William Edmond Logan

daearegwr (1798-1875)

Daearegwr o Ganada oedd Syr William Edmond Logan (20 Ebrill 179822 Mehefin 1875).[1]

William Edmond Logan
Ganwyd20 Ebrill 1798 Edit this on Wikidata
Montréal Edit this on Wikidata
Bu farw22 Mehefin 1875 Edit this on Wikidata
Sir Benfro Edit this on Wikidata
Alma mater
Gwobr/auMarchog Faglor, Medal Wollaston Edit this on Wikidata

Ganwyd ym Montréal, Cwebéc, i rieni Albanaidd. Cafodd ei addysgu ym Mhrifysgol Caeredin, a dechreuodd weithio i'w ewythr yn Llundain yn 1818. Yn y gwaith hwn, o 1831 i 1838, efe oedd yn gyfrifol am reoli pyllau glo a mwyndoddfa copr ger Abertawe, ac yno fe fagodd ddiddordeb mewn daeareg tra'n llunio mapiau'r maes glo.

Penodwyd Logan yn gyfarwyddwr cyntaf Arolwg Daearegol Canada yn 1842, a daliai'r swydd honno hyd iddo ymddeol yn 1869. Cyhoeddodd ei adroddiad enfawr ar ddaeareg Canada yn 1863. Bu farw yng Nghastell Malgwyn, ar y ffin rhwng Ceredigion a Sir Benfro, yn 77 oed.

Enwir Mynydd Logan, mynydd uchaf Canada, ar ei ôl.

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) William Edmond Logan. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 9 Mehefin 2018.