William Morris (AS Caerfyrddin)

banciwr a gwleidydd

Roedd William Morris (25 Mehefin 181125 Chwefror 1877) yn fancer ac yn wleidydd Cymreig a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Rhyddfrydol Bwrdeistref Caerfyrddin rhwng 1864 a 1868.[1]

William Morris
Ganwyd25 Mehefin 1811 Edit this on Wikidata
Llangynnwr Edit this on Wikidata
Bu farw25 Chwefror 1877 Edit this on Wikidata
Llangynog Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
GalwedigaethAelod Seneddol, y Deyrnas Unedig, banciwr, gwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 19fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 18fed Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Ryddfrydol Edit this on Wikidata
Am bobl eraill o'r un enw, gweler William Morris.

Cefndir golygu

Ganwyd Morris yn Llangynnwr yn ail fab i Thomas Morris a Maria ei wraig.

Cafodd ei addysgu yn ysgol ramadeg Caerfyrddin.[2]

Ym 1847 priododd Magdalen Mary Anna merch Sackville F Gwynne, Parc Glanbrân. Bu iddynt dau fab ac un ferch.

Gyrfa golygu

Yn y 1780au agorodd hen dad-cu Morris banc yng Nghaerfyrddin o’r enw David Morris & sons. O dan reolaeth y meibion daeth yn fusnes hynod lwyddiannus a phan roddodd David Morris, ewythr William y gorau i’w gyfran ef o’r banc er mwyn bod yn Aelod Seneddol ym 1837 roedd yn werth tua £250,000 (gwerth tua £18 miliwn bellach).[3] Etifeddodd William a’i frawd hŷn Thomas Charles Morris y banc gan ei redeg hyd 1871, pan werthwyd y cwmni i’r National Provincial Bank of England.

Gyrfa wleidyddol golygu

Ar farwolaeth ei ewyrth David Morris ym 1864 etholwyd William i sedd Bwrdeistref Caerfyrddin yn ddiwrthwynebiad ar ran y Blaid Ryddfrydol. Cafodd ei ail ethol yn ddiwrthwynebiad yn etholiad cyffredinol 1865, ond torrodd ei iechyd a phenderfynodd sefyll i lawr o’r senedd ar adeg etholiad cyffredinol 1868.

Gwasanaethodd fel henadur ar Gorfforaeth Bwrdeistref Caerfyrddin am nifer o flynyddoedd a bu’n faer ar bedwar achlysur. Bu’n Ynad Heddwch ar fainc Sir Gaerfyrddin ac yn is raglaw’r sir. Gwasanaethodd fel Uchel Siryf ym 1858.[4]

Marwolaeth golygu

Bu farw yn ei gartref Y Cwm (neu Coomb fel bu rhai yn ei sillafu), Llangynog yn 68 mlwydd oed.

Cyfeiriadau golygu

  1. "DEATHOFMRWILLIAMMORRISIOFCWM - The Western Mail". Abel Nadin. 1877-02-26. Cyrchwyd 2017-09-06.
  2. 2.0 2.1 Thomas Nicholas, 1872 Annals and antiquities of the counties and county families of Wales; containing a record of all ranks of the gentry adalwyd 7 Medi 2017
  3. Value of British money at today's date adalwyd 22 Ionawr 2017
  4. Williams, William Retlaw, The parliamentary history of the Principality of Wales, from the earliest times to the present day, 1541-1895 adalwyd 7 Medi 2017
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
David Morris
Aelod Seneddol Bwrdeistref Caerfyrddin
1864-1868
Olynydd:
John Cowell-Stepney