Wicipedia:Cysylltwch â ni am gymorth

Wicipedia:CymorthWicipedia:Cymorth
Wicipedia:Cymorth
Wicipedia:Cymorth
Cysylltwch â ni

Yn gyffredinol, dylai defnyddwyr fod yn ymwybodol y gallant ddatrys problemau maent yn eu canfod eu hunain ac fe'u hanogir i wneud hynny, neu geisio datrys yr anghydfod os oes anghydweld o fewn y Dudalen Sgwrs.

Mae gan ddefnyddwyr ddwy brif ffordd i gysylltu â Wicipedia:

  1. Y gymuned olygyddol sy'n gyfrifol am bron pob penderfyniad am gynnwys erthygl ac anghydfodau golygyddol. Ceir prosesau manwl i helpu datrys anghydfodau. Gyda'r mwyafrif llethol o achosion, caiff anghydfodau eu datrys gan y gymuned, yn ôl cytundeb cymunedol a gytunir gan Bolisïau a chanllawiau'r Wicipedia Cymraeg.
  2. Mae'r ebost mnewnol Wici (ewch i dudalen defnyddiwr ac fel arfer fe welwch ei ebost ar y chwith) yn galluogi rhai problemau i gael eu harchwilio gan y tîm ymateb gwirfoddol (e.e. Gweinyddwyr) mewn materion golygyddol a materion eraill sy'n effeithio ar gyfranwyr a darllenwyr. Mae'r ebost yn ddull effeithiol mewn achosion lle mae delio â'r sefyllfa mewn modd gyfrinachol yn bwysig. Gelwir y defnyddwyr profiadol hyn yn "dîm ymateb gwirfoddol".

Gwneir penderfyniadau golygyddol cyffredinol gan y gymuned olygyddol; byddant yn cynghori ac yn gweithredu mewn rhai achosion, ond ni fyddant yn anwybyddu nac yn newid penderfyniadau cymunedol heb fod cefnogaeth o'r gymuned.

Lle i fynd?
Y drefn arferol ydy: 1. Nodi'r ffeithiau ar y Dudalen Sgwrs neu'r Ddesg Gyfeiriol. 2. Nodi ar Sgwrs Wicipedia:Gweinyddwyr 3. Y Caffi 4. Mewn materion sensitif anfonwch ebost at un o'r tîm ymateb gwirfoddol. 5. Ebostiwch Wici Cymru: wicipediacymraeg@gmail.com

Pryd i beidio cysylltu efo ni

  • Pan fo problem mewn erthygl amdanoch chi neu rywun rydych yn ei gynrychioli. Ateb: Sgwennwch nodyn i'r perwyl ar y Dudalen Sgwrs. Os na chewch unrhyw ymateb rhowch {{Helpwch}} ar eich tudalen sgwrs, a bydd un o'n golygyddion profiadol yn ymweld â chi yno!
  • Os oes angen cymorth gweinyddol arnoch yn benodol, rhowch {{Cymorthgweinyddol}} ar eich tudalen sgwrs.
  • Mae problem mewn erthygl am eich menter, sefydliad neu gymdeithas. Ateb: Sgwennwch nodyn i'r perwyl ar Dudalen Sgwrs yr erthygl neu'r Defnyddiwr, neu gofynwch gwestiwn yn Y Ddesg Gyfeirio.
  • Pan fo camgymeriad neu wall ffeithiol mewn erthygl. Ateb: Cywirwch y ffaith a nodwch y gyfeiriadaeth sy'n profi eich bod yn gywir.
  • Mae yna fandaliaeth megis gosod dwli mewn erthygl e.e. sylwadau neu ddelweddau. Ateb: Sgwennwch nodyn i'r perwyl ar y Dudalen Sgwrs. Os nad yw hyn yn llwyddo yna cysylltwch gydag un o'r tîm ymateb gwirfoddol drwy ebost.
  • Mae erthygl wedi defnyddio cynnwys sydd o dan hawlfraint person neu gorff arall a hynny heb ganiatâd. Ateb: Sgwennwch nodyn i'r perwyl ar y Dudalen Sgwrs. Os nad yw hyn yn llwyddo yna cysylltwch gydag un o'r tîm ymateb gwirfoddol drwy ebost.
  • Rydych chi eisiau dileu neu ddadwneud testun mewn erthygl. Ateb: Gwnewch hynny! Byddwch ddewr!
  • Rydych chi eisiau gwneud cais i symud tudalen neu newid teitl yr erthygl. Ateb: Sgwennwch nodyn i'r perwyl ar y Dudalen Sgwrs.

Pryd i gysylltu efo ni

Os methwch gydag un o'r uchod yna cysylltwch â ni ar unwaith.


Nid yw fy mhroblem ar y rhestr