Walt Whitman Rostow

Economegydd ac hanesydd economaidd Americanaidd oedd Walt Whitman Rostow (7 Hydref 191613 Chwefror 2003)[1] a wasanaethodd fel Cynorthwy-ydd Arbennig dros Faterion Diogelwch Cenedlaethol dan yr Arlywydd Lyndon B. Johnson.

Walt Whitman Rostow
Ganwyd7 Hydref 1916 Edit this on Wikidata
Dinas Efrog Newydd Edit this on Wikidata
Bu farw13 Chwefror 2003 Edit this on Wikidata
Austin Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
ymgynghorydd y doethor
  • Arthur David Gayer Edit this on Wikidata
Galwedigaetheconomegydd, academydd, gwleidydd, ysgrifennwr, hanesydd, gwyddonydd gwleidyddol Edit this on Wikidata
SwyddCynghorydd Diogelwch Cenedlaethol, Counselor of the United States Department of State, Director of Policy Planning, Deputy National Security Advisor Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Plaid Wleidyddolplaid Ddemocrataidd Edit this on Wikidata
PriodElspeth Rostow Edit this on Wikidata
Gwobr/auOBE, Llengfilwr y Lleng Teilyndod, Medal Rhyddid yr Arlywydd, Ysgoloriaethau Rhodes, Doethor Anrhydeddus Brifysgol Miami Edit this on Wikidata

Ganwyd Rostow yn Ninas Efrog Newydd i deulu Iddewig-Rwsiaidd. Roedd yn ysgolhaig Rhodes ac yn ystod yr Ail Ryfel Byd gwasanaethodd yn yr Office of Strategic Services (OSS), y rhagflaenydd i'r CIA. Addysgodd mewn nifer o brifysgolion yn yr Unol Daleithiau gan gynnwys y Massachusetts Institute of Technology. Roedd yn wrth-gomiwnydd cryf ac ysgrifennodd y llyfr The Stages of Economic Growth: A Non-Communist Manifesto (1960) gan ddadlau yr oedd angen i ddarparu cyfalaf i wledydd tlawd i'w hannog i droi at gyfalafiaeth a democratiaeth ac nid comiwnyddiaeth.[2]

Bathodd Rostow arwyddair ymgyrch arlywyddol John F. Kennedy ym 1960: Let's Get This Country Moving Again,[3] ac mae'n bosib bathodd hefyd y term New Frontier mewn araith Kennedy pan enillodd yr etholiad.[4] Penododd yr Arlywydd Kennedy Rostow yn Ddirprwy Gynorthwy-ydd Arbennig dros Faterion Diogelwch Cenedlaethol ym 1961. Roedd Rostow yn gadeirydd cyngor cynllunio polisi yr Adran Dramor o 1961 hyd 1966, ac o 1966 hyd i'r Arlywydd Johnson adael y Tŷ Gwyn yn Ionawr 1969 roedd Rostow yn Gynorthwy-ydd Arbennig dros Faterion Diogelwch Cenedlaethol. Roedd Rostow yn un o gefnogwyr mwyaf brwd yng ngweinyddiaethau Kennedy a Johnson dros rôl yr Unol Daleithiau yn Rhyfel Fietnam, gan gredu yr oedd yn hanfodol er mwyn sicrhau moderneiddio economaidd yn Ne Ddwyrain Asia.[2][5] Yn Rhagfyr 1963 lluniodd "osodiad Rostow", gan ddadlau bod angen dwysháu'r rhyfel trwy daro cefnogaeth allanol herwfilwyr y Fiet Cong (sef lluoedd Gogledd Fietnam) a niweidio'r gelyn yn seicolegol.[3]

Ar ôl gadael y llywodraeth daeth Rostow yn athro economi wleidyddol yn Ysgol Materion Cyhoeddus Lyndon B. Johnson ym Mhrifysgol Texas ac ysgrifennod mwy na 30 o lyfrau.[3]

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) Hodgson, Godfrey (17 Chwefror 2003). Obituary: Walt Rostow. The Guardian. Adalwyd ar 22 Gorffennaf 2013.
  2. 2.0 2.1 (Saesneg) Walt Rostow. The Economist (20 Chwefror 2003). Adalwyd ar 22 Gorffennaf 2013.
  3. 3.0 3.1 3.2 (Saesneg) Purdum, Todd S. (15 Chwefror 2003). Walt Rostow, Adviser to Kennedy and Johnson, Dies at 86. The New York Times. Adalwyd ar 22 Gorffennaf 2013.
  4. (Saesneg) Cornwell, Rupert (17 Chwefror 2003). Walt Rostow: Vietnam War super-hawk advising Presidents Kennedy and Johnson. The Independent. Adalwyd ar 22 Gorffennaf 2013.
  5. (Saesneg) Walt Whitman Rostow. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 22 Gorffennaf 2013.

Darllen pellach golygu

  • Milne, David. America's Rasputin: Walt Rostow and the Vietnam War (Efrog Newydd, Hill and Wang, 2008).
Swyddi gwleidyddol
Rhagflaenydd:
Mac Bundy
Cynghorydd Diogelwch Cenedlaethol
19661969
Olynydd:
Henry Kissinger