Peiriannydd sifil o nôd oedd William Jessop (23 Ionawr 174518 Tachwedd 1814), yn fwyaf adnabyddys am ei waith ar gamlesi, porthladdoedd a rheilffyrdd cynnar yn ystod diwedd yr 18fed a'r 19g cynnar.

William Jessop
Ganwyd23 Ionawr 1745 Edit this on Wikidata
Plymouth Edit this on Wikidata
Bu farw18 Tachwedd 1814 Edit this on Wikidata
Butterley Hall Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Galwedigaethpeiriannydd sifil, peiriannydd Edit this on Wikidata
Swyddmayor of a place in England Edit this on Wikidata
PriodSarah Sawyer Edit this on Wikidata
PlantJohn Jessop, William Jessop Junior Edit this on Wikidata

Dyddiau cynnar golygu

Ganwyd Jessop yn Devonport, Dyfnaint yn 1745, yn fab i Josias Jessop, fforman saer llongau yn y Porthladd Morol. Roedd Josias Jessop yn gyfrifol am drwsio a chynnal Tŵr Rudyerd, goleudy pren ar Eddystone. Cyflawnodd y dasg yma am ugain mlynedd hyd 1755, pan losgodd y goleudy i lawr. Creodd y peiriannydd sifil blaengar, John Smeaton, gynlluniau ar gyfer goleudy newydd carreg a daeth Josias yn gyfrifol am orolygu'r gwaith adeiladu. Daeth y ddau ddyn yn ffrindiau agos, a phan fu farw Josias yn 1761, dyflwydd ar ôll cwblhau'r goleudy, cymerwyd William Jessop ymlaen fel disgybl gan Smeaton (a oedd hefyd yn warcheidwar William Jessop), yn gweithio ar amryw o gamlesi yn Swydd Efrog.[1]

Gweithiodd Jessop fel cynorthwyydd i Smeaton am nifer o flynyddoedd cyn dechrau gweithio fel peiriannydd ar ei ben ei hun. Cynorthwyodd Smeaton gyda chamlesi Calder a Hebble a'r Aire a Calder yn Swydd Efrog.[1]

Ffynonellau golygu

  1. 1.0 1.1 Rolt, L.T.C., “Great Engineers”, 1962, G. Bell and Sons Ltd, ISBN