William Jones (Gweinidog y Bedyddwyr Albanaidd)

gweinidog Bedyddwyr Albanaidd, golygydd, ac awdur

Roedd William Jones (17 Mehefin 176221 Ionawr 1846) yn llyfrwerthwr o Gymru, yn awdur crefyddol. Roedd yn arweinydd eglwys y Bedyddwyr Albanaidd yn Finsbury, Llundain.[1]

William Jones
Ganwyd17 Mehefin 1762 Edit this on Wikidata
Gresffordd Edit this on Wikidata
Bu farw21 Ionawr 1846 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethgweinidog yr Efengyl, golygydd, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Am bobl eraill o'r un enw, gweler William Jones.

Bywyd golygu

Ganed Jones yng Ngresffordd, yn fab i William a Mary Jones, cafodd ei fagu yn Poulton, Swydd Gaer. Dechreuodd weithio fel prentis yng Nghaer ym 1780, a daeth ar draws cynulleidfa o Fedyddwyr yno. Ym 1782–3 symudodd i Lundain, lle bu yng nghynulleidfa Abraham Booth, gan ddychwelyd i Gaer ar ôl tua blwyddyn.[2]

Daeth Jones o dan ddylanwad Archibald McLean (sefydlwr enwad y Bedyddwyr Albanaidd). Bu McLean yn pregethu yng Nghaer am rai wythnosau yn nhymor yr hydref, 1786, a bedyddiwyd Jones ganddo. Ymunodd y gynulleidfa leol â'r Bedyddwyr Albanaidd.[2]

Symudodd Jones i Lerpwl i weithio fel llyfrwerthwr yn Castle Street, ym 1793, gan brynu'r busnes gan ei frawd-yng-nghyfraith, a chyhoeddi gwaith McLean A Defence of Believer-Baptism. Yn y cyfnod hwn cynhaliodd gyfarfodydd crefyddol yn ei gartref, efallai ei fod hefyd yn mynychu oedfaon Samuel Medley hefyd. Ar ddiwedd y 1790au sefydlodd McLean gynulleidfa yn Lord Street Lerpwl, gyda J. R. Jones, Ramoth. Roedd William Jones yn flaenor yn yr eglwys hon.[1]

Ym 1812 symudodd Jones i Lundain, gan weithio fel llyfrwerthwr. Bu'n weinidog lleyg yr eglwys yn Windmill Street, Finsbury, am weddill ei oes.[1][2] Erbyn diwedd y 1820au, gan ddioddef trafferthion ariannol, wnaeth Jones ymgymryd â'r gwaith o ysgrifennu llyfrau i Thomas Tegg.[3] Y myfyriwr celf Americanaidd Peyton C. Wyeth a gyflwynodd Jones i Alexander Campbell yng nghanol y 1830au.[4]

Gweithiau golygu

Prif weithiau Jones oedd:

  • Life of Abraham Booth, 1808.
  • History of the Waldenses, 1812, ailgyhoeddwyd fel History of the Christian Church, 1817 (4ydd argraffiad, 1819); sydd weithiau'n cael ei dadogi ar gam i William Jones, Nayland.
  • Biblical Cyclopædia, 1816.
  • Dictionary of Religious Opinions, 1817.
  • Christian Biography, 1829.
  • Autobiography, (golygwyd gan ei fab) 1846.

Golygodd Jones hefyd gyfres o gyfnodolion roedd Theological Repository (1800) a Christian Advocate (1809) o'i gyfnod yn Lerpwl.[2] Yn Llundain golygodd y New Evangelical Magazine a newidiodd ei henw i'r New Baptist Magazine ym 1825. Daeth y cylchgrawn i ben ym 1826.[5][6] Wedyn cyhoeddodd a golygodd The Baptist Miscellany and Particular Baptist Magazine (cychwynnwyd ym 1827, gan redeg am chwe mlynedd).[3]

Ym 1829 cyhoeddodd Jones ddarlithoedd ar yr Apocalypse.[7] Cyflwynodd ei Millennial Harbinger (1835) damcaniaethau Alexander Campbell. Yn ddiweddarach bu rhwyg rhwng Jones a Campbell. Yn gyffredinol, cyhoeddodd Jones ddeunydd a oedd yn cefnogi'r Bedyddwyr Albanaidd. Roedd yn gefnogol i'r mudiad oedd am adfer yr eglwys i symlrwydd yr eglwys fore yng Nghyfnod yr Apostolion. Roedd yn gwrthwynebu crefydd sefydledig. Roedd gan ei gyhoeddiadau a olygodd gylchrediad eang yn yr Alban.[1]

Golygodd Jones weithiau Archibald McLean a Samuel Stennett.[8][9] Ysgrifennodd gofiannau i Adam Clarke, Rowland Hill, ac Edward Irving.[10]

Teulu golygu

Priododd Jones â Maria Crane, merch Thomas Crane, aelod o'i gynulleidfa yng Nghaer, ym 1786.[11]

Marwolaeth golygu

Bu farw yn Llundain yn 83 mlwydd oed a chladdwyd ei gweddillion ym mynwent Bunhill Fields.

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 Jones, J. I., (1953). JONES, WILLIAM (1762 - 1846), gweinidog Bedyddwyr Albanaidd, golygydd, ac awdur. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 25 Maw 2020
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 Timothy D. Whelan (2009). Baptist Autographs in the John Rylands University Library of Manchester, 1741-1845. Mercer University Press. t. 410. ISBN 978-0-88146-144-2.
  3. 3.0 3.1 The Wesleyan methodist association magazine. 1846. t. 354.
  4. John Renwick (April 2010). Reformation to Restoration: The Restoration Ideal in Europe from the 16th to the 19th Century and the Rise of New Testament Churches in Britain and America with a Special Focus O. iUniverse. t. 39. ISBN 978-1-4502-2412-3.
  5. Baptist Magazine and Literary Review. J. Burditt and W. Button. 1846. t. 538.
  6. William Thomas Whitley (1916). A Baptist Bibliography. Georg Olms Verlag. t. 225. ISBN 978-3-487-41340-2.
  7. Samuel Austin Allibone (1859). A Critical Dictionary of English Literature, and British and American Authors, Living and Deceased, from the Earliest Accounts to the Middle of the Nineteenth Century: Containing Thirty Thousand Biographies and Literary Notices, with Forty Indexes of Subjects. Trübner. t. 995.
  8. (Saesneg) "McLean, Archibald". Oxford Dictionary of National Biography (arg. online). Gwasg Prifysgol Rhydychen.CS1 maint: ref=harv (link) (mae angen tanysgrifiad neu aelodaeth o lyfrgell gyhoeddus i ddarllen yr erthygl)
  9. (Saesneg) "Stennett, Joseph". Oxford Dictionary of National Biography (arg. online). Gwasg Prifysgol Rhydychen.CS1 maint: ref=harv (link) (mae angen tanysgrifiad neu aelodaeth o lyfrgell gyhoeddus i ddarllen yr erthygl)
  10. William Cathcart (1 April 2001). The Baptist Encyclopedia -. The Baptist Standard Bearer, Inc. t. 622. ISBN 978-1-57978-910-7.
  11. Timothy D. Whelan (2009). Baptist Autographs in the John Rylands University Library of Manchester, 1741-1845. Mercer University Press. t. 39 note 171, 410. ISBN 978-0-88146-144-2.