Walter de Châtillon

Roedd Walter de Châtillon neu Walterus de Insula sef Walter o Lille (c. 1135 - wedi 1184) yn fardd telynegol yn yr iaith Ladin, a aned yn Lille yng ngogledd-ddwyrain Ffrainc.

Walter de Châtillon
Ganwydc. 1135 Edit this on Wikidata
Lille Edit this on Wikidata
Bu farwc. 1201 Edit this on Wikidata
Amiens Edit this on Wikidata
DinasyddiaethFfrainc Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethysgrifennwr, diwinydd, bardd, Goliard Edit this on Wikidata
Cyflogwr

Ei fywyd golygu

Yn ystod ei yrfa eglwysig roedd yn ganon yn Reims ac Amiens ac astudiodd y gyfraith ym Mhrifysgol Bologna yn yr Eidal. Treuliodd gyfnod fel athro yn Châtillon, lle daeth i amlygrwydd gan ennill iddo'i hun yr enw Walter de Châtillon, ac yn ddiweddarach gwasanaethodd yn llys y brenin Angevin Harri II o Loegr (1133-1189).

Ei waith llenyddol golygu

Roedd Walter yn fardd telynegol mawr, gyda meistroliaeth lwyr ar odl a a mydr. Mae ei delynegion gorau yn cynnwys y fugeilgerdd Declinante frigore ac Importuna Veneri lle mae'r bardd yn cwyno bod y Gaeaf yn ceisio rhewi ei gariad ond mae'r cariad hynny yn ei galon ac ni all yr oerfel ei gyffwrdd:

Amor est in pectore,
Nullo frigens frigore.

Llyfryddiaeth golygu

  • Frederick Brittain (gol.), The Penguin Book of Latin Verse (Llundain, 1964). Testun Lladin a chyfieithiad Saesneg o'r ddwy delyneg uchod.