William Roberts (meddyg)

ffisigwr Cymreig

Roedd Syr William Roberts (18 Mawrth 183016 Ebrill 1899) yn feddyg Cymraeg. Ganwyd Roberts ym Modedern ar 18 Mawrth 1830. Roedd yn fab i David a Sarah Roberts. Addysgwyd yn Mill Hill School ac ym Mhrifysgol Llundain. Graddiodd hefo BA yn 1851. M.B yn 1853 a M.D yn 1854. Treuliodd rhan o'i amser yn Ffrainc a'r Almaen wrth astudio am ei radd.

William Roberts
Ganwyd18 Mawrth 1830 Edit this on Wikidata
Bodedern Edit this on Wikidata
Bu farw16 Ebrill 1899 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethmeddyg Edit this on Wikidata
Gwobr/auCymrawd y Gymdeithas Frenhinol, Cymrawd Coleg Brenhinol y Meddygon Llundain, Araith Harveian Edit this on Wikidata

Dyddiau cynnar golygu

Ar ôl cwblhau ei addysg ym meddyginiaeth, penodwyd yn brif lawfeddyg yn Manchester Royal Infirmary a daeth yn aelod o'r Royal College of Surgeons. Penodwyd yn Athro Meddyginiaeth yn Owens College, Manceinion o 1863 i 1883. Ei faes penodedig oedd afiechydon arennol.

Manceinion golygu

Symudodd un o'i frodyr i Fanceinion a daeth yn llewyrchus yn y busnes dillad (drapery). Roedd nifer o aelodau o'r teulu wedi symud i'r ardal hon oherwydd y busnes. Roedd gan Manceinion Clafdy ac ysgol feddygol boblogaidd. Roedd yn lle delfrydol i feddyg ifanc newydd raddio.[1] Penderfynodd Roberts symud yno a daeth yn brif lawfeddyg yn y Royal Informary. Yn ystod y blynyddoedd cyntaf ym Manceinion fe syrthiodd mewn cariad hefo Elizabeth Johnson a phriododd y ddau. Roedd hefyd yn ddarlithydd mewn anatomeg a ffisioleg yn y Royal School of Medicine ym Manceinion.[1] Ar ôl dau ddeg pedwar blynedd ym Manceinion symudwyd Roberts i Lundain lle dreuliodd ei ymddeoliad. Roedd yn rhannu ei amser rhwng Llundain a'i ystâd, Y Bryn yn Llanymawddwy.

Marwolaeth golygu

Bu farw Syr William Roberts yn Llundain yn 1899. Claddwyd yn y fynwent yn Llanymawddwy.

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 Anglesey Remembers Some Of Its Eminent People gan Margaret Hughes