Ynys fwyaf Ffiji yn y Cefnfor Tawel yw Viti Levu. Mae'r boblogaeth tua 600,000, dwy ran o dair o holl boblogaeth Ffiji. Y brifddinas yw Suva, sydd hefyd yn brifddinas y wlad. Mae'r trefi eraill yn cynnwys Nadi, Lautoka, Ba a Sigatoka.

Viti Levu
Mathynys Edit this on Wikidata
PrifddinasSuva Edit this on Wikidata
Poblogaeth580,000 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolFijian Archipelago Edit this on Wikidata
GwladBaner Ffiji Ffiji
Arwynebedd10,531 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr1,324 metr Edit this on Wikidata
GerllawY Cefnfor Tawel Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau17.8°S 178°E Edit this on Wikidata
Hyd146 cilometr Edit this on Wikidata
Map

Saif 64 km o'r ynys ail-fwyaf, Vanua Levu. Mae'n 146 km o hyd a 106 km o led, gydag arwynebedd o 10,338 km². Rhennir yr ynys yn ddwy gan gadwyn o fynyddoedd sy'n ymestyn o'r gogledd i'r de. Y copa uchaf yw Tomanivi (1,324 medr). Prif gynnyrch yr ynys yw siwgwr, tybaco a chotwm.