Wayne Shorter

cyfansoddwr a aned yn 1933

Sacsoffonydd a chyfansoddwr jazz o bwys yw Wayne Shorter (ganwyd 25 Awst 1933; m. 2 Mawrth 2023). Daeth i'r amlwg ym mand Art Blakey yn y 1960au cynnar cyn ennill enwogrwydd sylweddol, yn gyntaf yn aelod o fandiau Miles Davis rhwng 1964 a 1970 ac ers hynny, fel un o gyd-arweinwyr y band Weather Report ac ar nifer o recordiau o dan ei enw ef ei hunan.

Wayne Shorter
Shorter yn 1980
Y Cefndir
Ganwyd(1933-08-25)25 Awst 1933
Newark, New Jersey, U.D.A.
Math o Gerddoriaethjazz, jazz fusion
GwaithCerddor, cyfansoddwr
Offeryn/nauSacsoffon tenor a soprano
Cyfnod perfformio1958–presennol
LabelBlue Note, Columbia, Verve
Perff'au eraillArt Blakey, Miles Davis, Herbie Hancock, Freddie Hubbard, Joni Mitchell, John Pattitucci, Weather Report, Joe Zawinul
Gwefanwayneshorter.com

Yn ogystal â bod yn sacsoffonydd dylanwadol, Shorter yw un o gyfansoddwyr mwyaf blaenllaw jazz ers y 60au. Roedd lle blaenllaw i'w gyfansoddiadau ym mherfformiadau bandiau Blakey a Davis, ac ef oedd un o brif gyfansoddwyr Weather Report.

Recordiau (detholiad) golygu

  • Speak no Evil, 1964
  • Adam's Apple, 1966
  • Atlantis, 1985
  • Footprints Live!, 2001

Gyda Weather Report:

  • Weather Report, 1970
  • Heavy Weather, 1977

Cyfeiriadau golygu