William Davies Evans

dyfeisiwr symudiad agoriadol mewn gwyddbwyll

Fforiwr o Gymro oedd y Capten William Davies Evans (27 Ionawr 17903 Awst 1872). Yn ogystal â bod yn fforiwr enwog fe'i cofir fel dyfeisydd 'Gambit Evans' mewn gwyddbwyll.

William Davies Evans
William Davies Evans, tua 1830.
Ganwyd27 Ionawr 1790 Edit this on Wikidata
Penfro Edit this on Wikidata
Bu farw3 Awst 1872 Edit this on Wikidata
Oostende Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon, Teyrnas Prydain Fawr Edit this on Wikidata
Galwedigaethchwaraewr gwyddbwyll Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Gwlad chwaraeonCymru Edit this on Wikidata

Ganwyd Evans mewn ffermdy o'r enw Musland ym mhlwyf Llantydewi ger Hwlffordd, Sir Benfro. Aeth i'r môr yn ifanc gan wasanaethu ar longau'r Llynges Brydeinig nes daeth Rhyfeloedd Napoleon i ben yn 1815. Wedyn ymunodd â'r Gwasanaeth Post a dod yn gapten pacedlong yr Auckland a hwyliai rhwng Milffwrdd a Waterford yn Iwerddon. Nid oes neb yn siwr iawn ymhle y dysgodd chwarae gwyddbwyll ond mae'n debyg iddo ddyfeisio'r gambit enwog ar y teithiau unig rhwng Cymru ac Iwerddon.

Yn 1826, cerddodd y Capten Evans i mewn i Ystafelloedd Gwyddbwyll William Lewis yn St. Martin's Lane, Llundain a chynnig chwarae rhai o chwaraewyr gwyddbwyll cryfa'r dydd. Doedd Evans ddim yn adnabyddus fel chwaraewr gwyddbwyll, ond wedi iddo esbonio pam ei fod am eu chwarae llwyddodd i berswadio A. McDonnell i chwarae gêm yn ei erbyn. Roedd McDonnell yn un o'r chwaraewyr gorau gynhyrchodd Iwerddon erioed, ac un o'r cryfaf ym Mhrydain ar y pryd. Gorffennodd y gêm ar yr 20fed symudiad a Chapten Evans yn fuddugol. Dyma ddechrau 'Gambit Evans' sydd wedi cael ei ddefnyddio gan chwaraewyr fel Paul Morphy, Jan Timman, ac yn y 1990au gan Garry Kasparov, yn fwyaf arbennig mewn buddugoliaeth 25 symudiad yn erbyn Viswanathan Anand ym Mhencampwriaeth Goffa Tal yn Riga, 1995.

Ffynonellau golygu