Vicus

math o le poblog yn yr Ymerodraeth Rufeinig

Yng nghyfnod yr Ymerodraeth Rufeinig, defnyddid y gair Lladin vicus (lluosog vici) am sefydliad oedd wedi tyfu o amgylch safe Rufeinig, fel rheol gaer Rufeinig. Roedd vicus yn wahanol i'r civitates, oedd wedi eu sefydlu a'u cynllunio'n swyddogol fel canolfan i'r boblogaeth leol (er enghraifft Venta Silurum (Caerwent), ac yn wahanol hefyd i'r coloniæ, oedd wedi eu sefydlu ar gyfer cyn-filwyr, a'r municipia, oedd wedi datblygu o sefydliadau oedd yn bod eisoes.

Nid oedd y vici wedi eu cynllunio, ac nid oedd unrhyw statws cyfreithiol iddynt. Fel rheol roeddynt dan awdurdod prif swyddog y gaer Rufeinig. Roeddynt wedi tyfu ohonynt eu hunain, ac yn cynnwys marsiandïwyr oedd yn elwa ar bresenoldeb y milwyr Rhufeinig a gwragedd (answyddogol) y milwyr.

Credir fod dinas Vigo yn Galicia, Sbaen yn cael ei henw o "vicus". Un enghraifft yng Nghymru yw'r vicus a dyfodd o amgylch caer Rufeinig Segontium.