William Vernon Harcourt

gwleidydd, cyfreithegydd, newyddiadurwr (1827-1904)

Roedd Syr William George Granville Venables Vernon Harcourt, KC (14 Hydref 18271 Hydref 1904) yn gyfreithiwr, newyddiadurwr a gwleidydd Seisnig a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Rhyddfrydol nifer o etholaethau rhwng 1868 a 1904, gan gynnwys etholaeth Gorllewin Sir Fynwy 1895 i 1904.[1]

William Vernon Harcourt
Ganwyd14 Hydref 1827 Edit this on Wikidata
Efrog Edit this on Wikidata
Bu farw1 Hydref 1904 Edit this on Wikidata
Nuneham Courtenay Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Lloegr Lloegr
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd, cyfreithegwr, newyddiadurwr, bargyfreithiwr Edit this on Wikidata
SwyddArweinydd yr Wrthblaid, Canghellor y Trysorlys, Ysgrifennydd Cartref, aelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig, Aelod o 27ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 26ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 25ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 24ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 23ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 22ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 21ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 20fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 22ain Senedd y Deyrnas Unedig, Arweinydd y Tŷ Cyffredin Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Plaid WleidyddolPlaid Ryddfrydol Edit this on Wikidata
TadWilliam Vernon Harcourt Edit this on Wikidata
MamMatilda Mary Gooch Edit this on Wikidata
PriodMaria Theresa Lister, Elizabeth Cabot Motley Edit this on Wikidata
PlantAnhysbys Harcourt, Julian Harcourt, Lewis Harcourt, Robert Harcourt Edit this on Wikidata
Gwobr/auCymrawd y Gymdeithas Frenhinol, Marchog Faglor Edit this on Wikidata

Yn ystod ei yrfa bu'n aelod Seneddol yn y Deyrnas Unedig, Canghellor y Trysorlys, aelod o Gyfrin Gyngor Deyrnas Unedig, Arweinydd yr Wrthblaid ac yn Ysgrifennydd Cartref. Roedd hefyd yn aelod o'r Gymdeithas Frenhinol. Enillodd ef nifer o wobrau, gan gynnwys Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol.

Cefndir golygu

Ganwyd Harcourt yn ninas Efrog, Swydd Efrog, yn fab i'r Parchedig Ganon William Vernon Harcourt a oedd yn gwasanaethu fel canon arhosol Eglwys Gadeiriol Efrog ar y pryd. Ei fam oedd Matilda Mary (née Gooch) merch y Colnel William Gouch. Roedd Taid tadol Harcourt, Y Gwir Barchedig Edward Harcourt yn Archesgob Efrog.

Cafodd ei addysgu gartref gan dysgodres o'r Swistir hyd cyrraedd wyth mlwydd oed pan symudodd i ysgol preifat yn Southwell, Swydd Nottingham. Wedi cyfnod o cael addysg yn y clasuron gan diwtor preifat aeth i Goleg y Drindod, Caergrawnt gan ennill gradd dosbarth cyntaf yn y clasuron.[2]

Priododd Maria Theresa Lister ym 1859. Roedd hi'n ferch i'r nofelydd Thomas Henry Lister. Bu iddynt dau fab. Bu farw Maria wrth esgor yr ail fab ym 1863. Ym 1876 priododd ei ail wraig, Elizabeth Cabot Motley, roedd hi'n weddw i Thomas Poynton Ives a bu farw yn Rhyfel Cartref America. Bu iddynt un fab.

Gyrfa golygu

Ym 1852 aeth i astudio i Lincoln's Inn gan cael ei alw i'r bar yn y Deml Ganol ym 1854. Bu'n arbenigo yng nghyfraith y rheilffyrdd. Fe'i godwyd yn Gwnsler y Frenhines ym 1866 a chafodd ei benodi'n darlithydd yn y gyfraith rhyngwladol gan Brifysgol Caergrawnt ym 1869.[3]

Yn ogystal â gweithio fel cyfreithiwr ac athro'r gyfraith bu Harcourt hefyd yn newyddiadurwr achlysurol a oedd yn cyfrannu erthyglau i The Morning Chronicle, The Saturday Review a The Times

Gyrfa wleidyddol golygu

Ysgrifennydd Cartref golygu

Safodd ei etholiad cyntaf yn etholaeth Kirkcaldy yn yr Alban, ond aflwyddiannus bu'r ymgais.[4] Cafodd Harcourt ei ethol yn Aelod Seneddol Rhyddfrydol Rhydychen ym 1868. Cafodd ei benodi yn Dwrnai Cyffredinol ym 1873, cafodd ei urddo'n farchog yn yr un flwyddyn. Cadwodd ei sedd yn etholiad cyffredinol 1880 a'i benodi yn Ysgrifennydd Cartref gan y Prif Weinidog William Gladstone. Gan fod yr Ysgrifennydd Cartref yn derbyn cyflog gan y wladwriaeth roedd raid iddo sefyll is etholiad orfodol o dan rheolau'r cyfnod er mwyn i'w etholwyr cadarnhau eu bod yn dymuno cael eu cynrychioli gan was cyflog.[5] Collodd yr isetholiad i'r Ceidwadwr Alexandra William Hall.[6] Cafodd etholiad Hall ei ddiddymu oherwydd ymddygiad anghyfreithiol yn yr etholiad. Erbyn i Hall colli'r sedd roedd Harcourt eisoes wedi cael ei ail ethol i'r Senedd ar gyfer etholaeth Derby wedi i Samuel Plimsoll (dyfeisydd y llinell Plimsoll ar longau) sefyll i lawr i wneud lle iddo.[4]

Ymysg y pethau bu'n ymdrin a nhw yn ystod ei gyfnod fel Ysgrifennydd Cartref oedd dod ag achos yn erbyn dau forwr oedd wedi lladd a bwyta corff cyd forwr, wedi iddynt bron a llwgu i farwolaeth wedi llongddrylliad. Cymudo'r dedfryd o'r gosb eithaf a roddwyd i'r llofrudd John "Babbacome" Lee wedi i dair ymgais i'w dienyddio methu.[7] Delio gydag achos Baban y Swyddfa Gartref, pan danfonwyd corff baban marw anedig iddo mewn parsel [8] ac achos Rhyngosodiad Harcourt, pan rhoddwyd gair rheg i mewn i adroddiad yn The Times am araith iddo ei wneud.[9]

 
Syr Gwilym ap Harddgot wedi ei anrhegu a sedd Cymreig, wedi iddo colli yn Derby

Chwaraeodd ran allweddol, fel ysgrifennydd cartref, wrth i broblem Iwerddon rhoi pwysau cynyddol ar drafodaethau'r senedd. Bu'n gyfrifol am hynt nifer o filiau'r llywodraeth ar gyfer cynnal trefn yno, yn enwedig wrth i broblemau gynyddu wedi llofruddiaeth yr Arglwydd Frederick Cavendish a Thomas Henry Burke ym Mharc Phoenix yn Nulyn ym mis Mai 1882. Yn gynharach yn y sesiwn roedd wedi pasio bil drwy Dŷ'r Cyffredin i wella a gwneud llywodraethu'r Alban yn fwy annibynnol, dim ond i weld y bil yn cael ei drechu yn Nhŷ'r Arglwyddi. Roedd yn amddiffynnwr ysbrydoledig o'r llywodraeth pan ymosodwyd arni'n ddirfawr wedi gwymp Khartoum a marwolaeth Charles George Gordon ym mis Ionawr 1885. Yna gostyngwyd mwyafrif y llywodraeth i bedair ar ddeg, ac ym mis Mai fe'i trechwyd gan gynghrair o'r Gwyddelod ac aelodau o'r Torïaid mewn pleidlais am newid y gyllideb.

Canghellor y Trysorlys golygu

Ymddiswyddodd llywodraeth Gladstone ym mis Mai 1885 a daeth Yr Arglwydd Salisbury yn Brif weinidog gyda chefnogaeth yr ASau Gwyddelig. Cynhaliwyd etholiad Cyffredinol ym mis Tachwedd 1885. Roedd yr aelodau Gwyddelig yn dal i gadw cydbwysedd grym. Gydag addewid am ddeddf hunan lywodraeth rhoddodd y Gwyddelod eu cefnogaeth i Ryddfrydwyr Gladstone cael ffurfio llywodraeth.  Gofynnodd Gladstone i Harcourt gwasanaethu fel Canghellor y Trysorlys. Ym mis Mehefin 1886 cafodd ddeddf hunan lywodraeth ei drechu syrthiodd y llywodraeth a chynhaliwyd etholiad cyffredinol a chollwyd gan y Rhyddfrydwyr.

Enillodd y Rhyddfrydwyr etholiad 1892 gyda mwyafrif o 40. Penodwyd Harcourt yn ganghellor eto yn llywodraeth olaf Gladstone. Roedd Gladstone bellach yn ei 80au a bu trafodaethau am bwy oedd i'w olynu. Y tri oedd yn y ras oedd Harcourt; Arglwydd Roseberry y Gweinidog Tramor a John Morley Ysgrifennydd yr Iwerddon. Ym 1894 penderfynodd Gladstone i ymddiswyddo o'r Brif weinidogaeth. Doedd y Frenhines Fictoria ddim yn hoff iawn o Gladstone. Wrth dderbyn ei ymddiswyddiad torrodd ar y confensiwn o ofyn i Brif Weinidog oedd yn ymddiswyddo am ei argymhelliad o bwy i ofyn i geisio ffurfio'r llywodraeth nesaf. Pe bai hi wedi gofyn mae'n debyg mae Harcourt bydda'i awgrym. Gofynnodd y Frenhines i Roseberry i geisio ffurfio llywodraeth. Bu cryn bwysau ar Harcourt a'i gynghreiriaid i wrthod gwasanaethu o dan Roseberry i sicrhau nad oedd modd iddo ffurfio llywodraeth a gorfodi'r Frenhines i roi'r cynnig i rywun arall. Derbyniodd Harcourt cynnig Roseberry i barhau i wasanaethu fel Canghellor y Trysorlys. Gan fod y Prif Weinidog newydd yn aelod o Dŷ'r Arglwyddi, cynyddodd dylanwad Harcourt trwy iddo ddyfod yn weinidog blaenaf Tŷ'r Cyffredin.[1][4]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 Stansky, P. (2008, January 03). Harcourt, Sir William George Granville Venables Vernon (1827–1904), politician. Oxford Dictionary of National Biography adalwyd 12 Mawrth 2019
  2. "Harcourt, William George Venables Vernon Granville Vernon (HRCT846WG)". A Cambridge Alumni Database. University of Cambridge adalwyd 13 Mawrth 2019
  3. Encyclopædia Britannica Sir William Harcourt adalwyd 13 Mawrth 2013
  4. 4.0 4.1 4.2 "SYR WILLIAM HARCOURT AS - Papur Pawb". Daniel Rees. 1895-08-03. Cyrchwyd 2019-03-13.
  5. "THE APPOINTMENT OF SIR WILLIAM HARCOURT - Monmouthshire Merlin". Charles Hough. 1880-04-30. Cyrchwyd 2019-03-12.
  6. "TRECHIAD SYR WM HARCOURTI YN RHYDYCHAIN - Y Genedl Gymreig". Thomas Jones. 1880-05-13. Cyrchwyd 2019-03-12.
  7. "The Torquay Tragedy - South Wales Echo". Jones & Son. 1885-02-24. Cyrchwyd 2019-03-13.
  8. "SENDING A CORPSE TO THE HOME SECRETARY - The Aberystwith Observer". David Jenkins. 1884-11-15. Cyrchwyd 2019-03-13.
  9. "GWEITHRED WARTHUS MEWN NEWYDDIADUR - Baner ac Amserau Cymru". Thomas Gee. 1882-02-01. Cyrchwyd 2019-03-13.

Dolenni allanol golygu

Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Charles Neate
Edward Cardwell
Aelod Seneddol dros Rhydychen
18681880
Olynydd:
Alexander William Hall
Joseph William Chitty
Rhagflaenydd:
Samuel Plimsoll
Michael Thomas Bass
Aelod Seneddol dros Derby
18801895
Olynydd:
Syr Henry Bemrose
Geoffrey Drage
Rhagflaenydd:
Cornelius Warmington
Aelod Seneddol dros Gorllewin Sir Fynwy
18951904
Olynydd:
Thomas Richards