Roedd Walter Colman (16001645) yn ffrier Ffransisgaidd Seisnig.[1]

Walter Colman
Ganwyd1600 Edit this on Wikidata
Cannock Edit this on Wikidata
Bu farw1645 Edit this on Wikidata
Carchar Newgate Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Lloegr Lloegr
Alma mater
Galwedigaethffrier Edit this on Wikidata

Bywyd golygu

Ganed Colman yn Cannock, Swydd Staford, i deulu bonheddig a chyfoethog. Enw ei dad oedd Walter Coleman. Yn ddiweddarach rhoddodd teulu ei fam, y Whitgreaves, loches i Siarl II ym 1651 yn Mosley Hall ger Wolverhampton.[2]

Gadawodd Colman â Lloegr yn ŵr ifanc i astudio yn y Coleg Seisnig, Douai. Ym 1625 daeth yn aelod o Urdd Ffransisgaidd Douai, gan dderbyn yr enw mewn crefydd Christopher o St. Clare. Dyma'r enw sy'n cael ei ddefnyddio yn y mwyafrif o ffynonellau hanesyddol sy'n cyfeirio ato.[3]

Ar ôl cwblhau ei flwyddyn o nofyddiaeth, dychwelodd i Loegr ar alwad yr uwch dad daleithiol, y Tad John Jennings. Wedi dychwelyd cafodd ei garcharu ar unwaith oherwydd iddo wrthod tyngu'r llw o deyrngarwch i'r frenhiniaeth Brotestannaidd. Wedi'i ryddhau trwy ymdrechion ei ffrindiau, aeth Colman i Lundain, lle cafodd ei gyflogi yng ngwaith y weinidogaeth, a lle, yn ystod ei gyfnodau hamdden, cyfansoddodd La dance machabre, neu Gornest Marwolaeth (Llundain, 1632 neu 1633), trafodaeth mewn medr a rhythm cain ar bwnc marwolaeth, a gyflwynwyd i'r Frenhines Henrietta Maria, consort y Brenin Siarl I.

Dychwelodd Colman i Douai i adfer ei iechyd wedi ei gyfnod yn y carchar. Pan dorrodd erledigaeth grefyddol allan o'r newydd ym 1641, dychwelodd i Loegr. Ar 8 Rhagfyr yr un flwyddyn cafodd ei ddwyn i dreial, ynghyd â chwech o offeiriaid eraill, yr oedd dau ohonynt yn Fenedictiaid, roedd y pedwar arall yn aelodau o'r clerigwyr seciwlar. Cawsant i gyd eu condemnio i gael eu Crogi, diberfeddu a chwarteru ar 13 Rhagfyr, ond trwy ymyrraeth llysgennad Ffrainc gohiriwyd y dienyddiad am gyfnod amhenodol. Arhosodd Colman yng Ngharchar Newgate am nifer o flynyddoedd. Wedi blino'n lân ac yn ddioddef o newyn a llymder oherwydd ei garchariad bu farw ym 1645.[4][5]

Cyfeiriadau golygu

  1. Anne Hope, Franciscan Martyrs in England (London, 1878), xi, 123 sqq
  2. Fennessy, I. (2004, Medi 23). Coleman, Walter (1600–1645), Franciscan friar, missionary, and writer. Oxford Dictionary of National Biography. Adalwyd 11 Gorffennaf 2019
  3. Thaddeus, The Franciscans in England (London, 1898), 62, 72, 106
  4. Leo, Lives of the Saints and Blessed of the Three Orders of St. Francis (Taunton, 1887), IV, 368.
  5. Mason, Certamen Seraphicum (Quaracchi, 1885), 211, 228