Roedd Vladimir Yevgraphovich Tatlin (Rwsieg: Влади́мир Евгра́фович Та́тлин; (28 Rhagfyr 188531 Mai 1953)[1] yn arlunydd a phensaer o Ymerodraeth Rwsia/Undeb Sofietaidd. Gyda Kazimir Malevich roedd yn un o’r ddau berson pwysicaf yn y mudiad celfyddydol avant garde yn Rwsia yn y 1920au. Yn ddiweddarach fe ddaeth yn amlwg yn y mudiad celf Lluniadaeth, (Constructivism).

Vladimir Tatlin
Ganwyd16 Rhagfyr 1885 (yn y Calendr IwliaiddEdit this on Wikidata
Kharkiv Edit this on Wikidata
Bu farw31 Mai 1953 Edit this on Wikidata
o clefyd heintus Edit this on Wikidata
Moscfa Edit this on Wikidata
DinasyddiaethYmerodraeth Rwsia, Yr Undeb Sofietaidd Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Penza Art School Edit this on Wikidata
Galwedigaetharlunydd, pensaer, cerflunydd, academydd, darlunydd, cynllunydd llwyfan, cynllunydd, gwneuthurwr printiau, artist cydosodiad, gludweithiwr, drafftsmon Edit this on Wikidata
Adnabyddus amTŵr Tatlin Edit this on Wikidata
Arddullarchitectural view, figure, noethlun, portread, bywyd llonydd Edit this on Wikidata
MudiadAdeileddiaeth Edit this on Wikidata
PlantAnatoly Romov Edit this on Wikidata

Cofir Taltin yn bennaf am Dŵr Tatlin, neu'r prosiect ar gyfer y Gofeb i'r Drydedd Rhyngwladol (1919–20) [2], oedd yn gynllun i godi tŵr anferthol na chafodd erioed mo'i adeiladu [3]. Bwriad Tatlin oedd codi’r tŵr ym Mhetrograd (St. Petersburg yn awr) yn dilyn y Chwyldro Bolsieficaidd ym 1917, fel pencadlys i'r mudiad comiwnyddol y Comintern (y Drydedd Rhyngwladol).

Bywyd a gwaith golygu

Ganwyd Tatlin yn Kharkov (dwyrain Wcráin yn yr hen Ymerodraeth Rwseg,[4] yn fab i beiriannydd rheilffordd a bardd. Dechreuodd ei yrfa gelfyddydol fel peintiwr iconau ym Moscow ac fe fynychodd Ysgol Peintio, Cerfluniaeth a Phensaernïaeth Moscow. Roedd hefyd yn gerddor proffesiynol ac fe berfformiodd dramor.

Fe ddaeth yn enwog am Tŵr Tatlin ei gynlluniau i adeiladu tŵr anferthol i goffau’r Chwyldro Bolsieficaid ac fel pencadlys i'r mudiad comiwnyddol y Comintern (y Drydedd Rhyngwladol). Ni chafodd y tŵr ei godi a hyd yn oed petai'r cyflenwad enfawr o ddur wedi bod ar gael yn Rwsia ar y pryd; (roedd y wlad yn dioddef argyfwng economaidd, prinder adnoddau sylfaenol a helyntion gwleidyddol) ac mae amheuaeth ddifrifol a oedd yr adeilad yn ymarferol o gwbl [5].

Roedd y tŵr i fod yn steil lluniadaeth (constructivist) i'w adeiladu o ddefnyddiau diwydiannol: haearn, gwydr a dur. Yn ei ddefnyddiau, siâp a'i ddefnydd, roedd i fod yn symbol blaenllaw o fodernedd ac yn llawer uwch na Thŵr Eiffel ym Mharis. Prif ffurf y tŵr oedd troell dwbwl oedd i godi hyd at 400 medr o uchder [6] oedd i gludo'r ymwelwyr gyda chymorth amryw o ddyfeisiadau mecanyddol. Y prif fframwaith oedd gynnwys pedwar strwythur geometreg - ciwb, pyramid a silindr. Y bwriad oedd i'r strwythurau hyn troi ar wahanol raddfeydd o gyflymdra. Y ciwb i droi’n gylch cyfan mewn blwyddyn gron, y pyramid i droi’n gylch cyfan mewn mis a’r silindr unwaith y diwrnod.

 
Tatlin: Hunanbortread, 1911
 
Model o'i Gofeb i'r Drydedd Rhyngwladol - Tŵr Tatlin, 1919.

Mae Tatlin hefyd yn cael ei gysylltu gyda chelfyddyd lluniadaeth wedi Chwyldro Rwsia gyda'i waith gwrth-gerfwedd (counter-relief), tri dimensiwn a wnaethpwyd o goed a dur.[7]

Creodd Tatlin y cerfluniau yma i gwestiynu syniadau traddodiadol celf, ni ystyriodd ei hun fel lluniadaethwr (constructivist) fel y cyfryw a gwrthwynebodd lawer o syniadau'r mudiad. Roedd lluniadaethwyr amlwg diweddarach yn cynnwys Varvara Stepanova, Alexander Rodchenko, Manuel Rendón Seminario, Joaquín Torres García, László Moholy-Nagy, Antoine Pevsner a Naum Gabo.

Er yn gyd-weithwyr ar y dechrau, cafodd Tatlin a Malevich ddadleuon ffyrnig ar adeg yr Arddangosfa 0.10 ym 1915 (ymhell cyn genedigaeth lluniadaeth) dros waith suprematist a arddangoswyd gan Malevich.

Claddwyd Tatlin ym mynwent Novodevichy, Moscow.

Cyfeiriadau golygu

  1. Lynton, Norbert (2009). Tatlin's Tower: Monument to Revolution. New Haven: Yale University Press. t. 1. ISBN 0300111304.
  2. Honour, H. and Fleming, J. (2009) A World History of Art. 7th edn. London: Laurence King Publishing, tud. 819. ISBN 9781856695848
  3. Janson, H.W. (1995) History of Art. 5ed rhifyn. Revised and expanded by Anthony F. Janson. Llundain: Thames & Hudson, tud. 820. ISBN 0500237018
  4. Lynton 2009 1",
  5. Gray1986
  6. Ching, Francis D.K., et al. (2011). Global History of Architecture. Ail rifyn. Hoboken, NJ: John Wiley & Sons, Inc., tud. 716.
  7. Tatlin, Vladimir Evgrafovich: Counter-relief (Material Assortment).The State Tretyakov Gallery, 2013. Adalwyd 10 Mai 2013.