William George Cove

Roedd William George Cove (21 Mai 188815 Mawrth 1963) yn Aelod Seneddol y Blaid Lafur o 1923 i 1959.

William George Cove
Ganwyd21 Mai 1888 Edit this on Wikidata
Pontypridd Edit this on Wikidata
Bu farw15 Mawrth 1963 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 41fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 40fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 39fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 38ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 37ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 36fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 35ed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 34ydd Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 33ydd Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddoly Blaid Lafur Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar golygu

Ganwyd Cove ym Mhontypridd ar 21 Mai 1888 yn un o 10 o blant i Edwin Cove, glowr a oedd yn wreiddiol o Swydd Gaerloyw, a Jane ei wraig. Cyn cael ei ethol yn AS bu yn gweithio fel athro ym Mhontypridd [1]

Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf bu'n aelod o gorfflu meddygol y fyddin yr RAMC o 1915 i 1918 [2]

Gyrfa wleidyddol golygu

Cafodd ei ethol i Senedd San Steffan am y tro cyntaf ym 1923 yn gynrychiolydd y Blaid Lafur dros Wellingborough yn Swydd Northampton; cafodd ei ail-ethol i'r un sedd yn etholiad 1924. Ar ôl i Ramsey MacDonald symud o etholaeth Aberafan i etholaeth Seham safodd Cove yn ei le yn Aberafan yn etholiad 1929 a bu'n cynrychioli'r sedd yn San Steffan hyd ei ymddeoliad ym 1959.[3]

Bywyd personol golygu

Priododd Mary Jones ym Mhontypridd ym 1915.

Bu farw yn 74 oed yn Chipping Norton, Swydd Rydychen.

Cyfeiriadau golygu

  1. Yr Archif Genedlaethol Cyfrifiad 1911 RG14/32331 Rhif 261 - 18 Wyndham Street Treherbert
  2. Yr Archif Genedlaethol WO364 Darn: 820
  3. British Parliamentary Election Results 1918-1949, compiled and edited by F.W.S. Craig The Macmillan Press 1979