Ras seiclo aml-gymalog flynyddol sy'n cael ei chynnal yn bennaf yn Sbaen ydy'r Vuelta a España (Cymraeg: Cylchdaith Sbaen). Yn dilyn llwyddiant y Giro d'Italia a'r Tour de France penderfynodd papur newydd y Diaro Informaciones drefnu'r ras gyntaf ym 1935[1]. Ni chafodd y ras ei chynnal yn ystod Rhyfel Cartref Sbaen na'r Ail Ryfel Byd ond mae'r ras wedi ei chynnal yn flynyddol ers 1955[1].

Mae'r Vuelta, ynghyd â'r Tour de France a'r Giro d'Italia yn rasys aml-gymalog tair wythnos o hyd sy'n cael eu hadnabod fel y Grand Tours mawreddog. Mae taith y ras yn newid o flwyddyn i flwyddyn gyda'r cymal olaf yn gorffen yn y brifddinas, Madrid.

Mae pob cymal yn cael ei amseru ac ar ôl gorffen mae amser pob beiciwr yn cael ei ychwanegu at eu hamseroedd dros y cymalau blaenorol. Y beiciwr gyda'r amser cyflymaf ydy arweinydd y ras ac mae'n cael y fraint o wisgo'r maillot rojo (Cymraeg: crys coch). Yn ogystal â'r brif ras mae cystadleuaeth bwyntiau i'r gwibwyr, cystadleuaeth Brenin y Mynyddoedd i'r dringwyr a chystadleuaeth i'r timau.

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 "Cycling Revealed". Cycling Revealed.

Dolenni allanol golygu