Hydref 1856).

Vicente López y Planes
Ganwyd3 Mai 1785 Edit this on Wikidata
Buenos Aires Edit this on Wikidata
Bu farw10 Hydref 1856 Edit this on Wikidata
Buenos Aires Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethyr Ariannin Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Colegio Nacional de Buenos Aires
  • Major and Pontifical Saint Francis Xavier University of Chuquisaca Edit this on Wikidata
Galwedigaethcyfreithiwr, ysgrifennwr, gwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddGovernor of Buenos Aires Province, Arlywydd yr Ariannin Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolUnitarian Party Edit this on Wikidata
PriodLucía Petrona Riera Merlo Edit this on Wikidata
PlantVicente Fidel López Edit this on Wikidata

Brwydrodd yn erbyn y Prydeinwyr yn ystod goresgyniadau Rhaglawiaeth y Río de la Plata yn 1806 a 1807. Gwasanaethodd yn arlywydd dros dro Taleithiau Unedig y Río de la Plata yn sgil ymddiswyddo Bernardino Rivadavia, o 7 Gorffennaf 1827 i 17 Awst 1827, a chaiff ei gyfri felly yn ail Arlywydd yr Ariannin.

Wedi iddo ildio'r arlywyddiaeth i Justo José de Urquiza, gwasanaethodd yn weinidog dan Manuel Dorrego, Llywodraethwr Talaith Buenos Aires, ac yn gyfreithiwr dan Juan Manuel de Rosas. Wedi cwymp Rosas, López y Planes oedd Llywodraethwr Talaith Buenos Aires o 13 Chwefror 1852 i 26 Gorffennaf 1852.

O ran ei farddoniaeth, fe'i cofir am Triunfo argentino, baled sy'n dathlu buddugoliaeth yr Archentwyr yn erbyn y Prydeinwyr, ac am ysgrifennu geiriau Himno Nacional Argentino (1813), yr anthem genedlaethol.

Roedd yn dad i'r llenor Vicente Fidel López.