William Pritchard Morgan

Roedd William Pritchard Morgan Brenin Aur Cymru (18445 Gorffennaf 1924) yn gyfreithiwr, mwynwr aur a gwleidydd Rhyddfrydol Cymreig. Bu'n berchennog ar waith aur y Gwynfynydd, Dolgellau ac yn Aelod Seneddol Bwrdeistref Merthyr Tudfil rhwng 1888 a 1900.[1]

William Pritchard Morgan
Cartŵn o William Pritchard Morgan AS o Papur Pawb 1893
Ganwyd1844 Edit this on Wikidata
Bu farw5 Gorffennaf 1924 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethcyfreithiwr, gwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 26ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 25ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 24ain Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Ryddfrydol Edit this on Wikidata

Aur Awstralia golygu

Cyn dod yn ôl i Gymru, fe wnaeth William Morgan enill cyfoeth yn rhuthr aur Awstralia.[2]

Aur Gwynfynydd golygu

Bu William Pritchard Morgan yn cloddio yn ddirgel am aur yng Ngwynfynydd ac ym mis Gorffennaf 1887, cyhoeddwyd darganfyddiad gywhtien newydd o aur. Roedd William yn gobeithio cadw'r darganfyddiad yn gyfrinach cyn creu sioe a chyflwyno'r bar cyntaf o aur i Frenhines Fictoria.[2]

Ar ôl cyhoeddiad y newyddion, aeth degau o rai yno i gloddio a newyddiadura a bu'n rhaid i William wneud cais i'r llysoedd lleol i gadw dau gwnstabl ar y safle. Daeth William yn fwy cyfoethog byth ac adnabyddywd fel 'Brenin Aur Cymru'.[2]

Roedd William Pritchard Morgan eisoes wedi ennill ei ffortiwn yn ystod Rhuthr Aur Awstralia ond diolch i'w ddarganfyddiad ym Meirionnydd daeth Morgan yn fwy cyfoethog fyth.[2]

O dan berchnogaeth Morgan, cyflogwyd 200 o weithwyr yng Ngwynfynydd. Roeddent yn cloddio mewn twneli cul i fewn i'r graig dan olau cannwyll.[2]


Cyfeiriadau golygu

  1. Papur Pawb 22 Ebrill 1893 William Pritchard Morgan AS [1] adalwyd 13 Mawrth 2015
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 2.4 "Dolgellau: Cloddio am aur". BBC Cymru Fyw. 2023-11-02. Cyrchwyd 2023-11-07.
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Henry Richard
Aelod Seneddol Bwrdeistref Merthyr Tudfil
18881900
Olynydd:
Keir Hardy


  Eginyn erthygl sydd uchod am wleidyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.