William Henry Dines

Meteorolegydd Seisnig oedd William Henry Dines BA FRS (5 Awst 185524 Rhagfyr 1927).[1]

William Henry Dines
Ganwyd5 Awst 1855 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Bu farw24 Rhagfyr 1927 Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethmeteorolegydd Edit this on Wikidata
Gwobr/auCymrawd y Gymdeithas Frenhinol, Symons Gold Medal Edit this on Wikidata

Ganwyd Dines yn Llundain, yn fab i George Dines,[2] a oedd hefyd yn feteorolegydd. Addysgwyd yn Ysgol Woodcote House, Windlesham, cyn mynychu Coleg Corpus Christi, Caergrawnt, lle derbyniodd radd dosbarth cyntaf mewn mathemateg ym 1881. Cyflawnodd o ymchwiliadau ar gyfer y Cymdeithas Meteoroleg Frenhinol ar bwnc egnïau gwynt, ac yn gytras â'r gwaith hwn, dyluniodd o'r anemomedr tiwb pwysedd. Ym 1901 cychwynnodd o ymchwil am broblemau'r awyrgylch uchaf, a dyluniodd neu perffeithiodd amrwy o offerynnau i'w defnyddio gyda barcudiaid, yn ogystal â ffurf o'r bwlch-farcud Hargraves, a brofodd i fod o werth fawr. Ym 1905 apwyntiwyd gan y Swyddfa Meteoroleg yn Gyfarwyddwr Arbrofion yn gytras ag ymchwiliau am yr awyrgylch uchaf, ac ym 1907 dyluniodd feteorograff i'w defnyddio gyda balwnau. Cynhyrchodd hefyd, ynghyd â Dr Napier Shaw, y meicrobarograff a baromedr mercwri oedd yn recordio, yn ogystal ag amryw o offerynnau eraill. Er na weithiodd erioed fel academydd llawn amser,[1] bu'n lywydd y Gymdeithas Meteoroleg Frenhinol rhwng 1901 ac 1902, ac ym 1905 etholwyd yn gymrawd y Gymdeithas Frenhinol. Roedd yn aelod o Gomisiwn Rhyngwladol Awyrennaeth Wyddonol, a daeth yn aelod anrhydeddus neu gohebol o amryw o gymdeithasau gwyddonol tramor. Mae'n awdur nifer o bapurau pwysig am feteoroleg yr awyrgylch uwch a gyhoeddwyd yn Transactions of the Royal Society, Geophysical Memoirs of the Meteorological Office a chyhoeddiadau eraill.

Roedd hefyd yn dad i John Somers Dines MA a Lewen Henry George Dines MA AMICE, dilynodd y ddau eu tad gan ddod yn feteorolegwyr.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2  M.E. Crewe. The Met Office Grows Up: In War and Peace. Cymdeithas Meteoroleg Frenhinol.
  2.  Dines, William (1855-1927). Archives in London and the M25 area.