Will Joseph

chwarewr rygbi'r unded

Roedd Will Joseph (10 Mai, 1877 - 1959) yn chwaraewr Rygbi'r undeb rhyngwladol Cymreig. Roedd yn aelod o dîm buddugol Cymru a gurodd y Crysau Duon oedd ar daith ym 1905. Chwaraeodd rygbi clwb i Abertawe a rygbi sir i Forgannwg.

Will Joseph
Ganwyd10 Mai 1877 Edit this on Wikidata
Treforys Edit this on Wikidata
Bu farw1959 Edit this on Wikidata
Abertawe Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethchwaraewr rygbi'r undeb Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auTîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru, Clwb Rygbi Abertawe, Clwb Rygbi Sir Forgannwg Edit this on Wikidata
Safleprop Edit this on Wikidata
Gwlad chwaraeonCymru Edit this on Wikidata

Roedd Joseph yn cael ei ystyried yn flaenwr rhagorol i dîm Abertawe ar ddechrau'r 20fed ganrif, yn ystod cyfnod rhagorol yn hanes y tîm. Cafodd ei gydnabod fel chwaraewr cryf mewn sgrymiau tynn ac oherwydd ei daldra, roedd yn effeithiol iawn yn y llinell. [1] [2]

Bywyd personol golygu

Ganwyd Joseph yn Nhreforys, Abertawe yn blentyn i Griffith Joseph, gweithiwr yn y gwaith tunplat, a Sarah ei wraig. Roedd yn gefnder i'r chwaraewr rhyngwladol Dicky Owen. Mewn cyfnod lle'r oedd rygbi yn gêm amatur roedd yn ennill ei fywoliaeth fel gweithiwr dur. Ym 1906 priododd Elizabeth Davies yn eglwys blwyf Llangyfelach, ni fu iddynt blant.

Bu farw yn Nhreforys yn 82 mlwydd oed.

Gyrfa ryngwladol golygu

Cymru golygu

Gwnaeth Joseph ei ymddangosiad cyntaf dros Gymru yn erbyn Lloegr yn Blackheath ym 1902 yn 23 oed. Chwaraeodd Joseph mewn tair ymgyrch a enillodd y Goron Driphlyg, ond ei foment fwyaf ar y cae oedd pan chwaraeodd yn erbyn y Crysau Duon oedd ar daith ym 1905. Dymchwelwyd gyrfa ryngwladol Joseph ym 1906 ar ôl gêm yn erbyn tîm teithiol y Springboks. Er ei fod wedi chwarae gyda theilyngdod mawr mewn gêm gynharach yn erbyn De Affrica i dîm Sir Forgannwg; lle sgoriodd gais, [3] gollyngwyd Joseff ar ôl y gêm ryngwladol. Roedd pac Cymru yn y gêm honno yn ofnadwy a phenderfynodd y pwyllgor dethol i newid y pac cyfan, heb ystyried cyfraniad unigolion i'r gêm. [4] Daeth gyrfa Joseph gyda Chymru i ben ar ôl 16 cap yn 28 oed.

Gemau rhyngwladol [5] golygu

Yn o gystal a bod yn bencampwr rygbi bu Joseph hefyd yn bencampwr wrth chware coets. [6]

Llyfryddiaeth golygu

  • Parry-Jones, David (1999). Prince Gwyn, Gwyn Nicholls and the First Golden Era of Welsh Rugby. Pen-y-bont: seren. ISBN 1-85411-262-7.
  • Thomas, Wayne (1979). A Century of Welsh Rugby Players. Ansells Ltd.
  • Smith, David; Williams, Gareth (1980). Fields of Praise: The Official History of The Welsh Rugby Union. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. ISBN 0-7083-0766-3.

Cyfeiriadau golygu

  1. Smith (1980), tud 136.
  2. Parry-Jones (1999), tud 143.
  3. Parry-Jones (1999), tud 183.
  4. Thomas (1979), tud 38.
  5. Smith (1980), tud 468.
  6. "SWANSEA - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1903-09-05. Cyrchwyd 2021-04-11.