William Crawshay II

metelegwr (1788-1867)

Diwydiannwr a pherchennog Gwaith Haearn Cyfarthfa ger Merthyr Tudful oedd William Crawshay (27 Mawrth 17884 Awst 1867), a adwaenir fel William Crawshay II i'w wahaniaethu oddi wrth ei dad, William Crawshay I.

William Crawshay II
Ganwyd27 Mawrth 1788 Edit this on Wikidata
Pendeulwyn Edit this on Wikidata
Bu farw4 Awst 1867 Edit this on Wikidata
Caversham Park Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethmetelegwr Edit this on Wikidata
TadWilliam Crawshay I Edit this on Wikidata
PriodElizabeth Homfray, Isabella Thompson, Isabella Johnson Edit this on Wikidata
PlantRobert Thompson Crawshay, Henry Crawshay, Francis Crawshay, merch anhysbys Crawshay, William Crawshay, Isabella Crawshay, Agnes Crawshay, Amelia Crawshay, James Crawshay, Jessey Crawshay, Annette Crawshay, Louisa Crawshay Edit this on Wikidata

Ganed ef ym Mhendeulwyn, Bro Morgannwg. Nid oedd gan William Crawshay yr hynaf lawr o ddiddordeb yng ngweithfeydd haearn y teulu, ac ar farwolaeth Richard Crawshay daeth y mab yn rheolwr gweithfeydd Cyfarthfa a Hirwaun. Prynodd weithfeydd haearn eraill yn Nhreforest a Fforest y Ddena. Daeth yn ffigwr dylanwadol dros ben ym mywyd diwydiannol de Cymru, a thyfodd Cyfarthfa yn fawr yn ystod ei gyfnod ef. Adwaenid ef fel "Brenin yr Haearn".

Yn 1824, adeiladodd blasdy, Castell Cyfarthfa, yr ochr draw i Afon Taf o waith haearn Cyfarthfa. Ymddeolodd i Caversham yn Lloegr yn 1847, a throsglwyddodd waith haearn Cyfarthfa i'w fab, Robert Thompson Crawshay, a'r gweithfeydd haearn eraill i ddau fab arall.

Ystyrid ef yn feistr caled gan rai, ac yr oedd gan ei weithwyr ef ran yn y protestiadau a arweiniodd at derfysgoedd 1831 ym Merthyr.