Dyma bolisi botiau swyddogol Wicipedia.

Mae'r polisi botiau yn ymdrin a gweithrediad botiau a sgriptiau sy'n rhedeg yn awtomatig er mwyn awtomeiddio golygiadau Wicipedia, os ydynt wedi eu awtomeiddio yn gyfan gwbl, higher speed, neu yn cynorthwyo golygwyr dynol yn eu gwaith.

Diffiniadau golygu

  • Yn gyffredin, mae bot (sy'n fyr am "robot"), yn rhaglen neu'n sgript sy'n gwneud golygiadau wedi eu hawtomeiddio heb yr angen am benderfyniad dynol.
  • Mae golygiadau cynorthwyedig yn ymdrin ag offer a sgriptiau arafach sydd ond yn cynorthwyo defnyddwyr i wneud penderfyniad. Ystyrir unrhyw offer neu raglen nad yw'n gadael i'r defnyddiwr weld bob golygiad a rhoi cyfarwyddyd i wneud y golygiad yn fot.
  • Mae sgriptiau yn sgriptiau sydd wedi eu personoleiddio (javascript fel arfer, ond nid yn angenrheidiol) er mwyn awtomeiddio prosesau, neu i wella'r rhyngwyneb MediaWiki sydd eisioes yn bodoli.

Cyfrif bot golygu

Dylai cyfranwyr greu cyfrif arwahân er mwyn gweithredu bot. Dylai enw'r cyfrif andabod enw'r gweithredwr neu weithrediad y bot, a dylid cadarnhau fod pwrpas y cyfrif yn eglur drwy gyfuno'r gair "bot," yn enw'r cyfrif, heblaw botiau a oedd eisioes yn weithredol ar brosiectau Wici eraill. Mae offer nas ystyrir yn fot hefyd angen cyfrif arwahân, ond mae rhai defnyddwyr hefyd yn dewis creu cyfrifon arwahân ar gyfer golygiadau cyflym sydd ddim yn cael ei weithredu gan fot.

Mae cyfraniadau bot wastad yn aros yn gyfrifoldeb y sawl sy'n gweithredu'r bot, a dylid medru adnabod y gweithredwr yn rhwydd ar dudalen defnyddiwr y bot. Yn benodol, mae'r gweithredwr yn gyfrifol am adfer unrhyw niwed a achoswyd gan fot sydd ddim yn gweithio'n gywir. Mae polisiau Wicipedia yn gymwys i gyfrif bot yn yr un modd ag unrhyw gyfrif arall. Mae cyfrif bot yn cael ei ystyried fel cyfrif arall y gweithredwr ar gyfer pwrpas polisi cyfrifon defnyddwyr Wicipedia.

Ni ddylid defnyddio cyfrif bot i greu cyfraniadau nad ydynt o fewn diffiniad tasgau penodedig y bot. Ac yn arbennig, ni ddylai gweithredwyr botiau ddefnyddio cyfrif bot i ymateb i unrhyw gwestiynnau ynglyn â'r bot, ond gall gweithredwyr bot ailgyfeirio tudalen sgwrs eu bot i dudalen sgwrs eu cyfrif eu hunain.

Gweler hefyd golygu

Dolenni allanol golygu