Wicipedia:Tiwtorial (Golygu)

Cyflwyniad   Golygu   Chwilio   Dolennau   Ffynonellau   Mewngofnodi   Sgwrs   Ymestynol   Arall    
Cliciwch ar "golygu" er mwyn newid erthygl

Heblaw am ambell dudalen wedi'i diogelu, mae gan pob tudalen ddolen sy'n dweud "golygu" ar ei brig, sy'n eich galluogi i olygu'r dudalen berthnasol. Dyma un o nodweddion mwyaf elfennol Wicipedia, mae'n ddul hawdd i gywiro tudalen ac ychwanegu ffeithiau at yr erthygl. Os ydych yn ychwanegu unrhyw ffeithiau, cofiwch nodi'r ffynhonellau, oherwydd gellir cael gwared â ffeithiau sydd heb dystiolaeth neu ffynhonnell i'w cadarnhau.

Cyfres WiciAddysg

Fideos eraill

Y Pwll tywod

Ewch i'r pwll tywod a chlicio ar y ddolen "golygu". Bydd hyn yn agor ffenestr olygu sy'n cynnwys y testun ar gyfer y dudalen honno. Ychwanegwch rywbeth hwyl a diddorol neu "Helo bawb!", ac wedyn cliciwch ar Cadw'r dudalen er mwyn cael gweld yr hyn rydych wedi'i wneud! Sicrhewch eich bod chi'n golygu tudalen y pwll tywod, ac nid unrhyw dudalen arall!

Dangos rhagolwg

Gallech ddefnyddio o'r dechrau y botwm Dangos rhagolwg. Gwnewch ryw olygiad yn y pwll tywod, ac wedyn cliciwch ar y botwm Dangos rhagolwg yn hytrach na Cadw'r dudalen. Mae hyn yn eich galluogi i weld sut bydd y dudalen yn edrych ar ôl eich golygiad, cyn i chi ei gadw yn iawn; hynny yw mae'n rhoi rhagflas i ni. Rydyn ni i gyd yn gwneud camgymeriadau; mae'r nodwedd hon yn eich galluogi i'w gweld cyn cadw'r dudalen. Mae Dangos rhagolwg cyn cadw'r dudalen hefyd yn rhoi'r cyfle i chi arbrofi gyda fformatio'r dudalen a golygiadau eraill heb wneud annibendod o hanes y dudalen. Serch hynny, peidiwch ag anghofio cadw eich golygiadau ar ôl gweld a chywiro rhagolwg ohonynt!

Crynodeb golygu

Mae'r botwm "Dangos rhagolwg" i'w ganfod y drws nesaf at y botwm "Cadw'r dudalen" ac islaw'r maes Crynodeb golygu.

Cyn i chi glicio ar Cadw'r dudalen, caiff ei ystyried yn arfer da i nodi esboniad moesgar o'ch newidiadau yn y blwch Crynodeb golygu rhwng y ffenestr golygu a'r botymau Cadw'r dudalen a Dangos rhagolwg. Gallai fod yn eithaf byr; er enghraifft, os rydych yn nodi "teipo"/"camlythreniad", bydd pobl yn gwybod eich bod wedi gwneud cywiriad sillafu. Hefyd, os yw'r newid rydych wedi gwneud i'r tudalen yn un bach, sicrhewch eich bod yn ticio'r blwch "Golygiad bychan yw hwn" (mae hyn ar gael ar ôl i chi fewngofnodi'n unig).


Ceisiwch olygu yn y pwll tywod
Parhau â'r tiwtorial gyda Fformatio