Wace

bardd a chroniclydd Normanaidd o'r 12fed ganrif

Bardd ac hanesydd o Jersey yn yr iaith Hen Normaneg oedd Wace (tua 1100 – rhywbryd ar ôl 1174).[1] Mae'n adnabyddus am ei ddau gronicl mydryddol Roman de Brut (1155) a Roman de Rou (1160–74).

Wace
Ganwydc. 1100 Edit this on Wikidata
Beilïaeth Jersey Edit this on Wikidata
Bu farw1174, c. 1175 Edit this on Wikidata
Bayeux Edit this on Wikidata
DinasyddiaethDugiaeth Normandi Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd, ysgrifennwr, hanesydd Edit this on Wikidata
Adnabyddus amRoman de Brut, Roman de Rou Edit this on Wikidata
Arddullarwrgerdd, medieval chronicle, hagiograffeg Edit this on Wikidata

Hanes Prydain ers oes Brutus ydy Roman de Brut, sydd yn addasiad o ffug-hanes Sieffre o Fynwy, Historia Regum Britanniae, yn bennaf. Ychwanegodd Wace sawl agwedd ddychmygol a rhamantus at hanes traddodiadol Prydain a Chylch Arthur, gan gynnwys y Ford Gron. Arddull fywiocach a dramataidd sydd i gronicl Wace, a chyda'i gyfieithiad i'r Saesneg gan Layamon roedd yn hynod o ddylanwadol yn natblygiad chwedlau'r Brenin Arthur yn Lloegr ac yn Ffrainc.

Penodwyd Wace yn ganonwr yn Bayeux rhywbryd cyn 1169, ar gais Harri II, brenin Lloegr, yr hwn a gomisiynodd Roman de Rou. Ysgrifennwyd y gwaith hwnnw mewn cwpledi wythsill a phenillion unodl alecsandraidd. Hanes ydyw o'r dugiaid Normanaidd o gyfnod y Llychlynnwr Rou (Hrólfr yn Norseg, neu Rollon yn Ffrangeg) hyd at Robert Curthose, ac mae'n cynnwys disgrifiad enwog o Frwydr Hastings. Yn 1174, trosglwyddodd y Brenin Harri ei nawddogaeth at un o'r enw Beneeit (o bosib Benoît de Sainte-Maure), a bu gwaith Wace yn anorffenedig.

Yn ogystal â'r groniclau, mae tri gwaith defosiynol gan Wace hefyd yn goroesi.

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) Wace. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 6 Mawrth 2019.