Will Roberts

arlunydd (1907-2000)

Arlunydd Cymreig oedd Will Roberts RCA (21 Rhagfyr 190711 Mawrth 2000). Mae'n enwog am ei gyfres o luniau mawr siarcol o weithwyr diwydiannol y de.

Will Roberts
Ganwyd21 Rhagfyr 1907 Edit this on Wikidata
Rhiwabon Edit this on Wikidata
Bu farw11 Mawrth 2000 Edit this on Wikidata
Castell-nedd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaetharlunydd Edit this on Wikidata

Ganed Roberts yn Rhiwabon, Sir Ddinbych, mab i weithiwr rheilffordd y Rheilffordd y Great Western. Symudodd y teulu i Gastell-nedd, Morgannwg pan oedd yn blentyn ym 1918. Astudiodd yng Ngholeg Celf Abertawe. Cyfarfodd Roberts â'r arlunydd Pwyleg Josef Herman ym 1945, roedd Herman yn byw yn Ystradgynlais ar y pryd, a buont yn paentio â'u gilydd yn aml. Yn ddiweddarach, cydnabyddodd Roberts ddylanwad Herman ar ei waith.[1] Ym 1962, enillodd Roberts wobr Byng-Stamper am baentio tirlun, a ddyfarnwyd gan Syr Kenneth Clark. Ym 1992 gwobrwywyd ef â chymrodoriaeth anrhydedd gan Goleg Prifysgol Abertawe, ac ym 1994 bu ei waith yn ganolbwynt yn arddangosfa ôl-syllol yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru. Derbyniodd Llyfrgell Genedlaethol Cymru rodd o 600 o ddarluniau Roberts ym 1998.

Cyfeiriadau golygu

  1. P. Joyner (2001). Will Roberts RCA Drawings. Llyfrgell Genedlaethol Cymru. ISBN 1-86225-025-1


   Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.