William Cope, Barwn 1af Cope

gwleidydd Cymreig

Roedd William Cope, Barwn 1af Cope (18 Awst 1870 - 15 Gorffennaf 1946) [1], yn wleidydd Ceidwadol Cymreig a wasanaethodd fel AS Llandaf a'r Barri rhwng 1918 a 1929. Roedd hefyd yn nodedig fel chwaraewr rygbi'r undeb rhyngwladol dros Gymru. Gwnaed ef yn farwnig ym 1928 a'i ddyrchafu i'r bendefigaeth fel y Barwn Cope ym mis Gorffennaf 1945.

William Cope, Barwn 1af Cope
Ganwyd18 Awst 1870 Edit this on Wikidata
Y Rhath Edit this on Wikidata
Bu farw15 Gorffennaf 1946 Edit this on Wikidata
Llaneirwg Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethchwaraewr rygbi'r undeb, gwleidydd, bargyfreithiwr Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 34ydd Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 33ydd Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o'r 32ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 31ain Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddoly Blaid Geidwadol Edit this on Wikidata
TadMatthew Cope Edit this on Wikidata
MamMargaret Harrison Edit this on Wikidata
PriodHelen Shuldham Edit this on Wikidata
PlantHelen Margaret Letitia Cope, William Shuldham Cope Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auClwb Rygbi Caerdydd, Y Barbariaid, Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru, Tîm rygbi'r undeb Prifysgol Caergrawnt, Blackheath F.C. Edit this on Wikidata

Cefndir golygu

Ganwyd Cope yn y Rhath, Caerdydd, yn fab i Matthew Cope o Laneirwg a Margaret (née Harrison) ei wraig.[2] Addysgwyd ef yn Ysgol Repton ac aeth i Goleg Clare, Caergrawnt ym 1888, gan raddio BA ym 1891 ac MA ym 1895.[3] Derbyniwyd ef i'r Deml Fewnol, ac ym 1894 galwyd ef i'r bar. Bu'n ymarfer fel bargyfreithiwr yn Llundain am oddeutu naw mlynedd.[4]

Disgrifiwyd ei dad, a fu farw ym 1933, mewn ysgrif goffa fel "arloeswr masnach lo De Cymru". Roedd yn gysylltiedig â Dociau Caerdydd, ac yn gadeirydd bwrdd Cwmni Glo Stêm Albion, a oedd yn rhedeg pwll glo'r Albion. Ymunodd William Cope â'r bwrdd ym 1907. Daeth y swydd i ben ym 1910, pan gymerodd y Cambrian Combine y cwmni drosodd.

Gyrfa wleidyddol golygu

Gyda dechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf ym 1914, ymunodd Cope ag Iwmyn Morgannwg, gan godi i reng uwchgapten. Methodd brawf meddygol am wasanaeth milwrol dramor. Yn Etholiad Cyffredinol 1918, safodd dros y Blaid Geidwadol yn etholaeth Llandaf a'r Barri.[5] Roedd Llandaf a'r Bari yn sedd newydd a Cope oedd ei Aelod Seneddol gyntaf. Ym 1923 fe'i penodwyd yn un o Arglwydd Iau'r Trysorlys (teitl swyddogol chwipiaid plaid y llywodraeth), swydd a ddaliodd tan 1928, gyda seibiant yn ystod Llywodraeth Llafur byr 1924. Ym 1928 cafodd ei greu yn farwnig.[6]

Ar ôl symud o swyddfa'r chwipiaid penodwyd Cope yn Rheolwr yr Aelwyd Frenhinol, rôl yr ymgymerodd â hi am flwyddyn yn unig pan adawodd y llywodraeth ym 1929. Daliodd sawl swydd yn ei sir enedigol, Morgannwg. Roedd yn Ynad Heddwch, ac yn Ddirprwy Raglaw ac ym 1932 fe'i gwnaed yn Uchel Siryf Morgannwg. Yn 1933 urddwyd ef yn Gwnsler y Brenin. Ym mis Gorffennaf 1945 cafodd ei ddyrchafu i'r bendefigaeth fel y Barwn Cope, o Laneirwg yn Sir Fynwy.[7]

Gyrfa rygbi golygu

Daeth Cope i'r amlwg gyntaf fel chwaraewr rygbi pan chwaraeodd i Brifysgol Caergrawnt tra’n fyfyriwr. Ym 1891 chwaraeodd yn Y Gêm Rhyngolegol yn erbyn Prifysgol Rhydychen, gan ennill Crys Glas chwaraeon. O 1891 hyd at 1895 trodd Cope allan am ei glwb cartref Clwb Rygbi Caerdydd. Ar ôl gadael y brifysgol roedd yn cynrychioli'r tîm haen uchaf Lloegr Blackheath.[8] Yn ystod tymor 1891-1892 daeth Cope yn aelod o dîm gwahodd y Barbariaid yn ail flwyddyn eu bodolaeth.[9]

Bedair blynedd yn ddiweddarach, dewiswyd Cope i gynrychioli Cymru fel rhan o Bencampwriaeth y Pedair Gwlad 1896 mewn gêm yn erbyn yr Alban.[10] Daethpwyd â Cope i mewn i dîm a welodd newid mawr i'r garfan ar ôl gêm agoriadol drychinebus yn erbyn Lloegr. Ymatebodd y dewiswyr i sgôr 25-0 trwy ddewis pum cap newydd yn y pac. Roedd Cope yn un o'r aelodau newydd, a lwyddodd o dan arweiniad Arthur Gould, i guro'r Alban 6-0. Er gwaethaf y fuddugoliaeth, hon oedd unig gêm ryngwladol Cope. Cafodd ei ddisodli gan fod Arthur Boucher ar gael i ddychwelyd ar gyfer gêm nesaf y Bencampwriaeth.

Teulu golygu

Priododd William Cope â Helen Shuldham (bu farw 21 Ionawr 1961), merch Alexander Shuldham o Flowerfield, Swydd Derry, Iwerddon, ar 5 Medi 1900.[11] Bu iddynt ddau o blant.

Marwolaeth golygu

Bu farw ym mis Gorffennaf 1946, yn 75 oed. Bu farw'r farwnigaeth a'r farwniaeth gydag ef, bu ei fab ac etifedd William Shuldham Cope marw yn Awstralia yn y blynyddoedd blaenorol.

Cyfeiriadau golygu

  1. ESPN Sports Media Ltd WILLIAM COPE Wales adalwyd 2 Mawrth 2021
  2. "Cope, 1st Baron, (William Cope) (18 Aug. 1870–15 July 1946)". WHO'S WHO & WHO WAS WHO. doi:10.1093/ww/9780199540884.013.u224113. Cyrchwyd 2021-03-02.
  3. "Cope, William (CP888W)". Cronfa Ddata Alumni Caergrawnt. Prifysgol Caergrawnt.
  4. "SOUTH GLAMORGAN - The Glamorgan Gazette". Central Glamorgan Printing and Publishing Company Limited. 1916-12-15. Cyrchwyd 2021-03-02.
  5. "Election Address Major William Cope - Barry Dock News". South Wales Advertising, Printing, and Publishing Company. 1918-12-13. Cyrchwyd 2021-03-02.
  6. The London Gazette:3 Mehefin 1928. Rhif: 33400. Tud. :4495
  7. The London Gazette:24 Gorffennaf 1945 Rhif:37193 Tud.:3835
  8. "FOOTBALL Cardiff v Blackheath - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1895-01-17. Cyrchwyd 2021-03-02.
  9. Nigel Starmer-Smith, The Barbarians (Macdonald & Jane's Publishers, 1977), t.219
  10. "The Welshmen's Victory - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1896-01-27. Cyrchwyd 2021-03-02.
  11. "WEDDINGS - South Wales Daily News". David Duncan and Sons. 1900-09-06. Cyrchwyd 2021-03-02.
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
etholaeth newydd
Aelod Seneddol dros Llandaf a'r Barri
19181929
Olynydd:
Charles Ellis Lloyd
Teitlau Pendefigaeth/Bonheddig
Rhagflaenydd:
creadigaeth newydd
Barwn Cope
1945–1946
Olynydd:
marw
Teitlau Anrhydeddus
Rhagflaenydd:
Syr Lewis Lougher
Uchel Siryf Morgannwg
1933-1934
Olynydd:
Thomas Edward Morel