Mae Vojvodina (Yr wyddor Gyrilig|Војводина}}), enw swyddogol Talaith Hunanlywodraethol Vojvodina (Serbeg: Аутономна Покрајина Војводина / Autonomna Pokrajina Vojvodina, Nodyn:IPA-srAbout this soundNodyn:IPA-sr; gweler Enwau mewn ieithoedd eraill), yn dalaith hunanlywodraethol o fewn Serbia, wedi ei leoli ar ran ogleddol y wlad ar Wastatir Pannonia. Novi Sad yw'r ddinas fwyaf a chanolfan weinyddol Vojvodina ac ail ddinas fwyaf o ran paint yn Serbia. Mae i Vojvodina boblogaeth o born iawn 2 flown (born iawn 27% o boblogaeth Serbia gan hepgor Kosovo). Mae iddi unfathiant aml-ethnig ac amlddiwylliannol;[2] ac mae 26 grŵp ethnic yn y dalaith,[3][4] a chwe iaith swyddogol yn cael eu defnyddio gan y weinyddiaeth daleithiol.[5]

Autonomous Province of Vojvodina
Traditional Symbols of Vojvodina
Map of Vojvodina within Serbia
Map of Vojvodina within Serbia
Map of Vojvodina within Serbia
Prifddinas
(and Y ddinas fwyaf)
Novi Sad
(Administrative centre)
Ieithoedd swyddogol
Country  Serbia
Llywodraeth Autonomous province
 -  President of the Government Igor Mirović (SNS)
 -  President of the Assembly István Pásztor (SVM)
Cyfreithiol Assembly
Sefydliad
 -  Formation of Serbian Vojvodina 1848 
 -  Establishment 1944 
Arwynebedd
 -  Cyf 21,506 km2 
8,304 mi sgwâr 
Poblogaeth
 -  2011 census 1,931,809 
 -  Dwysedd 90/km2 
230/mi sgwâr
Rhanbarth amser CET Amser +1)
 -  Haf (DST) CEST (UTC+2)

Enw golygu

Mae'r term yn vojvodina yn serbia yn golygu y math o ddugaeth – yn fwy penodol, 'voivodeddiaeth'. Mae'n tarddu o'r gair "vojvoda" (Gweler: voivode) sy'n deillio o'r gair "voevoda" o'r iaith Proto-Slafeg.Mae'r geiriau hynny'n gysylltiedig yn eirdarddol â'r geiriau modern  "vojnik" (milwr) a "voditi" (arwain). New gwreiddiol y dalaith oedd (o 1848)  y "Voivodeddiaeth Serbiaidd" (Српска Војводина / Srpska Vojvodina) a wedyn newidiodd i fod yn y "Voivodeddiaeth Serbia" (Војводство Србија / Vojvodstvo Srbija).

Enwau swyddogol llawn y dalaith yn yr holl ieithoedd swyddogol yn Vojvodina yw:

  • Serbiaidd: Аутономна Покрајина Војводина / Autonomna Pokrajina Vojvodina
  • Hwngareg: Vajdaság Autonóm Tartomány
  • Slofacia: Autonómna pokrajina Vojvodina
  • Rwmaneg: Provincia Autonomă Voivodina
  • Kuna: Autonomna Pokrajina Vojvodina
  • Rwsiaidd Pannonaidd: Автономна Покраїна Войводина (Avtonomna Pokrajina Vojvodina)

Hanes golygu

Amseroedd cyn-Rufeinig a theyrnasiaid Rhufeinig  golygu

Yn y cyfnod Neolithic,  bu i ddau ddiwylliant archeoloegoldau bwysig ffynnu yma: y dwyllaint y Starčevo a diwylliant y Vinča.Sefydlodd y bobl Indo-Ewropeaidd  gyntaf yn nhiriogaeth Vojvodina fodern yn ystod 3200 CC. Yn ystod y cyfnod Eneolithig, yr Oes Efydd a'r Oes Haearn, roedd i nifer o ddiwylliannau archeologol Indo-Ewropeaidd leoli eu hunain yn, neu o gwmpas Vojvodina: y Vučedol, Vinkovci, Vatin, Belegiš, y Bosut, ac ati. Cyn y gorchfygiad Rhufeinig yn y ganrif 1af CC, poblogaeth o bobloedd Indo-Ewropeaidd yr Illyrian, Tillamook a phobl o darddiad Celtaidd oedd yn byw yn yr ardal hon. Y taleithiau cyntaf a drefnwyd yn yr ardal hon oedd y Talaith y Scordisci Geltaidd (3g CC-1g OC) gyda'i brif ddinas yn Singidunum (Belgrade), ac yn Neyrnas Ddacannaidd  Burebista (ganrif 1af CC).

Yn ystod teyrnasiad y Rhufeiniaid, Sirmium                (Sremska Mitrovica heddiw) oedd un o bedair o brif ddinasoedd yr Ymerodraeth Rufeinig, ac fe anwyd  chwe Ymerawdwyr Rhufeinig yn y ddinas neu ei chyffiniau. Roedd y  ddinas hefyd yn brifddinas i nifer o unedau gweinyddol Rhufeinig, gan gynnwys Pannonia Isaf, Pannonia Secunda, Esgobaeth Pannonia, a Rhaglawiaeth Praetoriaidd Illyria. Bu i reol Rufeinig bara hyd at y 5ed gasrif, pryd ddaeth y rhanbarth i feddiant  nifer o wahanol bobloedd a gwladwriaethau.Yn ystod teyrnasiad y rhufeiniaid roedd Banat yn rhan o dalaith Dacia, a Syria yn perthyn i'r dalaith Pannonia.Doedd Bačka ddim yn rhan o'r Ymerodraeth Rufeinig ac fe'i phoblogwyd a'i  rheolwyd gan Iasyges Sarmatiaidd.

Canol Oesoedd cynnar ac anheddiad Slafeg golygu

Ar ôl i'r Rhufeiniaid gael eu neilltuo o'r rhanbarth, daeth nifer o bobloedd Indo-Ewropeaidd a Thwrcig amrywiol i wladwriaethau'n yr ardal. Roedd y bobl yn cynnwys Gothiaid, Sarmatiaid, Hyniaid, Gepidiaid ac Afariaid. Ar gyfer hanes rhanbarthol, y mwyaf pwysig o ran gwladwriaeth oedd gwladwriaeth y Gepidiaid, gyda'u prif ddinas yn Sirmium. Yn ôl y cofnodion o'r 7g, Gwyrthiau Sant Demetrius, rhoddodd yr Afariaid  y rhanbarth o Syria i arweinydd Bwlgaraidd o'r enw Kuber tua 680. Symudodd y Bwlgariaid o Kuber i'r de gyda Maurus i Facedonia lle bu iddynt gyd-weithredu gyda Tervel yn yr 8g.

 
Adfeilion eglwys Arača 

Sefydlodd Slafiaid y Vojvodina fodern yn y 6ed a'r 7g,[6] cyn i rai  ohonynt groesi'r afonnydd Sava a'r Donwy, a sefydlu'n y Balcanau. Y llwythau Slafeg a drigai'n nhiriogaeth bresennol Vojvodina oedd, yn cynnwys yr Abodritiau, Severaniaid, Braničevci a'r Timočaniaiad. Yn y 9g, ar ôl y cwymp y wladwriaeth Afariaidd, daeth y sylfaen gyntaf o wladwriaeth Slafeg i fodolaeth amlwg yn y rhanbarth.Y gwladwrieaethau Slafeg cyntaf a reolodd y rhanbarth yma oedd yr Ymerodraeth Fwlgaraidd, Moravia Fawr a Dugiaeth Pannonaidd Ljudevit. Yn ystod y weinyddiaeth Fwlgaraidd (9g), roedd dugiaid Bwlgaraidd lleol megis Salan a Glad, yn rheoli'r rhanbarth. Titel oedd preswyl Salan, tra bod o Glad o bosbil yn byw'n rhagfur Galad neu efallai yn y Kladovo (Gladovo) yn nwyrain Serbia. Disgynnydd Glad oedd Dug Ahtum, arweinnydd lleol arall o'r 11g a gwrthwynebodd sefydlu rheolaeth Hwngareg dros y rhanbarth.[angen ffynhonnell]

Ym mhentref Čelarevo mae archeolegwyr wedi darganfod olion o bobl a ddilynnai'r ffydd Iddewig. Dyddiodd Bunardžić  feddau o Avar-Bulgar a gloddiwyd yn Čelarevo, a oedd yn cynnwys penglogau â nodweddion Mongolaidd a symbolau Iddewig, i ddiwedd y 8fed a'r 9g.Ystyrir Erdely a Vilkhnovich fod y beddau hyn yn perthyn i'r Kabariaid a thorrodd cysylltiadau gyda'r Ymerodraeth Khazaraidd rhwng y 830au ac  862. (Ymunodd tri llwyth arall o'r Khazar â'r  Magyariaid ac fe gymerwyd rhan yng nghorchfygiad y Magyariaid dros fasn Carpathia, gan gynnwys yr hyn sydd bellach yn Vojvodina yn 895-907.)[angen ffynhonnell]

Teyrnasiad Hwngareg  golygu

 
Caer Bač

Yn dilyn anghydfodau tiriogaethol gydag Bysantaidd a thaleithiau Bwlgaraidd, fe death y rhan fwyaf o Vojvodina yn rhan o Ddeyrnas Hwngari rhwng y 10fed a'r 12g ac arhosodd o dan weinyddiaeth Hwngareg tan y 16g. Yn dilyn cyfnodau o weinyddiaeth Otomaniaidd a Habsburgaidd, bu i oruchafiaeth wleidyddol Hwngareg sefydlu eto tros Orhan fwyaf o'r rhanbarth yn 1867 a thros y rhanbarth gyfan yn 1882, ar ôl diddymu'r Ffîn Filwrol Habsburgaidd.[angen ffynhonnell]

Dechreuodd y cydbwysedd demograffig newid yn yr 11g panfu i  Magyariaid gychwyn cymryd lle'r boblogaeth Slafaidd. Ond o'r 14g, fe nweidwyd y cydbwysedd eto o blaid y Slafiaid pan fu i ffoaduriaid Serbiaidd a oedd yn ffoi o diriogaethau a orchfygwyd gan fyddin yr Ottomaniaid anheddu'n yr ardal. Fe adawodd y rhan fwyaf o'r[7]  Hwngariaid y rhanbarth yn ystod gorchfygiad ac ar ddechrau'r cyfnod gweinyddu'r Ottomaniaid, felly'n ystod gweinyddiaeth ac amser yr Ottomaniaid yn Vojvodina roedd y brif boblogaeth yn bennaf yn Serbiaidd) a Moslemiaid.

Teyrnasiad yr Ottomaniaid golygu

Ar ôl trechiad Teyrnas Hwngari yn Mohács gan yr Ymerodraeth Ottomannaidd, fe ddisgynnodd y rhanbarth i gyfnod o anarchiaeth a rhyfeloedd cartref. Yn 1526 sefydlodd Jovan Nenad, arweinydd milwrol Serbiaidd, ei reol ym Mačka, gogledd Banat a rhan fach o Syrmia. Credo wladwriaeth byrhoedlog annibynnol, gyda Subotica yn brif ddinas. Ar frig ei bŵer, cyhoeddodd Jovan Nenad ei hun yn Ymerawdwr Serbiaidd yn Subotica. Gan gymeryd mantais o'r sefyllfa filwrol a gweinyddol hynod ddryslyd hyn, ymunnodd uchelwyr Hwngareg y rhanbarth yn ei erbyn ac fe drechwyd y milwyr Serbiaidd yn haf 1527. Fe lofruddwyd Ymerawdwr Jovan Nenad ac fe gwympodd ei wladwriaeth. Yn dilyn cwymp gwladwriaeth yr ymerawrwr,fe sefydlodd cadlywydd milwrol goruchaf o fyddin Jovan Nenad, Radoslav Čelnik, ei wladwriaeth dros dro ei hun yn  rhanbarth Syrmia, lle gafodd ei ystyru fel gwas i'r Otomaniaid.

Ychydig ddegawdau yn ddiweddarach, ychwanegwyd y rhanbarth gyfan o fewn yr Ymerodraeth Ottoman, a reolodd tros Vojvodina o ddiwedd y 17g hyd at ddiwedd hanner cyntaf y 18g, pan gafodd ei hymgorffori i'r Frenhiniaeth Hapsbwrg. Bu i Gytundeb Karlowitz yn 1699, rhwng y Gyngrhair Sanctaidd  a'r Ymerodraeth Otomanaidd, ddynodi'r  tynnu'n ôl o'r lluoedd Ottoman o Ganol Ewrop, ac yn yr oruchafiaeth yr Ymerodraeth Hapsbwrg yn y rhan honno o'r cyfandir. Yn ôl y cytundeb, fe roddwyd ran orllewinol Vojvodina i'r Habsbwrgiaid, ac arhosodd y rhan ddwyreiniol (dwyrain Syrmia ac yn Dalaith o Tamışvar) yn nwylo'r Ottomaniaid hyd nes i goncwest Awstria yn 1716. Roedd  hyn yn ffîn newydd a gadarnhawyd gan y Gytundeb Passarowitz yn 1718.

Teyrnasiad Hapsbwrg  golygu

 
Cynulliad Blagoveštenski yn Sremski Karlovci, 1861

Yn ystod yr Ymfudiad Mawr Serbaidd, bu i Serbiaid o diriogaethau Otomaniaidd ymgartrefu o fewn y Frenhiniaeth Hapsbwrg ar ddiwedd y 17g (yn 1690), y rhan fwyaf ohonynt yn setlo yn yr hyn sy'n awr yn Hwngari, a'r gweddill yng ngorllewin Vojvodina. Fodd bynnag,  oherwydd y digwyddiad hwn,  bu i'r holl Serbiaid yn y Frenhiniaeth Hapsbwrgaidd ennill  statws cydnabyddaeth cenedlaethol a hawliau helaeth, yn gyfnewid am ddarparu ffîn milisiaidd (yn y  Ffîn Filwrol) y gellid galw arnynt i amddiffyn yn erbyn goresgynwyr o'r de, yn ogystal ag yn achos o aflonyddwch sifil yn y Ddeyrnas Hapsbwrg Hwngareg.

Ar ddechrau teyrnasiad yr Hapsbwrgiaid, bu i'r rhan fwyaf o'r rhanbarth gael ei gyfuno i'r Ffîn Filwrol, tra bu i rannau gorllewinol o Bačka gael eu rhoi  dan weinyddiaeth sifil o fewn Sir Bač. Yn ddiweddarach, fe ehangwyd y weinyddiaeth sifil i rannau eraill (yn bennaf yn y gogledd), tra arhosodd y rhannau deheuol dan weinyddiaeth filwrol. Cynhaliwyd y rhan ddwyreiniol gan y Ottomaniaid rhwng 1787-1788, yn ystod y Rhyfel Rwsieg-Twrceg.

Yn 1716, yn Fienna roedd gwharddiad dros dro ar ymgartrefu gan Hwngariaid a Iddewon yn yr ardal, er bod nifer fawr o siaradwyr Almaeneg yn cael eu cartrefu'n y rhanbarth. O 1782, bu i nifer mwy o Hwngariaid Protestannaidd  ac  Almaenwyr ethnig ymgartrefu yno.

 
Ffiniau cyhoeddedig Vojvodina Serbiaidd yn y Cynulliad ym mis Mai (1848) aThywysogaeth Hunanlywodraethol Ottomanaidd Serbia 

Yn ystod chwyldroadau 1848-49, roedd Vojvodina yn safle o ryfel rhwng y Serbiaid a'r Hwngariaid, oherwydd y cysyniadau cenedlaethol gwrthwynebol y ddwy boblogaeth. Yng  Nghynulliad Mai yn Sremski Karlovci (13-15 Mai 1848), datgannodd y Serbiaid   gyfansoddiad serbia Voivodship (Dugiaeth Serbia), rhanbarth hunanlywodraethol o fewn yr Ymerodraeth Awstriaidd. Roedd y Voivodiaeth Serbiaidd yn cynnwys Srem, Bačka, Banat, a Baranja. Cafodd pennaeth archesgobaeth Sremski Karlovci, Josif Rajačić, ei ethol yn batriarch, tra cafodd Stevan Šupljikac ei ddewis fel y prif voivod (dug). Tarodd y rhyfel ethnic yr ardal hon fwyaf efallai,  gyda'r erchyllterau ofnadwy a gyflawnwyd yn erbyn y poblogaethau sifil gan y ddwy ochr.

Yn dilyn buddigoliaeth yr Hapsbwrgiaid a'r Serbiaid tros yr Hwngariaid yn 1849, crëwyd diriogaeth weinyddol newydd  yn y rhanbarth yn Nhachwedd, 1849, yn unol â'r penderfyniad a wnaed gan  Ymerawdwr Awstria. Gyda'r penderfyniad hwn, trawsnewidwyd y rhanbarth Serbiaidd a grëwyd nôl yn 1848 i fod yn tir y goron Awstraidd a adwaenid fel Voivodedd  Serbia a Temes Banat. Roedd yn cynnwys Banat, Bačka a Srem, ond dim rhannau deheuol y rhanbarthau hyn a oedd yn rhan o'r Ffîn Filwrol. Eisteddai llywodraethwr Awstria yn Nhemeschwar a reolodd yr ardal, er fod y teitl o 'Voivod' yn perthyn i'r ymerawdwr ei hun. Teitl llawn yr ymerawdwr oedd "Arch Voivod y Voivodedd Serbia" (Almaeneg: Großwoiwode der Woiwodschaft Serbia). Almaeneg ac Illyrian (Serbia) oedd ieithoedd swyddogol tir y goron. Yn 1860, cafodd y dalaith newydd ei diddymu ac fu i'r rhan fwyaf ohoni (gydag eithriad o Syrmia) unwaith eto gael ei cyfuno i mewn i Ddeyrnas Hapsbwrg Hwngari. Ar ôl 1867, fe ddaeth Teyrnas Hwngari  yn un o ddwy ranbarth hunan-lywodraethol o Awstria-Hwngari. Bu'r cyfnod yn dilyn  Cyfaddawd Awstria-Hwngari o 1867 yn gyfnod economaidd llewyrchus, a bu i economi Teyrnas Hwngari dyfu i fod yr ail economi gyflymaf yn Ewrop rhwng 1867-1913, ond bu cysylltiadau ethnig yn straen. Yn ôl cyfrifiad 1910, yn y cyfrifiad diwethaf a gynhaliwyd yn Awstria-Hwngari,roedd i boblogaeth Vojvodina gynnwys cyfanswm o 510,754, (33.8%) yn Serbiaid, 425,672 (28.1%) Hwngariaid a 324,017 (21.4%) Almaenwyr.[8]

Teyrnas  Iwgoslafia, yr Ail Ryfel Byd, Sosialaeth Iwgoslafia golygu

 
Novi Sad, ar ddechrau'r 20fed ganrif

Ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, roedd Ymerodraeth Awstria-Hwngari wedi cwympo. Ar y 29fed o Hydref 1918, daeth Syrmia yn rhan o'r Wladwriaeth o Slofeniaid, Croatiaid a'r Serbiaid. Ar 31fed o Hydref 1918,bu i Weriniaeth Banat gael ei chyhoeddi yn Nhimișoara. Cydnabyddwyd y llywodraeth yn Hwngari ei hannibyniaeth, er i hyn fod yn fyrhoedlog.

Ar Dachwedd 25, 1918, yng Nghynulliad  Serbiaid, Bunjevci, a chenhedloedd eraill o Vojvodina yn Novi Sad gyhoeddi uno Vojvodina (Banat, Bačka a Baranja) gyda Teyrnas Serbia (Roedd y cynulliad yn rhifo 757 o ddirprwyon, gydag 578 yn Serbiaid, 84 Bunjevci, 62 Slofaciaid, 21 Rwa, 6 Almaenwyr, 3 Šokci, 2 Croatiaid ac 1 Hwngareg). Un diwrnod cyn hyn, ar Dachwedd 24, bu i Gynulliad Syrmia hefyd gyhoeddi uno Syrmia gyda Serbia. Ar y 1af o Ragfyr 1918, fe ddaeth Vojvodina (fel rhan o Ddeyrnas  Serbia) yn rhan swyddogol o Ddeyrnas y Serbiaid, Croatiaid a Slofeniaid.

 
Cynulliad o Serbiaid, Bunjevci, a chenhedloedd eraill o Vojvodina yn Novi Sad yn cyhoeddi uno rhanbarth Vojvodina gyda  Teyrnas  Serbia, 1918.

Rhwng 1929 a 1941, daeth yr ardal yn rhan o Donwy Banovina, yn dalaith o  Ddeyrnas  Iwgoslafia, gyda'i phrif ddinas yn Novi Sad. Ar wahân i diriogaethau craidd Vojvodina a Baranja, roedd y dalaith hefyd yn cynnwys rhannau sylweddol o Šumadija a Braničevo rhanbarthau de o'r afon Donwy (ond nid yn y brifddinas o Belgrade).

Rhwng 1941 a 1944, yn ystod yr Ail Ryfel Byd, bu i'r  Pwerau Echel (Natsïaidd yr Almaen a'i chynghreiriaid, Gladwriaeth Annibyniaeth Croatia a Hwngari) a rhannu a meddiannu Vojvodina. Fe annerchwyd Bačka a Baranja gan Horthy o Hwngari ac fe fu i Syria gael ei chynnwys i mewn i Wladwriaeth annibynnol  Croatia. Llai Danube Banovina (gan gynnwys Banat, Šumadija, a Braničevo) yn bodoli fel rhan o ardal reoli gan y Milwrol Gweinyddu yn Serbia. Y ganolfan weinyddol hyn yn llai dalaith yn Smederevo. Fodd bynnag, Banat ei hun oedd ar wahân rhanbarth ymreolaethol rheoli gan ei almaeneg lleiafrifol. Y pwerau meddiannu wedi ymrwymo nifer o droseddau yn erbyn y boblogaeth sifil, yn enwedig yn erbyn y Serbiaid, Iddewon a Roma; y boblogaeth Iddewig o Vojvodina yn bron yn gyfan gwbl yn lladd neu eu halltudio. Mewn cyfanswm, Echel (almaeneg, croatia a hwngari) galwedigaethol awdurdodau lladd tua 50,000 o ddinasyddion o Vojvodina (yn bennaf Serbiaid, Iddewon a Roma) tra bod mwy na 280,000 o bobl eu chaethiwo, arestio, treisio neu arteithio.[9]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Autonomous Province of Vojvodina". vojvodina.gov.rs. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-12-20. Cyrchwyd 2018-03-04.
  2. "Покрајинска влада". vojvodina.gov.rs. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-02-12. Cyrchwyd 2018-03-04.
  3. "Serbian Government - Official Presentation". serbia.gov.rs.
  4. "Error". vip.org.rs. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-12-27. Cyrchwyd 2018-03-04.
  5. "Beogradski centar za ljudska prava - Belgrade Centre for Human Rights". bgcentar.org.rs. 29 March 2015.
  6. "Slovenski grobovi uz reku Galadsku". Blic.rs. Cyrchwyd 23 July 2012.
  7. "Ethnic Geography of the Hungarian Minorities in the Carpathian Basin". google.rs. tt. 140, 155.[dolen marw]
  8. "Table". Web.archive.org. 2011-01-26. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-01-26. Cyrchwyd 2016-09-24. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  9. Dr Dušan Popov, Vojvodina, Enciklopedija Novog Sada, sveska 5, Novi Sad, 1996, p. 196.